| 1 | Croeso |
| Rhoddwyd croeso arbennig i Martin Rolph. |
| 2 | Ymddiheuriadau |
| S Beckley (GMorg); G Evans (AOCC); T Moseley (Cynulliad); C Orr (Penfro); L Tomos (AAGaLl); R Williams (CymdArch). |
| 3 | Cofnodion y cyfarfod diwethaf |
| Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2002. |
| 4 | Materion yn codi o'r cofnodion |
| 4.1 | Polisi Archifau Cymru |
| Roedd y Polisi bron yn barod i'w ailargraffu. | |
| Apeliwyd ar bawb o'r cynrychiolwyr a oedd heb anfon rhestr derbynwyr yr argraffiad cyntaf at SE i wneud hynny yn ddiymdroi. |
| 4.2 | Casglu'r Tlysau |
| Cafwyd adroddiad byr am gynnydd y prosiect. |
| 4.3 | Fframwaith Dysg a Mynediad |
| Roedd SE wedi mynychu'r cyfarfod yn y Cynulliad fis Mehefin. Pan fyddai'r prosiectau peilot yn Lloegr yn trefnu cyfarfod adborth, byddai cynrychiolwyr Cymru yn cael eu gwahodd iddo. |
| 4.4 | Ystadegau Archifol |
| Nid oedd y gweithgor wedi cwrdd. Nodwyd bod Resource yn cyfarfod yr wythnos wedyn i drafod casglu ystadegau. Awgrymwyd y gellid rhoi'r dasg o gasglu ystadegau Cymru i archifydd dan hyfforddiant; ac roedd gan ARh un mewn golwg. | |
| Dewiswyd Rob Baker i fynychu cyfarfod Resource ar ran y Cyngor. |
| 4.5 | Swyddog Datblygu |
| Doedd dim newydd am ariannu'r swydd. |
| 4.6 | CDL Cymru |
| Penderfynwyd gofyn i Susan Beckley gynrychioli'r Cyngor. |
| 4.7 | ELWa |
| Nodwyd pa mor bwysig oedd hi fod ELWa yn ymgynghori â'r Cyngor ynghylch ei weithgareddau. Tynnwyd sylw at y cyfle euraid i'r gwasanaethau archifau gyfrannu at waith y Consortia Cymunedol dros Addysg a Hyfforddiant (CCET) a oedd yn paratoi strategaeth ar gyfer pob ardal llywodraeth leol i 'gyflenwi addysg a hyfforddiant yn fwy effeithlon a hyrwyddo cydweithio rhwng ysgolion, AB a darparwyr hyfforddiant ac eraill i ddiwallu anghenion unigolion a chyflogwyr yn fwy effeithiol a chydlynol'. |
| 4.8 | Prosiect Teuluoedd a Stadau |
| Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig byr gan GJ. Nodwyd bod y data i'w rhoi ar gael yn rhan o brosiect ANW. |
| 4.9 | Archifau Chwaraeon |
| Adroddwyd gan GJ fod papur opsiynau wedi'i gyflwyno i'r Cynulliad ychydig wythnosau ynghynt a bod posibilrwydd y penodir swyddog prosiect yn fuan i wneud rhagor o ymchwil. | |
| Byddai GJ a SE yn ceisio sicrhau bod y Cyngor yn cael gwybod am unrhyw ddatblygiad pellach. |
| 4.10 | NRA |
| Cytunodd SE i drefnu dosbarthu holiadur HMC. |
| 5 | Adroddiad y Cadeirydd |
| 5.1 | Gwahoddiadau |
| Adroddwyd gan SE iddi derbyn gwahoddiad i gynrychioli'r Cyngor ar sawl achlysur gwahanol, ond, er ei bod hi wedi mynychu derbyniad y Loteri Cenedlaethol yn Stadiwm y Mileniwm, bu'n rhaid iddi ymddiheuro am ei hanallu i fynychu'r lleill. |
| 5.2 | CWLIS |
| Roedd SE wedi mynychu'r Cyfarfod Blynyddol a derbyn cofnodion cyfarfod arall, a chafwyd ganddi adroddiad am weithgareddau cyfredol CWLIS. |
| 5.3 | Derbyniad NCA yn San Steffan |
| Roedd SE, GJ, a Rowland Williams wedi mynychu'r derbyniad. Ni chafwyd eglurhad paham y gwrthododd NCA arddangos dogfen Polisi Archifau Cymru pan oedd hi'n amlwg fod hen ddigon o le iddi. Aethpwyd ymlaen i drafod aneffeithiolrwydd y math hwn o achlysur. |
| 5.4 | Adroddiad TG Cymru'n Creu |
| Nodwyd rhai o fanylion y papur opsiynau, fel y syniad o greu gwefan yn llawn gwybodaeth ddiwylliannol gan gynnwys calendr diwylliannol a fersiwn Cymreig o'r wefan 'Great Scots'. |
| 5.5 | Anerchiad |
| Roedd SE wedi rhoi anerchiad i sefydliadau Addysg Uwch ynghylch Rhyddid Gwybodaeth a rheoli cofnodion. |
| 5.6 | Cofnodion y Cofrestrydd Cyffredinol |
| Roedd cynrychiolydd y Gofrestrfa Gyffredinol wedi trafod gyda SE y problemau sy'n codi wrth geisio mynediad at gofnodion cofrestru. |
| 6 | Adroddiad yr Ysgrifennydd |
| 6.1 | NCA |
| Atgoffodd GJ y Cyngor ei fod wedi dosbarthu yn fuan wedi'r cyfarfod fis Ebrill adroddiad byr am yr hyn a drafodwyd yno. |
| 6.2 | Mis Archifau |
| Roedd y syniad o gynnal Mis Archifau wedi'i ollwng. Efallai y ceid prosiect llai o faint yn ei le ac roedd SE yn debyg o fynychu'r cyfarfod yn yr Archifdy Gwladol ar 29 Gorffennaf i drafod hwnnw. |
| 6.3 | Cyngor Archifau'r Alban |
| Roedd Cyngor Archifau'r Alban wedi'i sefydlu ar 2 Mai. |
| 6.4 | Adysgrifau cofrestri plwyf ar y We |
| Tynnwyd sylw at achos prawf ynghylch gosod adysgrif cofrestr plwyf ar y We heb ganiatâd. |
| 6.5 | Cwrs Archifau'r Alban |
| Nodwyd bod cwrs archifau i'w sefydlu yn yr Alban. |
| 6.6 | Cymraes y Flwyddyn 2002 |
| Cytunodd SE i gynnig ei henw. |
| 7 | Rhwydwaith Archifau Cymru (ANW) |
| Nodwyd bod y cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri wedi llwyddo a bod Simon Thomas AS wedi anfon ei longyfarchiadau. Eglurodd GJ mai CDL a luniodd y datganiad i'r wasg. Trafodwyd y papur a roddwyd gerbron gan GJ yn gosod allan y camau nesaf; a thrafodwyd y papur a gyflwynwyd gan EB yn esbonio'r gwersi a ddysgwyd wrth redeg prosiect Mine of Information. | |
| Penderfynwyd gwneud y Cyngor yn Fwrdd Prosiect ANW a threfnu iddo gwrdd yr un diwrnod â'r Cyngor. | |
| Penderfynwyd trefnu cyfres o gyfarfodydd ymgynghorol i dderbyn sylwadau a barn y cyhoedd am ANW. | |
| Penderfynwyd sefydlu Grŵp Rheoli'r Prosiect a dewiswyd EB, SE, ME, ac ARh i ymuno â thri o staff LlGC yn aelodau ohono. | |
| Trafodwyd priodoldeb cymhwyster proffesiynol mewn perthynas â swyddi'r prosiect. Cytunwyd bod cymhwyster proffesiynol yn ddymunol. Penderfynwyd llunio fframwaith cymhwyster ar gyfer y swyddi. |
| 8 | Cyfansoddiad |
| Roedd SD wedi casglu enghreifftiau ynghyd, ond cytunwyd bod penderfyniad arfaethedig y Cynulliad ar fater Resource i Gymru yn debygol o effeithio ar gyfansoddiad y Cyngor. Ar y llaw arall doedd dim sicrwydd na fyddai CDL yn disgwyl i'r Cyngor newid ei gyfansoddiad cyn dechrau ar brosiect ANW. | |
| Penderfynwyd oedi cyn diwygio cyfansoddiad y Cyngor ac aros am ddyfarniad y Cynulliad ynglŷn â sefydlu Resource i Gymru. |
| 9 | Resource Cymru |
| Adroddwyd bod y Cyngor wedi ymateb i'r ddogfen ymgynghorol ac wedi nodi pwyntiau tebyg i'r rhai a nodwyd gan eraill, fel diffyg safle hyd-braich; ac absenoldeb rôl eiriolaeth, opsiwn codi arian, a mecanwaith ar gyfer cyflenwi gwasanaethau. Nodwyd bod y Cynulliad yn ystyried yr ymatebion. |
| 10 | Adolygiad Pumlynyddol y Comisiwn Henebion |
| Diolchodd Martin Rolph i'r Cyngor am y gwahoddiad i fynychu'r cyfarfod i sôn am ei waith ynglŷn â'r adolygiad. Ceisiodd annog pawb i ymateb i'w adroddiad a chymryd y cyfle i godi materion o bwys i'r gwasanaethau archifau. |
| 11 | Gregynog 2002 |
| Amlinellwyd y rhaglen ar gyfer y cyfarfod yng Ngregynog ar 28 Medi: sesiwn y bore am brosiectau digido; anerchiad ddechrau'r prynhawn gan David Howell am archifau stadau; a chyfarfod busnes Cymdeithas yr Archifyddion ar ddiwedd y prynhawn. | |
| Cytunwyd i godi £15 y pen ac anogwyd y cynrychiolwyr i roi gwybod yn fuan i GJ faint sy'n dod fel ei fod yn gallu rhoi'r rhif terfynol i Gregynog erbyn diwedd Awst. |
| 12 | Dyfodol HMC |
| Datgelodd RB fod gweithgareddau HMC i barhau ond nid o dan y strwythur presennol, oherwydd roedd y llywodraeth wedi penderfynu ei uno â'r Archifdy Gwladol i ffurfio Archifau Cenedlaethol y Deyrnas Unedig. |
| 13 | Heirnet |
| Adroddodd HM fod pob un o'r sefydliadau sy'n perthyn i'r rhwydwaith yn cael eu hadolygu o ran eu hymchwil i'r farchnad a'u trefn casglu ystadegau er mwyn canfod y mannau lle nad ydynt yn cwrdd â gofynion eu defnyddwyr. |
| 14 | Defnyddwyr archifau ac aelodaeth CAC |
| Trafodwyd cais Ffederasiwn y Cymdeithasau Hanes Teuluoedd i fod â chynrychiolydd ar y Cyngor. | |
| Cytunodd SE i ymateb ar ran y Cyngor trwy ddweud bod y cyfansoddiad i'w adolygu pan ddaw penderfyniad y Cynulliad ynglŷn â sefydlu Resource i Gymru yn hysbys. |
| 15 | AHRB |
| Adroddwyd bod y Bwrdd yn cwtogi'n hallt y bwrsariaethau sydd ar gael i'r myfyrwyr archifau eleni. | |
| Penderfynwyd ysgrifennu at y Bwrdd i brotestio am y cwtogi a phwysleisio'r angen i gadw'r gwariant ar yr un lefel â chynt. Cytunodd GJ a ME i lunio llythyr ar y cyd. |
| 16 | Cyfarfod nesaf |
| Cytunwyd i gyfarfod nesaf yn Aberystwyth am 11 o'r gloch ar ddydd Gwener, 15 Tachwedd 2002 naill ai yn y Llyfrgell Genedlaethol neu'r Comisiwn Henebion. |
Yn ôl i'r
Tudalen Blaen