| 1 | Croeso |
| Estynnwyd croeso cynnes i bawb i Gaerdydd yn enwedig i Kim Collis a oedd yn mynychu ei gyfarfod cyntaf ers iddo gael ei apwyntio yn bennaeth Archifdy Gorllewin Morgannwg. Tynnodd y Gadair sylw at y gefnogaeth wan a fu i'r cyfarfod hwn a'r un diwethaf. |
| 2 | Ymddiheuriadau |
| E. W. Thomas (PC Bangor); A. Rhydderch (Gwynedd); C. Orr (Penfro); Sally McInnes (Cym. Arch); D. Rimmer (Gwent); Michelle Kingston (AC); Hilary Malaws (CBHC); Steven Jones (AC); Mary Ellis (CyMAL); R.Williams (PC Abertawe). |
| 3 | Mabwysiadu cyfansoddiad newydd |
| Mabwysiadwyd y cyfansoddiad wedi cytuno ar y newidiadau canlynol: Dileu statws aelodaeth llawn un o gynrychiolwyr Cymdeithas yr Archifyddion. Ychwanegu cynrychiolydd o Gymdeithas yr Archifyddion i statws aelodaeth arsylwi. Dileu statws arsylwi aelodaeth Grwp Rheoli Cofnodion Cymdeithas Archifyddion Cymru a chynnwys cynrychiolydd o unrhyw Grwp Rheoli Cofnodion Cymru gyfan yn ei le. Penderfynwyd hefyd i dynnu rhestr o'r gwahoddedigion a'i gylchredeg i aelodau llawn cyfredol. |
| 4 | Ethol swyddogion |
| Etholwyd y canlynol ar gyfer 2004-2005: Cadair Kevin Matthias Is-gadeirydd Elizabeth Bennett (a etholwyd mewn cyfarfod blaenorol) Ysgrifennydd Gwyn Jenkins Trysorydd Helen Palmer |
| 5 | Amcanion blynyddol |
Mabwysiadwyd yr amcanion canlynol am y flwyddyn 2004-2005:
|
| 1 | Cofnodion |
| Cadarnhawyd y cofnodion. |
| 2 | Materion yn codi o'r cofnodion |
| 2.1 | Gohebiaeth a dderbyniwyd |
| Adroddodd y Gadair iddo ysgrifennu at Susan Beckley ac y derbyniwyd ateb a ffeiliwyd hwnnw. | |
| 2.2 | Strategaeth |
| Cytunwyd y dylai'r Strategaeth fod ar gael ar wefan CACC ynghyd â chyfieithiad Cymraeg. | |
| 2.3 | Erthygl yn Local Historian |
| Cododd y Gadair y mater gyda Liz Hallam-Smith o'r TNA ac roedd wedi siarad gyda Katie Norgrove o'r NCA. Yr oedd Nick Kingsley o'r NCA yn ystyried ysgrifennu erthygl i'r Local Historian yn trafod y broblem. Cytunwyd y dylai GJ godi'r mater yng nghyfarfod nesaf yr NCA. |
| 3 | Adroddiad y Gadair |
| 3.1 | Strategaeth |
| Anfonwyd y Strategaeth at CyMAL. | |
| 3.2 | Cyngor Ymgynghorol |
| Methodd KM â bod yn bresennol yng nghyfarfod y Cyngor. Adroddodd SE, a oedd yn bresennol, fod CyMAL wedi rhoi gwybodaeth am gyfrifoldebau ac wedi adrodd am eu cynllun gweithredu a'u cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Trafodwyd E-lywodraeth a hyfforddiant hefyd. | |
| 3.3 | Cymru'n Creu |
| Mynychodd KM gyfarfod o Cymru'n Creu a chafwyd trafodaeth ar dwristiaeth diwylliannol ac Oriel Genedlaethol. Tynnodd KM sylw Mandy James, sy'n cloriannu sefydliadau diwylliannol ar ran Cymru'n Creu [gweler cofnod 6.1 o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 23/7/04], na chafodd archifau eu cynnwys yn ei rhestr o weithgareddau diwylliannol. | |
| 3.4 | CWLIS |
| Mae'n bosib mai dyma gyfarfod olaf CWLIS. Adroddwyd fod prosiect ROUTES wedi dod i ben. Cylchredwyd papur gan KM yn adolygu sefyllfa CWLIS. Pe byddai CWLIS yn cael ei ddirwyn i ben yna gellid defnyddio'r cyllid i ailgynllunio'r Ddolen a rhoi presenoldeb iddi ar y we. |
| 4 | Adroddiad yr Is-gadeirydd |
| Nid oedd dim i'w adrodd |
| 5 | Adroddiad yr Ysgrifennydd |
| 5.1 | Cyfarfod Gregynog |
| Cafwyd cynulleidfa dda yn y cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Medi. | |
| 5.2 | NCA (dosbarthwyd adroddiad o flaen llaw) |
| Y prif bwynt a nodwyd gan GJ oedd mai IDAC oedd y corff a fyddai'n parhau gydag adroddiad y Tasglu Archifau; cynrychiolwyr Cymru ar IDAC yw Deborah Carter o'r Cynulliad a Mary Ellis o CyMAL; ac yn ôl Arolwg Ymwelwyr Cenedlaethol PSQG Cymru sydd â'r ganran uchaf o 'Da iawn' am wasanaeth i ddefnyddwyr yn y DU. Cytunwyd i amlygu'r 'Da Iawn' i Gymru ac y byddai GJ yn cysylltu gyda CyMAL er mwyn hysbysebu hyn fel rhan o'u swyddogaeth yn hyrwyddo archifau. | |
| 5.3 | Newsplan |
| Prosiect i ficroffilmio papurau newydd yn y DU oedd Newsplan. Bydd gwefan Newsplan Cymru sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn cynnwys gwybodaeth am holl bapurau newydd Cymreig ac nid y rhai a ficroffilmiwyd yn unig. Mae'r gwaith o ddiweddaru'r data yn mynd ymlaen. Trefnwyd cyfarfod i drafod Newsplan yn LlGC ar 14 Rhagfyr. | |
| 5.4 | Eu Gorffennol, Eich Dyfodol |
| Adroddodd GJ y bydd arddangosfa sy'n cael ei hariannu gan CLF ac a luniwyd gan Yr Amgueddfa Ryfel gyda chymorth LlGC yn cael ei dangos mewn wyth man yng Nghymru. Cynhelir gweithgareddau cysylltiol yn canolbwyntio ar weithgarwch rhwng y cenedlaethau gan gynnwys ysgolion. Gobeithir cynnwys archifau ac fe fydd cyllid ar gael i'r archifdai hynny fydd yn cyfrannu at y prosiect y gellid ei hawlio yn gyfalaf neu ar gyfer cyflogi staff dros dro i wneud gwaith digido. Culturenet fydd yn cydlynu'r gwaith digido. | |
| 5A | Cyfarfod CyMAL |
| Adroddodd KM mai hwn oedd y cyfarfod cyntaf swyddogol rhwng cynrychiolwyr CACC a CyMAL a'i fod yn diffinio ffiniau swyddogaethau CyMAL a CACC fel ei gilydd. Cafwyd trafodaeth bellgyrhaeddol gan gynnwys trafodaeth fanwl ar y cynllun gweithredu; sut y gall CyMAL helpu yn dadlau dros CACC; pwy sy'n sbarduno prosiectau cydweithredol neu fentrau; cyngor gan CyMAL ar gyllid; mentrau a syniadau newydd gan CACC; swyddogaeth CyMAL mewn codi safonau; digido; ac arolygon ar ôl-groniadau. Codwyd nifer o bwyntiau am rôl CyMAL a'i effeithiolrwydd y dylid eu codi yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Ymgyhghorol Cytunwyd: (i) y dylai CACC fod yn fwy blaengar mewn perthynas â CyMAL. (ii) y dylid cylchredeg nodiadau a wnaed gan gynrychiolwyr CACC yn y cyfarfod. (iii) y dylai'r Cynllun Gweithredol fod ar wefan CACC. (iv) y dylai'r Cynllun Gweithredol fod ar agenda'r cyfarfod nesaf. |
| 6 | Cynhadledd CILIP |
| Adroddodd GJ fod Sue Mace o CILIP wedi gofyn os hoffai CACC gymryd rhan yng nghynhadledd CILIP a drefnwyd ar gyfer 3 Mawrth yng Ngwesty'r Metropole, Llandrindod. Cynhelir sesiynau ar y cyd gydag Alun Pugh a sesiynau traws-feysydd. Byddai'r sesiwn prynhawn ar gyfer archifyddion. Y gost fydd £30. Cytunwyd i: (i) gynnal sesiwn ar gyfer archifyddion ar y thema Archifau Cymunedol. (ii) GP i gysylltu gyda Sue Mace ac i wahodd David Mander o Adran Archifau Hackney, Frieda Midgley, Rheolwr Prosiect CAAP, a Frank Olding, Swyddog Treftadaeth, Blaenau Gwent, i annerch y cyfarfod. |
| 7 | Cynrychiolaeth Rheolwyr Cofnodion ar CAC |
| Gweler cofnod 3 o'r AGM uchod. |
| 8 | Cofrestri plwyf: microffilmio/digido gan y Mormoniaid (cylchredwyd papurau i aelodau o flaen llaw) |
| Darllenodd KM e-bost oddi wrth Jonathan Pepler o Archifdy Caer a siaradodd GJ gan ddefnyddio nodiadau cyfarfod a gynhaliwyd gyda'r LDS (Mormoniaid) yn LlGC. Cytunwyd i gynnal cyfarfod i drafod y prosiect yn Ionawr ac i GJ gylchredeg dyddiadau posibl. |
| 9 | Unrhyw fater arall |
| S4C wedi holi SE am y posibilrwydd o gael nawdd ar gyfer pecyn i roi cyhoeddusrwydd i archifau mewn cyfres o raglenni hanner awr o'r enw Hel Achau. Byddai'r cyhoeddusrwydd yn cynnwys cydnabyddiaeth ar y sgrin a neges fer. Y gost fyddai £1500. Cytunwyd i roi cyhoeddusrwydd i RhAC ac y dylai SE gysylltu gyda S4C yn mynegi diddordeb ac i drosglwyddo'r manylion i ML yn RhAC. |
| 10 | Dyddiad y cyfarfod nesaf |
| Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 11 Mawrth yn LlGC. |
Yn ôl i'r
Tudalen Blaen