| 1 | Croeso |
| Rhoddwyd croeso arbennig i Martin Locock, a oedd newydd ei benodi'n rheolwr prosiect Rhwydwaith Archifau Cymru (ANW); Glyn Parry, a fyddai'n cymryd lle JWW yn gofnodydd y Cyngor; a David Riggs, a oedd yno yn rhinwedd ei swydd yn fonitor prosiect ANW ar ran Cronfa Dreftadaeth y Loteri. |
| 2 | Ymddiheuriadau |
| E Bennett (PCAbertawe); G Evans (AOCC); S Jones (PRO); T Moseley (Cynulliad); C Richards (Powys); D Rimmer (Gwent); A Rhydderch (Gwynedd); E Thomas (PCBangor); A Venables (Ynys Môn). |
| 3 | Ethol swyddogion |
| Etholwyd Mary Ellis yn gadeirydd y Cyngor, Susan Edwards yn is-gadeirydd (swydd newydd), a Gwyn Jenkins yn ysgrifennydd. |
| 4 | Nodau 2002-2003 |
| Gosodwyd y nodau canlynol ar gyfer y flwyddyn 2002-2003: | |
| 4.1 | Monitro cynnydd Rhwydwaith Archifau Cymru trwy fod yn Fwrdd Prosiect |
| 4.2 | Trefnu gweithgareddau i gymryd rhan ym Mis Ymwybyddiaeth Archifau, Medi 2003 |
| 4.3 | Cyfranogi'n llawn ym mhrosiect Casglu'r Tlysau ac yng nghynnal datblygiad Culturenet Cymru |
| 4.4 | Ffurfioli cyfansoddiad ac ailedrych ar yr amcanion cyffredinol |
| 4.5 | Cyfrannu i'r maes treftadaeth, cydweithio ag ef, a gweithredu i'w gynnal ar lefel genedlaethol a lleol, gan gyfeirio'n arbennig at sefydlu CyMAL a'i ddatblygu |
| 4.6 | Cyfrannu i waith PSQG, y grŵp sy'n hybu safonau yn y gwasanaethau cyhoeddus |
| 4.7 | Chwilio cyfleoedd i gyd-bleidio a ffurfio partneriaethau oddi mewn i'r sector treftadaeth |
| 4.8 | Cyfrannu, fel y bo'n briodol, at fentrau ymchwil a datblygu fel y Tasglu Archifau ac Adolygiad Hyfforddiant NCA |
| 5 | Cofnodion y cyfarfod diwethaf |
| Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2002. |
| 6 | Materion yn codi o'r cofnodion |
| 6.1 | Polisi Archifau Cymru |
| Roedd ME yn dal heb gael rhestr gyflawn o'r rhai a dderbyniodd yr argraffiad cyntaf. | |
| ME i yrru neges at bawb trwy'r dils-arch-ebost. |
| 6.2 | Casglu'r Tlysau |
| Soniwyd bod Casglu'r Tlysau wedi'i lansio. |
| 6.3 | Fframwaith Dysg a Mynediad |
| Cafwyd y newyddion diweddaraf gan LT. Roedd Cymru yn aros i weld canlyniadau'r peilot yn Lloegr a ddisgwylid tua'r gwanwyn 2003. |
| 6.4 | Ystadegau Archifol |
| Cafwyd adroddiad gan ME am gynnydd yr arolwg a oedd ar fin ei gwblhau. Diolchwyd i RB am fynychu cyfarfod Resource ar ran y Cyngor ac am anfon adroddiad llawn at SE. | |
| Penderfynwyd cyhoeddi'r adroddiad, pan fyddai'n barod, trwy ei osod ar wefan y Cyngor. |
| 6.5 | Swyddog Datblygu |
| Adroddwyd gan SE fod y Cyngor wedi derbyn arian i gynnal y swydd am flwyddyn. Ar hyn o bryd roedd disgrifiad y swydd yn cael ei baratoi, a'r hysbyseb. Nodwyd bod cais wedi'i wneud i Resource am arian ychwanegol er mwyn cynnal y swydd y tu hwnt i gyfnod dechreuol CyMAL. |
| 6.6 | CDL Cymru |
| Diolchwyd i SB am gytuno i gynrychioli'r Cyngor. Nodwyd nad oedd CDL Cymru wedi cysylltu â hi o gwbl. |
| 6.7 | ELWa |
| Soniwyd ei bod hi'n anodd cael gwybodaeth gan ELWa am y CCETs. | |
| Penderfynwyd sicrhau bod y Cyngor yn ymateb i'r ddogfen ymgynghorol am strategaeth ddysgu a oedd i'w chyhoeddi gan ELWa tua'r Nadolig; a'i fod yn dosbarthu ei ymateb i bob aelod o fwrdd ELWa. |
| 6.8 | Archifau Chwaraeon |
| Nodwyd nad oedd dim newydd i'w adrodd. |
| 6.9 | Holiadur NRA |
| Adroddwyd bod yr holiadur am broblemau catalogio wedi'i ddosbarthu a bod bron pob un o'r sefydliadau wedi ymateb erbyn hyn. Byddai canlyniadau Cymru yn ymddangos ar wefan HMC maes o law. |
| 6.10 | Adolygiad Pumlynyddol y Comisiwn Henebion |
| Roedd y Cyngor wedi ymateb i'r adroddiad a soniwyd bod Martin Rolph yn hynod ddiolchgar amdano. |
| 6.11 | Gregynog 2002 |
| Adroddwyd am lwyddiant mawr y cyfarfod yng Ngregynog ar 28 Medi. |
| 6.12 | Dyfodol HMC |
| Nodwyd bod y trafodaethau'n parhau am nodweddion y Comisiwn o dan y drefn newydd sydd yn yr arfaeth. |
| 6.13 | Heirnet |
| Wrth i'r arolwg o ofynion y defnyddwyr ddirwyn i ben, roedd HM yn gobeithio y deuai argymhellion gwerthfawr ohono fel yr angen i sicrhau bod rhwydweithiau data'r HEIRs yn rhyngweithio â'r rhwydweithiau archifol. |
| 6.14 | Defnyddwyr archifau ac aelodaeth CAC |
| Nodwyd bod SE wedi anfon llythyr at Ffederasiwn y Cymdeithasau Hanes Teulu yn egluro'r sefyllfa o ran cyfansoddiad y Cyngor. |
| 6.15 | AHRB |
| Adroddwyd bod cyfarfod cynrychiolwyr y cyrsiau i'w gynnal ar 5 Rhagfyr a bod y llythyr yn cyfleu adfodlonrwydd y Cyngor am y cwtogi a fu yn y bwrsariaethau eleni i'w anfon wedi'r cyfarfod hwnnw. |
| 7 | Adroddiad y Cadeirydd |
| 7.1 | Cymryd Rhan |
| Roedd SE wedi derbyn gwahoddiad i fod yn aelod o fwrdd y prosiect digido a noddir gan Gronfa'r Cyfleoedd Newydd. Apeliodd LT ar i'r gwasanaethau archifau fanteisio ar y gronfa ariannol oedd ar gael ar gyfer digido defnyddiau sy'n berthnasol i thema'r 'gymuned leol'. |
| 7.2 | Fforwm Rheoli Cofnodion Sefydliadau Addysg Uwch |
| Roedd y fforwm wedi cwrdd eilwaith i drafod rheoli cofnodion mewn sefydliadau Addysg Uwch ac effeithiau'r ddeddfwriaeth ynghylch yr Hawl i Wybodaeth; ac roedd fforwm e-bost wedi'i sefydlu gan jiscmail. |
| 7.3 | Cymru'n Creu |
| Soniwyd am flaenoriaethau'r Cynulliad o ran y gyllideb ddiwylliant nesaf a nodwyd y pwyslais a roddwyd gan y Gweinidog ar gael tystiolaeth gyfredol yn sylfaen i ffurfio polisi. Doedd hi ddim yn hollol eglur eto sut y gallai'r gwasanaethau archifau gyfrannu i ddatblygiad cynlluniau Cymru'n Creu na manteisio ar yr arian mawr oedd ar gael. |
| 7.4 | Grŵp TG Cymru'n Creu |
| Roedd swm mawr o arian wedi'i glustnodi i sefydlu Culturenet Cymru dros y tair blynedd nesaf. Byddai rhai o'r prosiectau a oedd eisoes ar droed yn gallu parhau a byddai modd dechrau ar brosiect 'Arwyr Cymru'. Nodwyd yr angen i geisio cynorthwyo'r sector â materion hawlfraint. |
| 7.5 | CWLIS |
| Soniwyd bod CWLIS wedi derbyn adroddiadau am brosiectau Rhwydwaith y Bobl, Cymryd Rhan, a ROUTES. Roedd CWLIS yn paratoi i ystyried ei ddyfodol yn sgil sefydlu CyMAL; ac wedi penderfynu holi cyrff eraill yn y sector a fyddent yn barod i ffurfio grŵp pleidio eang ei seiliau, gydag aelod llawn-amser o staff, o bosibl. |
| 7.6 | Swyddogion Datblygu Archifau |
| Roedd SE wedi derbyn ymholiad gan unigolyn sydd yn ymchwilio i waith y swyddogion datblygu rhanbarthol yn Lloegr. | |
| Byddai SE yn ateb yr ymholiad trwy anfon gwybodaeth am Swyddog Datblygu Archifau Cymru. |
| 7.7 | Public Services Quality Group (PSQG) |
| Darllenodd SE adroddiad gan Charlotte Hodgson (Archifdy Morgannwg) am weithgareddau'r Grŵp: Arolwg Ymwelwyr ag Archifdai Prydain 2002; Safon Mynediad at Archifau; Arwyddion Perfformiad Archifau; ystadegau CIPFA; a sefydlu gwefan. | |
| Cytunwyd y dylai Charlotte Hodgson gynrychioli Cymru ac y byddai'r Cyngor yn derbyn ei hadroddiadau am weithgareddau'r Grŵp trwy law SE. |
| 8 | Adroddiad yr Ysgrifennydd |
| 8.1 | Tony Carr |
| Roedd GJ wedi ysgrifennu at Tony Carr ar achlysur ei ymddeoliad o'r Cyngor i ddiolch iddo am ei wasanaeth a'i gefnogaeth. |
| 8.2 | NCA |
| Trafodwyd yr Ymgyrch Ymwybyddiaeth Archifau sydd i'w gynnal ym mis Medi 2003 a sut y gallai'r Cyngor gydlynu digwyddiadau perthnasol ledled Cymru. | |
| Penderfynwyd sefydlu is-bwyllgor a gofynnwyd i ME wahodd pobl i fynychu ei gyfarfod cyntaf. |
| 8.3 | Y Tasglu Archifau |
| Adroddwyd bod y Cyngor wedi anfon llythyr yn cwyno am gyfansoddiad y Tasglu gwreiddiol a sefydlwyd gan Resource heb neb yn cynrychioli na Chymru na'r Alban na Gogledd Iwerddon; ac wedi cael cefnogaeth gref i'w cwyn gan y Cynulliad. Erbyn hyn roedd Yr Athro Hywel Roberts wedi ei benodi'n gynrychiolydd Cymru ar y Tasglu ac roedd y Cyngor yn croesawu'r penodiad hwnnw. | |
| Penderfynwyd gwahodd Hywel Roberts i annerch cyfarfod arbennig o'r Cyngor ym mis Ionawr 2003. |
| 8.4 | Lansio prosiectau RSLP |
| Soniwyd am lansio nifer o brosiectau RSLP yn adeilad y Cynulliad ar 7 Tachwedd, gan gynnwys Casgliadau Cymru; Gwybodaeth am y Glofeydd; Cymru 1801-1919; a Cymru ar y We (cynllun a ariennir yn rhannol gan Gronfa Cydweithio a Phartneriaeth y Llyfrgell Brydeining hefyd). Nodwyd y bwriad i ychwanegu ANW at wefan Projecting Wales (http://projwales.llgc.org.uk) maes o law. |
| 8.5 | Cynorthwyydd personol |
| Tynnodd GJ sylw at benodi ei gynorthwyydd personol newydd, Meryl Tomkinson. |
| 9 | Cyfansoddiad |
| Penderfynwyd mynd i'r afael â chyfansoddiad y Cyngor yn nes ymlaen wrth ymateb i sefydlu CyMAL. |
| 10 | CyMAL |
| Roedd cadeiryddion Cyngor Archifau Cymru, Cyngor Amgueddfeydd Cymru, a LISC wedi cyfarfod â'r Gweinidog Diwylliant yr wythnos gynt i drafod cyhoeddi CyMAL. Disgwylir i leoliad y corff newydd gael ei gadarnhau yn gynnar yn 2003. Bydd yn disodli holl ffwythiannau'r Cyngor Amgueddfeydd ar wahân i'w ffwythiant fel corff cynrychioliadol. Bydd ganddo lawer mwy o staff ac adnoddau na'r drefn bresennol. Nodwyd bod angen i'r Cyngor lunio cynllun gweithredu strategol ar gyfer prosiectau yn y sector archifau. Rhoddwyd gerbron gan GJ lythyr drafft yn croesawu sefydlu CyMAL. | |
| Cytunwyd i anfon y llythyr yn enw'r Cyngor at y Gweinidog Diwylliant. |
| 11 | NCA: Briffio'r Senedd |
| Nodwyd bod y Cyngor wedi cyfrannu peth gwybodaeth at y briff yr oedd NCA yn ei lunio. |
| 12 | Codi proffil |
| Nodwyd bod LUCAS wedi cael cytundeb i godi proffil archifau yn rhanbarthau Lloegr a mynegwyd yr awydd i gael rhywun i wneud rhywbeth tebyg yng Nghymru. |
| 13 | Cyfarfod nesaf |
| Cytunwyd i gyfarfod nesaf yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, am 11 o'r gloch ar ddydd Gwener, 28 Mawrth 2003. |
Yn ôl i'r
Tudalen Blaen