| 1 | Croeso |
| Croesawyd Brian Malaws, Terry Moseley, a Catherine Richards. |
| 2 | Ymddiheuriadau |
| S Beckley (GMorg); A Carr (PCBangor); S Davies (PCAberystwyth); G Evans (AOCC); S Jones (PRO); H Malaws (Henebion); D Rimmer (Gwent). |
| 3 | Cofnodion y cyfarfod diwethaf |
| Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2001. |
| 4 | Materion yn codi o'r cofnodion |
| 4.1 | Polisi Archifau Cymru |
| Roedd y Cyngor wedi derbyn £1,000 gan Resource i ailargraffu. | |
| Y cynrychiolwyr i anfon rhestr derbynwyr yr argraffiad cyntaf at SE. |
| 4.2 | Casglu'r Tlysau |
| Adroddwyd bod y prosiect yn codi stêm a'i fod wedi cael tipyn o sylw yn atodiad y Western Mail y diwrnod cynt. |
| 4.3 | Cofnodion capeli ac ysgolion |
| Roedd GJ wedi ateb y llythyrwr ac heb glywed mwy ganddo. |
| 4.4 | Fframwaith Dysg a Mynediad |
| Nodwyd bod peilot ar y gweill yn Lloegr a bod cyfarfod yn cael ei drefnu ym mis Mehefin i weld a ellir symud pethau ymlaen yng Nghymru. |
| 4.5 | Ystadegau Archifol |
| Am wahanol resymau nid oedd SE na SB wedi gallu mynychu gweithdy Resource. Darllenwyd llythyr gan Caroline Williams, LUCAS, yn holi pwy sy'n gyfrifol am gasglu ystadegau Cymru. | |
| Penderfynwyd bod RW yn mynd yn gyfrifol am gasglu'r ystadegau oddi wrth bob un o'r sefydliadau sy'n aelodau o CAC. Byddai RW yn dweud wrth Caroline Williams nad ydym wedi casglu ystadegau yn y gorffennol ond ein bod yn y broses o sefydlu mecanwaith i wneud hynny. Sefydlwyd gweithgor i drafod pa ystadegau y dylid eu casglu: Rowland Williams, Ann Rhydderch, Elisabeth Bennett. |
| 5 | Adroddiad y Cadeirydd |
| 5.1 | Resource a Chymru |
| Cafwyd adroddiad am gyfarfodydd y grŵp ymgynghorol. Disgwylid y papur ymgynghorol ar ei ffurf derfynol yn yr haf. |
| 5.2 | Swyddog Datblygu |
| SE i bwyso ar y Cynulliad i ariannu'r swydd yn y flwyddyn ariannol 2002-2003. |
| 5.3 | Cymru'n Creu |
| Nodwyd bod nifer o gyfarfodydd wedi'u cynnal a bod yr astudiaeth yn mynd yn ei blaen. Mynegwyd pryder am na bu ymgynghori â neb o'r archifyddion y tu allan i'r sefydliadau cenedlaethol. | |
| LT i ofyn i'r ymgynghorydd gysylltu â SE. Cynrychiolwyr i roi eu sylwadau i SE cyn i Gymru'n Creu gyfarfod ym mis Mai. |
| 5.4 | CDL Cymru |
| Nodwyd bod CDL wedi cynnal seminar yng Nghaerdydd i drafod pam yr oedd cyn lleied o archifdai a llyfrgelloedd Cymru wedi gwneud cais am ei nawdd. Bu'n gyfle i ddweud wrth GDL nad yw ei blaenoriaethau hi yn ateb gofynion yr archifdai fel y gwelir hwy yn adroddiad y Prosiect Mapio. |
| 5.5 | CWLIS |
| Soniwyd am gynlluniau Cymru ar y We a Chymryd Rhan; am lansio Rhwydwaith y Bobl yn Aberdâr ym mis Ionawr; am roi grym i'r gymuned ddysgu; am gynlluniau LISC Cymru; ac am arddangosiad yng nghyntedd y Cynulliad fis Mai. | |
| ME i drefnu bod y ddogfen bolisi yn cael lle amlwg yn yr arddangosiad. |
| 5.6 | ELWA |
| Nodwyd bod SE yn mynd i fynychu cyfarfod ELWA yng Nghaerdydd ar 19 Ebrill. |
| 6 | Adroddiad yr Ysgrifennydd |
| 6.1 | Adolygiad Pumlynyddol y Comisiwn Henebion |
| Nodwyd bod y Cyngor wedi derbyn holiadur gan y tîm adolygu. | |
| Cytunwyd y dylai SE ymateb i'r holiadur ar ran y Cyngor. |
| 6.2 | NCA |
| 6.2.1 | Adroddwyd bod y mesur archifau arfaethedig yn cael ei drafod o fewn y llywodraeth. Disgwylid ymgynghoriad ehangach yn ystod yr haf. |
| 6.2.2 | Croesawyd y newydd bod cytundeb Alison Berwick wedi'i adnewyddu tan Ebrill 2003. |
| 6.2.3 | Soniwyd bod gweithgor NCA yn trefnu digwyddiad yn San Steffan yn ystod mis Ebrill i godi proffil archifau. |
| ME i sicrhau bod y ddogfen bolisi yn cael lle yno. | |
| 6.2.4 | Nodwyd bod NCA yn arwain menter 'Mis Archifau', i'w gynnal, yn fwy na thebyg, ym Mehefin 2003. Cylchredwyd copi o'r cynllun busnes drafftiedig. |
| Penderfynwyd ystyried beth y gellir ei drefnu yng Nghymru yn rhan o'r fenter. |
| 7 | Rhwydwaith Archifau Cymru |
| 7.1 | Cais i GDL |
| Adroddwyd bod y cais wedi'i gyflwyno i GDL ychydig ddiwrnodau cyn y Nadolig a bod swyddog newydd ei phenodi i drin yr achos. Roedd GJ wedi holi a fyddai'r cyfnod ymateb o chwe mis yn cael ei gyfrif o ddyddiad y cyflwyno (mis Rhagfyr) neu o ddyddiad penodi'r swyddog achos (mis Mawrth), mater o bwys wrth anelu i ddechrau'r prosiect ym mis Hydref 2002. |
| 7.2 | Prosiect Teuluoedd a Stadau |
| Dosbarthwyd adroddiad byr am gynnydd y prosiect. Nodwyd bod y casgliadau y tu allan i LlGC i'w gorffen o fewn terfynau'r prosiect; a bod LlGC yn mynd i gyflogi un o'r staff am chwe mis ychwanegol i gwblhau'r gweddill. Apeliwyd at y sefydliadau eraill am wneud eu cywiriadau cyn gynted â phosibl. |
| 8 | Cyfansoddiad |
| Adroddwyd nad oedd SD wedi cael cyfle i lunio cyfansoddiad ar sail dogfen Abertawe. |
| 9 | Archifau Chwaraeon |
| Trafodwyd y cynllun i sefydlu amgueddfa chwaraeon i Gymru a oedd yn destun ymchwil gan un o weithgorau Cymru'n Creu. Mynegwyd pryder am ddiogelu unrhyw archifau a ddeuai i'r golwg yn sgil y datblygiad. Dylasai'r holiadur fod wedi cynnwys cwestiwn am archifau a'r Cyngor Archifau ddylai fod yn gyfrifol am ei drafod. Nodwyd bod gan y sefydliadau cenedlaethol gynrychiolaeth ar y gweithgor. Nid oedd GJ, cynrychiolydd LlGC, yn gallu mynychu'r cyfarfod nesaf, ond byddai Michael Francis yn mynd yn ei le. |
| 10 | Gregynog 2002 |
| Penderfynwyd cynnal cyfarfod ar 28 Medi neu 5 Hydref a soniwyd am nifer o bynciau a siaradwyr posibl. |
| 11 | Aelodaeth |
| Nodwyd bod Terry Moseley yn bresennol oherwydd yr oedd y Cyngor wedi gwahodd Gwasanaethau Rheoli Cofnodion y Cynulliad i anfon cynrychiolydd i'r cyfarfod hwn fel sylwedydd. | |
| Penderfynwyd gwneud y trefniant yn barhaol ac estyn i Wasanaethau Rheoli Cofnodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru gynrychiolaeth ar y Cyngor gyda statws sylwedydd fel HMC a'r PRO. |
| 12 | NRA |
| Adroddwyd bod HMC yn pryderu am y gostyngiad yn nifer y catalogau y mae'r NRA yn eu derbyn ac yn awyddus i wybod pam. Trafodwyd ai CAC ddylai drefnu arolwg o'r sefyllfa yng Nghymru. | |
| Penderfynwyd mai'r HMC ddylai holi pob archifdy yn uniongyrchol. Byddai CAC yn croesawu cael copi o'r adroddiad am sefyllfa Cymru. |
| 13 | Nodau 2001-2002 |
| Gosodwyd y nodau canlynol ar gyfer y flwyddyn 2001-2002: | |
| 13.1 | Hybu cynlluniau'r Cyngor i ddatblygu Rhwydwaith Archifau Cymru cyhyd â'u bod yn derbyn cefnogaeth CDL |
| 13.2 | Trefnu cyfarfod archifyddion Cymru yng Ngregynog ar y cyd â Chymdeithas yr Archifyddion |
| 13.3 | Cyfranogi'n llawn ym mhrosiect Casglu'r Tlysau |
| 13.4 | Ffurfioli cyfansoddiad ac ailedrych ar yr amcanion cyffredinol |
| 13.5 | Cyfrannu i'r drafodaeth sydd ar droed am gydweithio rhwng archifau, llyfrgelloedd, ac amgueddfeydd, a chynrychioli diddordebau'r domain yng Nghymru gan gynnwys Cymru'n Creu, a'r Strategaeth Ddiwylliannol |
| 13.6 | Trefnu casglu ystadegau am archifau yng Nghymru |
| 13.7 | Cynllunio ar gyfer bod yn rhan o ddigwyddiadau'r Mis Archifau |
| 14 | Cyfarfod nesaf |
| Cytunwyd i gyfarfod nesaf yn Neuadd y Sir, Llandrindod, am 11 o'r gloch ar ddydd Gwener, 12 Gorffennaf 2002. |
Yn ôl i'r
Tudalen Blaen