| 1 | Croeso |
| Estynnwyd croeso arbennig i Susan Healey a roddodd gyflwyniad i Ddeddfwriaeth Archifau a Chofnodion Cenedlaethol arfaethedig Yr Archifau Cenedlaethol. |
| 2 | Ymddiheuriadau |
| E W Thomas (PC Bangor); A Rhydderch (Gwynedd); H. Malaws (Henebion), C Richards (Powys); K Matthias (Dinbych); C Orr (Penfro); R Williams (Cymd. Arch.). |
| 3 | Ymateb i Ddeddfwriaeth Archifau a Chofnodion Cenedlaethol |
| Cytunwyd (i) y dylid ychwanegu rhagymadrodd byr i gynnwys y cyd-destun Cymreig (ii) y dylid cryfhau ymateb i Gwestiwn 5 yn erbyn hunan blismona (iii) y dylid cynnwys Canllawiau dan Adran 60 Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 fel atodiad (iv) y dylid tynnu sylw yn y rhagymadrodd at y darpariaethau a fyddai'n gallu sefydlu Archifdy i Gymru |
| 4 | Cofnodion y cyfarfod diwethaf |
| Dylai Cofnod 7.1 (i) ddarllen £5000 ac nid £500. |
| 5 | Materion yn codi o'r cofnodion |
| 5.1 | Polisi Archifau Cymru |
| Cylchredwyd y polisi a nodyn briffio Cymdeithas yr Archifyddion i aelodau newydd y Cynulliad ac i Alun Pugh, y Gweinidog Diwylliant. | |
| 5.2 | CWLIS |
| Adroddodd SE fod CWLIS yn trafod o hyd sut y byddai'n parhau wedi sefydlu CyMAL ond fod hyn yn anodd heb wybod beth fyddai'r strwythur. | |
| 5.3 | Tanysgrifiadau |
| Adroddodd GJ fod rhai tanysgrifiadau heb eu talu o hyd. | |
| 5.4 | Cyllido strategaeth archifol |
| Derbyniwyd grant o £2000 oddi wrth CWLIS a'r gobaith yw y ceir y gweddill o'r arian oddi wrth Cymdeithas yr Archifyddion er mwyn galluogi ACW i gyhoeddi a dosbarthu'r strategaeth. |
| 6 | Adroddiad y Cadeirydd (a gylchredwyd i aelodau cyn y cyfarfod) |
| 6.1 | CyMAL |
| Adroddodd ME nad oedd hi wedi cael unrhyw fath o gyswllt gyda Jane Edmunds o gwbl drwy'r haf a bod pob cyfarfod gweithredu wedi eu canslo. Roedd cyfarfod wedi ei drefnu ar fyr rybudd dydd Mawrth dilynol ond ni fyddai hi yn gallu bod yn bresennol. Roedd cyfarfod gweithredu arall wedi ei drefnu ym mis Rhagfyr. Achos yr oedi dros yr haf oedd symud staff Cyngor Amgueddfeydd; dylai fod y sefyllfa hon wedi ei datrys erbyn diwedd Tachwedd. Dylai hysbysebion swyddi CyMAL ymddangos yn gynnar ym mis Tachwedd. Roedd yn annhebygol y byddai pob swydd CyMAL wedi eu llenwi erbyn mis Ebrill. Roedd cyfarfodydd misol wedi eu trefnu ar ôl mis Tachwedd. Cytunwyd i wahodd Linda Tomos i gyfarfod arbennig ar ôl cynnal y cyfarfod gweithredu ym mis Rhagfyr |
| 7 | Adroddiad yr Is-gadeirydd |
| 7.1 | Cymru'n Creu |
| Adroddodd SE fod Alun Pugh wedi mynychu cyfarfod o Cymru'n Creu. Ni drafodwyd fawr ddim a oedd yn berthnasol i archifau a rheoli cofnodion; roedd y cyflwyniadau yn ymwneud â thwristiaeth diwylliant ac yn arbennig Culturenet Cymru. Roedd y cyfarfod nesaf wedi ei drefnu ar gyfer yr wythnos ganlynol i drafod twristiaeth diwylliant gyda chyflwyniad yn dwyn y teitl On Common Ground gan Amgueddfeydd ac Orielau Cymru. |
| 8 | Adroddiad yr Ysgrifennydd |
| 8.1 | Llythyr oddi wrth Owen John Thomas, AC |
| Roedd hwn wedi ei drafod yn barod dan Agendum 3 | |
| 8.2 | Materion eraill |
| Byddai'r rhain yn cael eu trafod dan unrhyw fusnes arall. |
| 9 | Adroddiad SDA (a gylchredwyd cyn y cyfarfod) |
| 10 | Ethol swyddogion |
| Etholwyd y swyddogion canlynol am 2003-2004: Cadeirydd - Mary Ellis Is-gadeirydd - Nid oedd enwebiad Cytunwyd i ohirio'r etholiad hyd y cyfarfod nesaf ym mis Mawrth Ysgrifennydd - Gwyn Jenkins |
| 11 | Nodau blynyddol |
|
| 12 | Strategaeth Archifau a Chofnodion |
| Llongyfarchwyd EJ am ei dogfen ardderchog. Cytunwyd (i) y dylid cwtogi'r ddogfen; y dylid cynnwys crynodeb gweithredol ar ddechrau'r ddogfen; y dylid cynnwys mwy o astudiaethau enghreifftiol; y dylid gwneud defnydd mwy trawiadol o bwyntiau bwledi; y dylid gwneud mwy o ddefnydd o atodiadau; y dylid diddymu'r dadansoddiad SWOT (ii) y dylai aelodau yrru unrhyw welliannau ac awgrymiadau erbyn diwedd mis Tachwedd (iii) ar ôl adolygu y dylid dosbarthu'r fersiwn gytun, derfynol mor eang ag sydd bosibl |
| 13 | Dyfodol CAC |
| Cyflwynodd GJ bapur ar ddyfodol CAC. Cytunwyd (i) i fabwysiadu Opsiwn 1 ond i ffurfioli hyn drwy ddrafftio cyfansoddiad wedi ei seilio ar y Canllawiau (ii) y dylai ME ysgrifennu at Anthony Sawyer yn gwahodd WERM i yrru cynrychiolydd fel aelod llawn (iii) fod GJ a GP i lunio cyfansoddiad drafft i'w gylchredeg cyn y cyfarfod |
| 14 | Unrhyw fusnes arall |
| 14.1 | Archif y Draffordd |
| Eglurodd GJ gefndir y cyfarfod a fu rhyngddo ef, GP a chynrychiolwyr Archif Y Draffordd (roedd crynodeb o'r cyfarfod wedi ei gylchredeg ymlaen llaw). Cytunwyd y dylid cael barn aelodau o Ogledd Cymru ynghylch cofnodion A55 ac i ohirio unrhyw benderfyniad ynghylch cartrefu'r archif yn derfynol hyd nes y byddid wedi cael rhestr o'r archif gan gynrychiolwyr Archif y Draffordd. | |
| 14.2 | Cofrestri plwyf: microffilmio/digido gan y Mormoniaid |
| Siaradodd GJ ar y papur a oedd wedi ei gylchredeg ymlaen llaw ac yn arbennig a ddylid microffilmio/digido fel prosiect Cymru gyfan neu a ddylid gadael i bob archifdy ymdrin gyda chynrychiolwyr y Mormoniaid ar eu liwt eu hunain. Cytunwyd y dylid microffilmio/digido fel prosiect Cymru gyfan, ac, ar ôl cael cytundeb rhwng Archifwyr Sirol Cymru ac LlGC, i ffurfio is-bwyllgor i yrru'r prosiect yn ei flaen. | |
| 14.3 | Cynrychiolydd Cymru ar y British Standards Institutio |
| Nododd EB nad oedd gan Gymru gynrychiolaeth ar y BSI ac y dylai ACW enwebu cynrychiolydd. Enwebwyd Rowland Williams a chytunwyd y dylai ME gysylltu gydag ef. | |
| 14.4 | Seliau Cymreig ar-lein |
| Adroddodd SD fod prosiect seliau Cymreig ar-lein ar fin ei sefydlu i gydredeg â phrosiect Lloegr a oedd yn bod yn barod | |
| 14.5 | Strategaethau unigol |
| Roedd Gordon Reid (Powys) wedi holi os oedd gan archifdai eu strategaethau eu hunain ac, os felly, os oedd modd iddo gael benthyg copïau | |
| 14.6 | Pleidlais o ddiolch |
| Diolchwyd a dymunwyd yn dda i Rob Baker a oedd yn mynychu ei gyfarfod olaf cyn symud i swydd newydd |
| 15 | Dyddiad y cyfarfod nesaf |
| Cynhelir y cyfarfod nesaf yn AAG, Aberystwyth, ar 26 Mawrth 2004 |
Yn ôl i'r
Tudalen Blaen