| 1 | Croeso |
| Estynnodd y Gadair groeso cynnes i bawb i Landrindod. |
| 2 | Ymddiheuriadau |
| E.W. Thomas (PC Bangor); A. Rhydderch (Gwynedd); C. Orr (Penfro), Sally McInnes (Cym.. Arch.), R. Chell (Gorllewin Morgannwg); D. Rimmer (Gwent). |
| 3 | Materion yn codi o'r cofnodion |
| 3.1 | Cywiriad i gofnod 7.6 |
| Dylid ychwanegu'r canlynol i'r cofnod: Penodwyd RW i gynrychioli CAC ar BSI. | |
| 3.2 | WERM |
| Yn dilyn trafodaeth ar WERM a chynrychiolaeth Rheolwyr Cofnodion ar CAC Cytunwyd gan fod statws WERM yn aneglur y dylid trafod grw^p addas i gynrychioli Rheolwyr Cofnodion ar CAC yn y cyfarfod nesaf. | |
| 3.3 | Materion eraill yn codi |
| Roedd y materion eraill i gyd ar yr agenda. |
| 4 | Gohebiaeth |
| Cyflwynodd y Gadair lythyr ger bron y cyfarfod a dderbyniwyd oddi wrth Susan Beckley (gynt Gorllewin Morgannwg) yn ymwneud ag ethol y Gadair bresennol. Eglurodd y Gadair, Yr Is-gadair a'r Ysgrifennydd amgylchiadau penodi y Gadair bresennol. Cytunwyd y dylai'r Gadair ateb y llythyr gan egluro amgylchiadau ei benodi i'r Gadair. |
| 5 | Adroddiad y Gadair |
| 5.1 | Cyfarfod NCA |
| Adroddodd KM i'r cyfarfod drafod cynlluniau strategol a gweithredol NCA; adroddiad y Tasglu Archifau a oedd eisoes wedi ei chyflwyno i Weinidogion, y Goron; y Fforwm Newydd; Linking Arms; Gwasanaeth Cynghori yr Archifau Cenedlaethol;, gwaith eirioli NCA; a Phwyllgor Archifau Rhyng Adrannol. | |
| 5.2 | Cynllun Grantiau Bychain CyMAL |
| Erbyn hyn roedd y cynllun yn weithredol. Ar ôl trafodaeth ar y cynllun Cytunwyd y dylai Trysorydd CAC (a gaiff ei benodi pan fabwysiedir cyfansoddiad newydd CAC yn y cyfarfod nesaf) baratoi papur i CyMAL ar ariannu rhai o weithgareddau CAC ac ar flaenoriaethau ariannu CAC. | |
| 5.3 | Cyfarfod ACALG |
| Adroddodd KM iddo fynychu y cyfarfod yma. |
| 6 | Adroddiad yr Is-gadeirydd |
| 6.1 | Cymru'n Creu |
| Adroddodd SE iddi fynychu cyfarfod o Gymru'n Creu yng Nghaerdydd lle y cyflwynodd Paul Loveluck bapur ymgynghori ar ddathlu canmlwyddiant yr Amgueddfa Genedlaethol a'r ffordd ymlaen i'r Amgueddfa dros y 25 mlynedd nesaf dan y teitl Identities Culture and Place. Dylai aelodau o CAC sy'n dymuno ymateb i'r papur gysylltu gyda Judith Ingram ar 0209 2057 3292 neu judith.ingram@nmgw.ac.uk Cadarnahaodd y Gweinidog Diwylliant fod CADW yn ymuno gyda Cymru'n Creu.
Roedd Mynegai o Wybodaeth Ddiwylliannol yn cael ei llunio gan Mandy James o Brifysgol Morgannwg ar ran Cymru'n Creu. Dylai aelodau a oedd eisiau cyfrannu i ddatblygu'r Mynegai gysylltu gyda hi ar mljames@glam.ac.uk |
| 7 | Adroddiad yr Ysgrifennydd |
| 7.1 | Cyfarfod Gregynog |
| Roedd y cyfarfod i'w gynnal ar 25 Medi. Roedd Cymdeithas yr Archifyddion yn cyfrannu £250 a gwnaed cais i CAC gyfrannu £100.
Cytunwyd i gyfrannu £100. | |
| 7.2 | Eu Gorffennol Eich Dyfodol (papur wedi ei gylchredeg i aelodau ymlaen llaw) |
| Adroddodd GJ ar y papur gan fanylu ar y cynllun. Y cyswllt yn LlGC fydd Bethan Lewis. |
| 8 | Cofrestri plwyf: microffilmio/digido gan y Mormoniaid (papurau wedi eu cylchredeg ymlaen llaw) |
| Cytunwyd: (i) i beidio rhuthro i gytundeb y byddwn yn edifarhau ei lofnodi yn nes ymlaen. (ii) i barhau i ddatblygu cynllun Cymru-gyfan ac y dylid llunio un cytundeb hollgynhwysfawr gyda GSU. (iii) i gael ychwaneg o wybodaeth gan GSU; yn arbennig felly yng ngoleuni cynigion a wnaed i Loegr sydd yn ymddangos yn dra gwahanol. |
| 9 | Strategaeth |
| Cytunwyd: (i) gyrru y Strategaeth i CyMAL fel dogfen waith cyn gynted ag y bo modd ym mis Medi ac y dylid anghofio am ei gyhoeddi mewn fersiwn sglein. (ii) adolygu y Strategaeth yn rheolaidd. (iii) hepgor y dadansoddiad SWOTa rhai astudiaethau enghreifftiol. (iv) ail osod y Strategaeth er mwyn ei wneud yn gliriach. (v) cywiro rhai ffeithiau gan aelodau nad oedd bellach yn wir oherwydd yr holl amser sydd wedi mynd ers dechrau llunio'r Strategaeth. (vi) y dylai KM roi gwybod i'r holl aelodau o'r penderfyniadau a wnaed yn y cyfarfod hwn gan ofyn iddynt yrru unrhyw welliannau pellach a newidiadau erbyn canol Awst. |
| 10 | Ethol Is-gadeirydd |
| Enwebwyd EB ac fe'i hetholwyd yn unfrydol. |
| 11 | Cyfansoddiad CAC |
| Cytunwyd mabwysiadu yn ffurfiol y cyfansoddiad newydd yn y cyfarfod nesaf, sef y Cyfarfod Blynyddol. |
| 12 | Unrhyw fater arall |
| 12.1 | Erthygl yn y 'Local Historian' |
| Adroddodd SE fod yna erthygl wedi ei chyhoeddi yn y 'Local Historian' ar y trosglwyddo arfaethedig o gofnodion lleol o Lyfrgell Llanelli i Archifdy Caerfyrddin. Roedd yr erthygl yn cymeradwyo ymdrechion pobl Llanelli i roi terfyn ar y trosglwyddo fel enghraifft o bobl leol yn rhoi taw ar fiwrocratiaeth crintachlyd, er gwaethaf y ffaith fod storfa cadw'r cofnodion yn Llanelli ymhell islaw'r safon. Cytunwyd y dylai CAC yrru llythyr swyddogol at 'Local Historian' ac y dylai KM ymgynghori gyda Norman James o TNA cyn llunio ymateb priodol. |
| 13 | Dyddiad y cyfarfod nesaf |
| Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 19 Tachwedd yn Archifdy Morgannwg |
Yn ôl i'r
Tudalen Blaen