| 1 | Croeso |
| Estynnwyd croeso arbennig i AAG gan y Gadair ac yn arbennig i Michelle Kingston. |
| 2 | Teyrnged i Bryn Parry |
| Talwyd teyrnged gan y Gadair i'r diweddar Bryn Parry, Cadeirydd cyntaf CAC a chafwyd munud o dawelwch er cof amdano. |
| 3 | Ymddiheuriadau |
| E.W. Thomas (PC Bangor); A. Rhydderch (Gwynedd); H. Malaws (Henebion); G. Evans (AOCC); C. Orr (Penfro). |
| 4 | Ymddiswyddiad y Gadair |
| Eglurodd ME y byddai'n rhaid iddi ymddiswyddo ar unwaith oherwydd ei phenodiad ar staff CyMAL er mwyn osgoi unrhyw wrthdaro buddiannau. Cytunwyd y dylai ME adael y gadair ar ôl agendum 11 ac y byddai SE fel Is-Gadeirydd yn symud i'r gadair. |
| 5 | Cyflwyno Michelle Kingston |
| Cyflwynwyd Michelle Kingston yn ffurfiol i'r cyfarfod gan NJ; fe fyddai hi yn cymryd drosodd oddi wrth Rob Baker. |
| 6 | Cyflwyniad gan Steven Jones |
| Rhoddodd SJ gyflwyniad ar Fframwaith Safonau Arfaethedig ar gyfer Archwilio Archifdai a Gwasanaethau ac fe amlinellodd y cam nesaf yn y broses ymgynghori. Ategodd SJ a NJ gwestiynau o'r llawr. |
| 7 | Materion yn codi o'r cofnodion |
| 7.1 | Tanysgrifiadau |
| Nododd GJ fod rhai tanysgrifiadau heb eu talu o hyd. | |
| 7.2 | Ariannu strategaeth archifau |
| Roedd ME wadi trafod hyn gyda Liz Rees. Cytunwyd y dylai GJ ysgrifennu at y Gymdeithas Archifwyr yn gofyn am gymorth ariannol ar ôl derbyn pris gan yr argraffwyr. | |
| 7.3 | WERM |
| Roedd ME wedi ceisio cysylltu gyda Anthony Sawyer er mwyn cael ychwaneg o wybodaeth am WERM ond yn ofer.
Cytunwyd y dylai ME geisio cysylltu ag ef eto. | |
| 7.4 | Archif Y Draffordd |
| Adroddodd GJ fod Archif y Draffordd i'w rhannu rhwng yr archifdai priodol. | |
| 7.5 | Cofrestri plwyf: microffilmio/digido gan y Mormoniaid |
| Adroddodd GJ fod angen yn awr i ni drefnu cyfarfod yn gynnar yn yr Haf rhwng LlGC, yr Archifdai Sirol a'r Mormoniaid er mwyn trafod yr opsiynau. | |
| 7.6 | Cynrychiolydd Cymru ar British Standards Institution |
| Methodd ME â chael unrhyw wybodaeth am y British Standards Institution. Roedd SJ yn tybio mai pwyllgor ar ddarpariaethau BS5454 ydoedd. Cytunwyd y dylai SJ gysylltu â Susan Healey i gael mwy o wybodaeth am y British Standards Institution. Penodwyd RW i gynrychioli CAC ar BSI. |
| 8 | Adroddiad y Cadeirydd |
| 8.1 | CyMAL |
| Adroddodd ME iddi fynychu cyfarfod Grŵp Sefydlu CyMAL a oedd yn ymwneud yn bennaf gyda'r adeilad newydd (wedi ei gwblhau) a gwaredu eiddo CMW yng Nghaerdydd. Roedd y Grŵp Sefydlu wedi ei ddiddymu gan y byddai CyMal yn weithredol o 1 Ebrill. Roedd amserlen penodiadau staff CyMAL wedi llithro; ni fyddai aelodau Y Pwyllgor Ymgynghorol yn cael eu cyhoeddi hyd fis Ebrill. | |
| 8.2 | Seminar Cadwedigaeth Ddigidol yn yr AC |
| Adroddodd ME fod hwn wedi bod yn gyfarfod ardderchog. Roedd MLA wedi rhoi arian i ranbarthau Lloegr i edrych i mewn i broblemau cadwedigaeth ddigidol. Roedd yr AC wedi cylchredeg manylion am gyfarfod i sefydlu gweithgor cadwedigaeth ddigidol ac fe ddylai CAC gael cynrychiolaeth ar y gweithgor. Cytunwyd fod Paul Sillitoe i gynrychioli CAC |
| 9 | Adroddiad yr Is-gadeirydd |
| Nid oedd dim i'w adrodd. |
| 10 | Adroddiad yr Ysgrifennydd |
| Nid oedd dim i'w adrodd heblaw am faterion a godwyd o'r cofnodion. |
| 11 | Adroddiad SDA (a gylchredwyd cyn y cyfarfod) |
| 11.1 | Cynhadledd 'New Direction' yn Llandrindod |
| Adroddodd EJ i hwn fod yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn a bod modd cynnal cyfarfod tebyg y flwyddyn nesaf a fyddai'n parhau am fwy nag un diwrnod (ar gost o tua £150 y pen). | |
| 11.2 | Ymgyrch Hybu Archifau (manylion wedi eu cylchredeg cyn y cyfarfod) |
| Cytunwyd y byddai EJ yn ymgymryd â'r gwaith gydag Ymgyrch Hybu Archifau ymgyrch fel ag y gwnaeth hi y llynedd.
Cytunwyd y dylai aelodau gyfrannu digwyddiadau i'r ymgyrch. | |
| 11.3 | Strategaeth Archifol |
| Nododd EJ na allai hi chwarae rhan pellach yn y strategaeth oherwydd ei phenodiad ar staff CyMAL. Adroddodd ME fod y strategaeth wedi ei ail-ddrafftio yn sylweddol ers y cyfarfod blaenorol o CAC ac yn dilyn cyfarfod gyda Linda Tomos, ond bod angen newid rhywfaint ar adrannau rheoli cofnodion chofnodion electronig. Cytunwyd y dylai gweithgor i'w alw ynghyd gan Rowland Williams, ddrafftio'r fersiwn terfynol erbyn y cyfarfod nesaf ac y dylid adolygu'r strategaeth dair blynedd ar ôl mabwysiadu'r fersiwn terfynol. |
| 12 | Cadeiryddiaeth ac Is-gadeiryddiaeth |
| Gadawodd ME y gadair a chymerodd SE fel Is-gadeirydd ei lle. Eglurodd GJ nad oedd angen enwebiadau ffurfiol ar gyfer Cadeirydd oherwydd nad oedd y cyfarfod hwn yn gyfarfod blynyddol. Gan fod yr Is-gadeirydd hefyd yn sefyll i lawr ar ddiwedd y cyfarfod (fel a nodwyd yn y cyfarfod diwethaf), a chan nad oedd enwebiadau wedi dod i law yn y cyfamser, roedd angen Cadeirydd newydd i lenwi'r bwlch hyd y Cyfarfod Blynyddol nesaf. Cynigiwyd KM ac fe dderbyniodd yr enwebiad fel a gytunwyd, sef hyd nes cynnal y Cyfarfod Blynyddol ym mis Tachwedd.
Roedd yr Is-gadeiryddiaeth hefyd yn wag (gweler cofnod 10 cyfarfod 14 Tachwedd 2003). Ni dderbyniwyd unrhyw enwebiad. Cytunwyd i ohirio ethol Is-gadeirydd tan y cyfarfod nesaf. Dylai enwebiadau gyrraedd GJ wythnos cyn y cyfarfod. |
| 13 | Cyfansoddiad CAC (a gylchredwyd i aelodau cyn y cyfarfod) |
| Cytunwyd i (i) roi mwy o bwyslais ar gofnodion yn hytrach nag archifau (ii) i newid enw o Archives Council Wales/Cyngor Archifau Cymru i Archives and Records Council Wales (ARCW)/Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru (CACC) (ii) i gynnig statws aelodaeth cyfetholedig i WERM (iii) i ddiffinio aelodaeth y Sector Addysg Uwch fel 'unrhyw sefydliad Addysg Uwch sy'n cyflogi archifydd proffesiynol cymhwysiedig' (iv) GP and GJ i adolygu'r drafft erbyn y cyfarfod nesaf |
| 14 | Unrhyw fusnes arall |
| 14.1 | Cyhoeddodd SJ y byddai'r AC yn rhyddhau adroddiad ar ei ymarferiad ymgynghori. |
| 14.2 | Cyflwynwyd tusw o flodau i EJ a diolchwyd iddi am ei gwaith caled. |
| 15 | Dyddiad y cyfarfod nesaf |
| Cynhelir y cyfarfod nesaf ar ddydd Gwener 23 Gorffennaf yn Llandrindod. |
Yn ôl i'r
Tudalen Blaen