Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru
Archives and Records Council Wales


Cofnodion cyfarfod a gynhaliwyd yn swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion, Aberaeron, ar 27 Mehefin, 2003


Presennol:M. Ellis (PC Aberystwyth, Cadeirydd); E Bennett (PC Abertawe); S. Jones (AC); M Locock (ANW); S Edwards (Morgannwg); C Richards (Powys); J Davies (Caerfyrddin); H Palmer (Ceredigion); C Orr (Penfro); R Williams (Cymd Arch); E Jones (ACW); S. Davies (PC Aberystwyth); G Jenkins (LlGC); G Parry (LlGC).

1Ymddiheuriadau
S. Beckley (Gorllewin Morgannwg); A. Venables (Môn); E. Thomas (PC Bangor); L Tomos (WIN); H Malaws (Henebion); A. Rhydderch (Gwynedd); K. Matthias (Dinbych).

2Cofnodion y cyfarfod diwethaf
Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2002.

3Materion yn codi o'r cofnodion
3.1Polisi Archifau Cymru
Roedd copïau o'r polisi a nodiadau briffio Cymdeithas yr Archifyddion wedi eu paratoi ar gyfer aelodau newydd y Cynulliad ac i Alun Pugh. Adroddodd ME fod fersiwn ddiwygiedig ar gael ar y We

3.2Ystadegau Archifol
Adroddodd ME fod drafft ar gael ar wefan ACW. Sylwadau i gyrraedd EJ erbyn 13 Gorffennaf.
Cytunwyd i ofyn i John Watts-Williams i gyfieithu'r adroddiad i'r Gymraeg.

3.3ELWa
Roedd EJ wedi llunio drafft o ymateb ACW i strategaeth e-ddysgu.
Cytunwyd y dylai ACW roi ymateb cyffredinol oherwydd ansicrwydd hyd nes y sefydlir CyMAL.

4Adroddiad y Cadeirydd
4.1Gweithgor CyMAL
Adroddodd ME fod Gweithgor CyMAL wedi cyfarfod ar sawl achlysur i drafod cartrefu staff, staffio a strwythur. Cadarnhawyd fersiwn derfynol papur ar gartrefu staff a strwythur. Gwahoddwyd ME, ynghyd â LT John Marjoram i oruchwylio'r newidiadau a'r cynllun gweithredol a oedd i fod yn barod erbyn Ebrill nesaf. Roedd y gweithgor i gyfarfod yn fisol o nawr hyd at fis Rhagfyr.
Gweler hefyd Cofnod 8

4.2Adroddodd ME fod dyfodol CWLIS yn ansicr. Roedd yn fwriad llunio papur ymgynghorol.

5Adroddiad yr Is-gadeirydd
5.1Ysbrydoli Addysg i Bawb
Adroddodd SE iddi fynychu cyfarfod Ysbrydoli Addysg i Bawb yn y Cynulliad, ond na fyddai dim yn debygol o ddigwydd hyd sefydlu CyMAL.

5.2Dadansoddi Sgiliau'r Dyfodol
Roedd Lilian Cameron wedi cynnig ei gwasanaeth. Awgrymodd SE y byddai modd cynnwys hwn yn nogfen strategaethACW.
SE i yrru copi o'r Dadansoddi Sgiliau'r Dyfodol i ME

6Adroddiad yr Ysgrifennydd
6.1Adroddodd GJ fod gwahoddiad wedi ei dderbyn i fynychu seminar Gweithio Gyda'n Gilydd: Strategaethau Cyfaythrebu ar Waitha oedd i'w gynnal yng Nghaerdydd ar 29 Gorffennaf.

6.2Roedd tanysgrifiadau ar gyfer 2002-3 yn ddyledus yn awr.

7Adroddiad SDA (a gylchredwyd cyn y cyfarfod)
7.1Strategaeth ARCC
Cytunwyd y
  1. dylai ME ysgrifennu at Drysorydd Cymdeithas yr Archifyddion i ofyn am £500 tuag at gyhoeddi y strategaeth
  2. y dylid cylchredeg y drafft mor eang â phosibl gyda chynrychiolydd pob archifdy i fod yn gyfrifol am hybu'r drafft yn lleol ac i gymaint o grwpiau/cymdeithasau cenedlaethol ag oedd bosibl
  3. y dylid cylchredeg rhestr o grwpiau/cymdeithasau lleol a chenedlaethol fel y gallai aelodau ymgynghori neu ychwanegu ati

7.2Mis Hybu Archifau
Adroddodd EJ fod CCA yn darparu fersiynau Cymraeg o bosteri, taflenni a balwnau ar gyfer cyhoeddusrwydd cenedlaethol. Fe fyddai CCA yn talu'r costau. Fe fyddai CCA yn gwerthuso gweithgareddau'r mis, effeithiolrwydd yr ymgyrch a sylw'r wasg. Cytunwyd i wario y £3000 a neilltuwyd ar gyfer Cymru gan CCA ar
  1. daflen ragarweiniol ar archifau yng Nghymru
  2. lawnsiad ANW

7.3Cyfarfod Tasglu Archifau
Roedd Resource yn fodlon iawn gyda'r cyfarfod a gynhaliwyd ym Mhencerrig ar 19 Mai.

7.4Cyfarfod Pencerrig, 2 Gorffennaf
Adroddodd EJ fod Katie Norgrove wedi tynnu'n ôl o'r cyfarfod ddau ddiwrnod yn gynharach. Roedd hi (KN) wedi addo cael gafael ar siaradwr arall. Roedd wedi awgrymu enw a disgwylid cadarnhad yn hwyrach heddiw. Nid oedd unrhyw newidiadau i weddill y rhaglen.

7.5Cyfarfodydd
Adroddodd EJ ar y cyfarfodydd roedd hi wedi'u mynychu ers cyfarfod blaenorol ACW.

8CyMAL ac ACW
Trafodwyd dyfodol ACW mewn cydberthynas â sefydlu CyMAL. Adroddodd ME nad oedd gan CyMAL unrhyw rôl eiriolaeth; cyfrifoldeb Cyngor Ymgynghorol dan gadeiryddiaeth y Gweinidog fyddai hyn. Roedd hyn yn annerbyniol. Cytunwyd
  1. y dylai ACW barhau mewn bodolaeth gan fod angen corff penodol ar gyfer archifau i ymateb i CyMAL
  2. i ohirio trafodaethau ar berthynas CyMAL ac ACW yn y dyfodol hyd nes y byddai'r Cynulliad wedi rhyddhau ychwaneg o wybodaeth
  3. i ohirio trafod materion yn ymwneud ag aelodaeth ACW hyd y cyfarfod nesaf
  4. fod GJ yn llunio papur trafod yn cynnig opsiynau a chynigion ar ddyfodol ACW erbyn y cyfarfod nesaf

9Unrhyw fusnes arall
9.1Rhoddodd SJ fanylion ar sut i gysylltu gyda'r Comisiynydd Gwybodaeth Cymru a oedd newydd ei phenodi.

9.2Cyhoeddodd SJ hefyd yr unir timau arolygu sefydliadau archifol yr Archifdy Gwladol a Chomisiwn Llawysgrifau Hanesyddol i greu Gwasanaeth Cynghori Rheoli Cofnodion.

10Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cynhelir y cyfarfod nesaf yng Nghaerdydd ar 14 Tachwedd.


Yn ôl i'r Tudalen Blaen


Mae'r tudalennau hyn yng ngofal Swyddog y We
These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 2003-2005