Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru
Archives and Records Council Wales


Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, ar 28 Mawrth 2003


Presennol:M. Ellis (PC Aberystwyth, Cadeirydd); E W Thomas (PC Bangor); G Edwards (Henebion); A Rhydderch (Gwynedd); E Bennett (PC Abertawe); R Baker (HMC); M Locock (ANW); S Edwards (Morgannwg); C Richards (Powys); J Davies (Caerfyrddin); H Palmer (Ceredigion); K Matthias (Dinbych); C Orr (Penfro); R Williams (Cymd Arch); E Jones (ACW); G Jenkins (LlGC); G Parry (LlGC).

1Croeso
Rhoddwyd croeso arbennig i'r Athro Hywel Roberts o'r Tasglu Archifol ac i Eluned Jones a oedd newydd ei phenodi yn Swyddog Datblygu ACW.

2Ymddiheuriadau
S Beckley (G Morgannwg), A Venables (Môn), S Jones (PRO), D Rimmer (Gwent), T Moseley (Y Cynulliad).

3Anerchiad gan yr Athro Hywel Roberts, Tasglu Archifol (TA)
Rhoddodd yr Athro Roberts adroddiad o gynnydd gwaith y TA. Fe fydd y TA yn cymryd golwg eang ac nid un hynod fanwl o'r maes archifol. Fe fydd yn edrych ar ddwy brif thema: (1) ehangu mynediad (2) codi proffil archifau yn y Deyrnas Unedig. Roedd y TA wedi clustnodi'r meysydd canlynol fel y rhai y bydd modd adeiladu arnynt tuag at gyrraedd ei dwy brif thema: marchnata, addysg a hyfforddiant, offer darganfod ffynonellau (h.y. catalogau), archifo electronig, a chadwraeth a chadwedigaeth.

4Cofnodion y cyfarfod diwethaf
Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2002.

5Materion yn codi o'r cofnodion
5.1Polisi Archifau Cymru
Roedd ME yn dal heb gael rhestr gyflawn o'r rhai a dderbyniodd yr argraffiad cyntaf.
ME i ddosbarthu copïau i aelodau newydd y Cynulliad ynghyd â nodiadau briffio CyA. EJ i gynhyrchu fersiwn diwygiedig ar y We.

5.2Fframwaith Dysgu a Mynediad
Adroddodd SE nad oedd y cyfarfod wedi ei gynnal hyd yma.
SE i yrru adroddiad i GP i'w gylchredeg.

5.3Ystadegau Archifol
EJ i ddosbarthu ei hadroddiad ystadegol i aelodau'r Gweithlu Ystadegau.

5.4ELWa
Nid oedd ME wedi gwneud unrhyw beth ynglŷn â chael gwybodaeth gan ELWa am y CCET's.
LT i ddosbarthu gwefan ELWa i'r aelodau; sylwadau i'w gyrru at EJ.

5.5Public Services Quality Group (PSQG)
Roedd Charlotte Hodgson wedi e-bostio'r cofnodion i ME ac wedi cynnig dosbarthu ei hadroddiad.
ME i ddosbarthu'r cofnodion a phenderfynwyd derbyn cynnig CH.

6Adroddiad y Cadeirydd
6.1CyMAL
Roedd ME wedi mynychu cyfarfodydd Grŵp Cynghori'r Gweinidog a oedd yn gyfrifol am CyMAL. Ymhlith materion eraill trafodwyd amserlen, Cyngor Ymgynghorol CyMAL, strwythur CyMAL, a Chydgordiad gyda Resource. Gwahoddwyd ME, LT a John Marjoram o Gyngor Amgueddfeydd Cymru i ffurfio grŵp llai i gynorthwyo Jane Edmonds i gynllunio CyMAL. Cynhalwiwyd dau gyfarfod a gwnaethpwyd cynnydd mawr ar y materion a oedd yn cyffwrdd â'r tri maes. Roedd Jane Edmonds yn gweithio yn awr ar strwythur diwygiedig ar gyfer CyMAL.

7Adroddiad yr Is-gadeirydd
7.1Cymru'n Creu
Adroddodd SE iddi fynychu cyfarfod o Cymru'n Creu a oedd wedi mynd drwy ei gynllun gweithredu i weld pa mor llwyddiannus yr oeddent wedi cyrraedd ei hamcanion. Nododd mai ychydig o fewnbwn archifol a oedd yn y cynllun.

7.2Grŵp ICT
Roedd y grŵp wedi ei ddiddymu a'i waith wedi ei gymryd drosodd gan Culturenet Cymru.

7.3CWLIS
Nid oedd SE yn gallu mynychu'r cyfarfod.

8Adroddiad yr Ysgrifennydd
8.1Logo ACW
Dosbarthodd GJ rai syniadau am logo ar gyfer ACW er mwyn derbyn sylwadau'r aelodau. [Gweler 12.2]

8.2Cyfarfod Yr Eglwys yng Nghymru yn Llanbedr Pont Steffan, 28 Mawrth 2003
Adroddodd GJ fod cynnig i'w roi gerbron Mainc yr Esgobion am ganiatâd i'r Mormoniaid i ffilmio cofrestri plwyf. Gwnaethpwyd yr awgrym y dylai hwn fod yn brosiect Cymru gyfan gyda LlGC yn ei arwain.
GJ i wahodd pobl i ffurfio grŵp i lunio cynllun ar sut y gellir cyflawni'r prosiect.

8.3Casglu'r Tlysau
Roedd y prosiect wedi ei ymestyn o fis Mai i fis Medi 2003.

9Adroddiad y Swyddog Datblygu
9.1Cyfarfodydd
Adroddodd EJ iddi fynychu cyfarfodydd Cymdeithas Archifwyr Cymru, a chyfarfod Cadeiryddion Cyngor Archifau Rhanbarthol/Swyddogion Datblygu Rhanbarthol.

9.2Pwyllgor Llywio Strategaeth Archifol i Gymru
Adroddd EJ fod CyMAL angen datganiadau safbwynt.
Cytunwyd
(i) fod ACW i gyflwyno dogfen ar ddatblygu strategaeth archifyddol ar gyfer Cymru cyn gynted ag roedd CyMAL wedi dod i fodolaeth
(ii) fel cam cyntaf fod EJ i ymgynghori gyda phob sefydliad archifol i drafod y ddogfen ac y dylid dosbarthu drafftiau dan benawdau addas
(iii) fod ME i ofyn i Cymd Arch am gyfraniad tuag at y £5000 a amcangyfrifir y bydd ei angen i gyhoeddi a dosbarthu'r ddogfen arfaethedig

9.3Tasglu Archifol (TA)
Adroddodd EJ fod y TA i gynnal cyfarfod ymgynghorol yng Nghymru ar 19 Mai gyda sesiwn breifat yn y bore a sesiwn gyhoeddus yn y prynhawn.
Cytunwyd
(i) y dylid gwahodd pob archifydd hy^n yng Nghymru i'r sesiwn breifat a'u bod yn cael yr hawl i ddod â rheolwr hy^n gyda hwynt
(ii) gofyn i Resource roi deunydd addas i'r archifwyr hy^n i'w gyflwyno i'r rheolwyr hŷn
(iii) i gynnal y cyfarfod yng ngwesty Pencerrig
(iv) y dylai'r trafodaethau ganolbwyntio ar faterion allweddol a oedd o bwys neilltuol i Gymru, yn arbennig ar y penawdau a glustnodwyd yn y Strategaeth Archifol i Gymru. Dylai aelodau anfon eu syniadau hefyd at EJ.

9.4Mis Ymwybyddiaeth Archifau
Adroddodd EJ y bydd gwefan ar gael o'r 1af o Fai a bod £3000 wedi ei neilltuo ar gyfer Cymru i'w dalu mewn dau swm cyfartal ym misoedd Mai a Gorffennaf ac mai'r thema fyddai 'Cariad a Chasineb'.
Cytunwyd
(i) y dylid gwario peth o'r arian ar arddangos a chyhoeddi mentrau lleol ar gynhwysedd cymdeithasol ar ddiwrnod Gregynog
(ii) i archwilio ymhellach y thema 'Cariad a Chasineb'
(iii) mai 27 Medi fyddai Diwrnod Agored Cymru
(iv) y dylid sefydlu pwyllgor llywio i gydlynu digwyddiadau

10Y Cyfansoddiad
10.1Awgrymodd GJ y posibilrwydd y gallai ACW gynnal trafodaethau gyda CWLIS a CMW i ffurfio corff traws-feysydd
Cytunwyd
(i) fod gan ACW ran archifol i'w chwarae
(ii) y bydd angen yn y dyfodol i ACW gydweithio o fewn fforwm traws-feysydd a fyddai'n gallu ymgymryd â gwaith ar ran y tri maes a bod ME yn ysgrifennu llythyr yn mynegi y byddai ACW yn croesawu cydweithio mewn fforwm rhyng-feysydd
(ii) i ohirio trafodaeth ar y cyfansoddiad gan gynnwys aelodaeth ACW

11Gregynog
Cynhelir cyfarfod blynyddol Gregynog ym mis Gorffennaf yn hytrach nag ym mis Medi ar y thema Cynhwysedd Cymdeithasol. Bwriedir gwahodd Katie Norgrove, Swyddog Polisi a Datblygu NCA, a mentrau lleol ar Gynhwysedd Cymdeithasol i roi cyflwyniadau. Cynhelir y cyfarfod naill ai yng Ngregynog neu yng ngwesty Pencerrig.

12Unrhyw Fater Arall
12.1CWLIS
Siaradodd LT ar ei phapur ar CWLIS a oedd wedi ei ddosbarthu i'r aelodau ganddi cyn y cyfarfod ac ar botensial allweddol y rhan y gallai CWLIS ei chwarae yn y dyfodol.

12.2Enw a logo ACW
Awgrymodd SD y dylai ACW newid ei enw oherwydd fod y mwyafrif o'r gweision sifil ac aelodau'r Cynulliad yn adnabod ACW fel Arts Council Wales.
Cytunwyd y dylai aelodau feddwl am enw newydd i'w yrru at EJ ac i roi eu sylwadau ar logo ACW a gyflwynwyd gerbron yr aelodau

12.3HMC/PRO
Fe fyddai'r HMC a'r PRO yn cael eu galw yn National Archives o 1 Ebrill. Fe fydd National Archives yn y dyfodol yn gyrru un cynrychiolydd i gyfarfodydd ACW.

13Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cynhelir y cyfarfod nesaf yn Siambr Cyngor Sir Ceredigion, Aberaeron, am 11 o'r gloch,ddydd Gwener, 27 Mehefin 2003.


Yn ôl i'r Tudalen Blaen


Mae'r tudalennau hyn yng ngofal Swyddog y We
These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 2003-2005