| 1 | Cofnodion y cyfarfod diwethaf |
| Cadarnhawyd cofnodion y ddau gyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf a 24 Medi 2001. |
| 2 | Resource a Chymru |
| Roedd disgwyl i'r Cynulliad gyhoeddi'r adroddiad ym mis Ionawr 2002. |
| 3 | NCA |
| Adroddwyd bod y mesur archifau arfaethedig wedi'i ohirio, efallai tan sesiwn seneddol 2004-05. |
| 4 | Panel Ymgynghorol Adran 60 |
| Dywedodd SE ei bod wedi derbyn llythyr ynglŷn ag Adran 60 yn ystod yr wythnos hon, ond nid oedd neb arall a oedd yn bresennol wedi clywed dim. |
| 5 | Polisi Archifau Cymru |
| 5.1 | Adroddodd ME fod tua 860 o'r 1,000 o gopïau a argraffwyd wedi'u dosbarthu eisoes neu wedi'u hymrwymo i'w dosbarthu; a'i bod hi wedi cael gan yr argraffwyr amcangyfrif o gostau ailargraffu a oedd tua £1,000. |
| 5.2 | Roedd golygydd cylchgrawn Cymdeithas yr Archifyddion wedi cynnig cynnwys y fersiwn Saesneg yn rhifyn Ebrill 2002. Cytunodd ME i holi'r golygydd a fyddai modd cynnwys y cyflwyniad Cymraeg hefyd gyda nodyn yn datgan bod y polisi cyhoeddedig yn gyfangwbl ddwyieithog a'r fersiwn Gymraeg ar gael yn gyflawn ar wefan Cyngor Archifau Cymru. |
| 5.3 | Penderfynwyd bod digon o gopïau mewn llaw i gyflenwi pob aelod o Gymdeithas Archifyddion Cymru a chytunodd ME i holi pennaeth pob cadwrfa faint o aelodau a oedd heb dderbyn copi hyd yn hyn. |
| 6 | Casglu'r Tlysau |
| Adroddwyd bod y prosiect wedi dechrau gyda Gordon Reid yn ei gyfarwyddo. Roedd staff yn cael eu penodi a gallai pawb ddisgwyl ymweliad dros y misoedd nesaf gan Rosemary Jones, Uwch Swyddog Prosiect (a secondiwyd o'r Comisiwn Henebion), neu'i chydweithwyr hi. |
| 7 | Prosiect Teuluoedd a Stadau |
| Adroddwyd bod y prosiect yn dod yn ei flaen yn dda iawn. |
| 8 | Cyfarfod Cyhoeddus CDL |
| Roedd SB wedi mynychu'r cyfarfod mawreddog. |
| 9 | Archifau'r DU Ar-lein |
| Nid oedd SE wedi mynychu'r cyfarfod. |
| 10 | Rhwydwaith Archifau Cymru |
| 10.1 | Cytunwyd mai mân newidiadau yn unig oedd eu hangen ar ddrafft diweddaraf y ddogfen gais. Roedd Alison Berwick wedi addo anfon ei sylwadau at GJ a chytunodd GJ i dderbyn sylwadau hyd at ddiwedd mis Tachwedd 2001. |
| 10.2 | Cytunwyd bod y logo a luniwyd gan LlGC yn dderbyniol. |
| 10.3 | Trafodwyd y ddau ddewis ar gyfer cyfraniadau ariannol y partneriaid: (1) cyfrannu yn ôl £8 y fonds; a (2) cyfrannu yn ôl band nifer fonds (Band A: hyd at 100 fonds = £1,000; Band B: 101-500 fonds = £2,000; Band C: 501+ fonds = £3,500). Penderfynwyd gweithredu Opsiwn 2. Cytunodd GJ i gysylltu â'r partneriaid absennol a thrafod y penderfyniad gyda hwy. |
| 10.4 | Cytunwyd y dylai bob un o'r partneriaid lunio ei lythyr ei hun yn cefnogi'r cais ac yn nodi faint o gyfraniad ariannol a roddir ganddo i'r prosiect a'i anfon at GJ erbyn wythnos gyntaf mis Rhagfyr. |
| 10.5 | Cytunodd SE lunio llythyr ar bapur swyddogol y Cyngor yn datgan mai'r Llyfrgell Genedlaethol yw corff arweiniol y prosiect. |
| 10.6 | Cytunwyd i gyflwyno'r cais i GDL ym mis Rhagfyr. |
| 10.7 | Cytunwyd i geisio llythyrau cefnogaeth gan amryw sefydliad a chytunodd GJ i ddrafftio paragraff pwrpasol i'w gylchredeg i bob partner. Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn y llythyrau cefnogaeth hyn fyddai Dydd Llun, 17 Rhagfyr 2001. |
| 11 | Swyddog Datblygu |
| Eglurodd SE ei bod hi a chynrychiolwyr eraill y maes archifau wedi cyfarfod â Jenny Randerson ar 9 Hydref. Wrth ymateb i'w hapêl am gymorth, roedd JR wedi awgrymu y dylai'r Cyngor wneud cais i'r Cynulliad am arian i benodi swyddog datblygu i bontio'r cyfnod hyd nes y sefydlir corff yng Nghymru yn cyfateb i Resource. O ganlyniad roedd SE wedi llunio cais ar frys a'i anfon at Jane Edmunds ychydig ddiwrnodau ynghynt. |
| 12 | Cymru'n Creu |
| Yn y cyfarfod ar 9 Hydref roedd Jenny Randerson wedi cynnig dwy sedd i'r Cyngor, y naill ar brif bwyllgor Cymru'n Creu a'r llall ar ei is-bwyllgor TGCh. Roedd SE wedi mynychu cyfarfod yr is-bwyllgor y bore hwnnw. Penderfynwyd mai'r Cadeirydd ddylai gynrychioli'r Cyngor yn y pwyllgor a'r is-bwyllgor. |
| 13 | Cyfansoddiad |
| 13.1 | Dywedodd SB na fyddai Cyngor Abertawe yn codi dim am waith ei adran gyfreithiol ar gyfansoddiad CAC. Diolchwyd yn fawr i Gyngor Abertawe am hynny. |
| 13.2 | Penderfynwyd, er nad oedd angen ffurfio cwmni bellach er mwyn hyrwyddo ANW, ei bod yn briodol i'r Cyngor gael cyfansoddiad. Cytunodd SD ymgynghori â SB ynglŷn ag addasu'r ddogfen a baratowyd gan Gyngor Abertawe i lunio cyfansoddiad a fyddai'n 'cydseinio' ag amcanion strategaeth ddiwylliannol y Cynulliad. |
| 14 | Prosiect Mapio |
| Roedd Steven Jones wedi dweud wrth SE ei fod yn disgwyl pennu'r ddogfen y diwrnod hwnnw a bod bwriad i'w lansio'n gymharol dawel ynghyd â dau adroddiad arall cyn y Nadolig. Cytunwyd y dylai'r adroddiad gael ei gyflwyno gyda chais ANW i GDL yn atodiad cefnogol iddo; nad oedd angen tynnu llawer o sylw at yr adroddiad oherwydd yr oedd llawer wedi newid ers yr arolwg, ond mai da o beth fyddai cael gwybod pwy fyddai'n derbyn copi ohono; ac y dylid diolch i'r Archifdy Gwladol am baratoi'r adroddiad. |
| 15 | Ethol swyddogion |
| Ailetholwyd Susan Edwards yn gadeirydd y Cyngor a Gwyn Jenkins yn ysgrifennydd. |
| 16 | Cofnodion capeli ac ysgolion |
| Tynnwyd sylw at lythyr gan aelod o'r cyhoedd yn mynegi pryder am gofnodion capeli a llyfrau log ysgolion sydd mewn dwylo preifat. Cytunwyd y dylid ei ateb trwy ddweud bod mudiad CAPEL a'r gwasanaethau archifau yn gwneud eu gorau i ddiogelu'r cofnodion hyn a bod dyfodiad ANW yn mynd i hybu'r ymwybyddiaeth o'u pwysigrwydd. |
| 17 | Gweithdai Resource |
| 17.1 | Bu SE ac eraill mewn gweithdy ynglŷn â fframwaith dysg a mynediad Resource. Addawodd SE geisio cael e-gopi i'w gylchredeg. |
| 17.2 | Roedd SE a SB wedi'u gwahodd i fynychu gweithdy Resource ynglŷn ag ystadegau archifol. |
| 18 | Cwrs Archifau Bangor |
| Soniwyd nad oedd y cwrs archifau i'w gynnal ym Mangor yn 2002-2003 a bod dyfodol y cwrs mewn perygl. |
| 19 | Cyfarfod nesaf |
| Cytunwyd i gyfarfod nesaf yn Adran Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth, Prifysgol Cymru Aberystwyth, am 11 o'r gloch ar ddydd Iau, 21 Mawrth 2002. |
Yn ôl i'r
Tudalen Blaen