| 4 | Materion yn codi o'r cofnodion
|
| 4.1 | Cyfansoddiad newydd
|
| Cynigiodd SD ddrafft o lythyr i'w anfon at bob awdurdod a gynrychiolir gan CACC er mwyn iddynt enwebu aelod o staff i fynychu cyfarfodydd CACC ar eu rhan.
Cytunwyd y dylid anfon sylwadau ar y drafft at KM erbyn canol mis Medi ac y dylid anfon copi terfynol at bob awdurdod a gynrychiolir ar CACC cyn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol y bwriedir ei gynnal ym mis Tachwedd.
|
| 4.2 | Mormoniaid (microffilmio/digido cofrestri plwyf)
|
| Bydd Grŵp Archifyddion Sirol Cymru yn cyfarfod ym mis Awst i drafod y mater hwn a materion eraill yn ymwneud â chofrestri plwyf. Bydd y cyfarfod hefyd yn trafod papur GJ a HP a luniwyd ganddynt ym mis Mehefin 2005.
|
| 4.3 | Newsplan Cymru
|
| Darllenodd GJ lythyr yn gofyn i CACC enwebu aelod i fod ar Bwyllgor Gweithredu Newsplan yn dilyn ymddiswyddiad Gareth Haulfryn Williams.
Enwebwyd HP.
|
| 4.4 | CyMAL
|
| 4.4.1 | Dangosyddion perfformiad
|
| Adroddodd ME fod y Cynulliad wedi datblygu Dangosyddion Perfformiad newydd. Cyflwynir Drafft Dangosyddion Perfformiad gerbron Bwrdd y Cynulliad a'u cylchredeg ar gyfer ymgynghoriad ym mis Medi.
|
| 4.4.2 | Arolwg PSQG
|
| Roedd CyMAL eisiau cefnogi gwasanaethau archifol Cymru i gymryd rhan yn yr arolwg ac wedi gofyn am awgrymiadau ar sut i wneud hyn.
|
| 5 | Adroddiad y Gadair
|
| 5.1 | Gweithdy Dadansoddi Anghenion HLF
|
| Mynychodd KM, GJ ac EB gyfarfod o'r Gweithdy Dadansoddi Anghenion CLF ar Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau ar 21 Mehefin i drafod RhAC 2.
|
| 5.2 | Cyngor Ymgynghorol CyMAL
|
| Mynychodd nifer o swyddogion gyfarfod o'r Gweithdy Dadansoddi Anghenion CLF ar Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau ym mis Gorffennaf.
|
| 5.3 | Grŵp Ymgynghorol Rhanbarthol
|
| Mynychodd KE ac EJ y cyfarfod hwn pan gyflwynodd EJ bapur. Prif bwnc trafod y cyfarfod oedd archifau cymunedol a model a phecyn CAPP. Mae CAPP bellach wedi datblygu'n CADG a'i brif nod yw hyrwyddo archifau cymunedol. Mae CADG a RAAG wedi ffurfio is-grŵp i edrych ar arweiniad a chynaladwyaeth archifau cymunedol wedi'i anelu at grwpiau cymunedol yn wahanol i CAPP a fwriadwyd ar gyfer y gwasanaethau archifau eu hunain.
|
| 5.4 | Cyfarfod CyMAL
|
| Bu cyfarfod rhwng KM, GJ ac EB a ME, EJ a Linda Tomos a gyflwynodd sylwadau cryf ar yr ymateb i fodolaeth CyMAL, h.y. beth mae CACC ei eisiau gan CyMAL. Tra bod gan CAAC strategaeth a chynllun gweithredu nid ydynt yn addas o ran ffurf iddi i'w cyflwyno i'r Gweinidog. Ofnir y bydd archifau yn cael eu gwthio i'r cyrion; mae ar LT angen cyflwyno tystiolaeth i'r Gweinidog i sicrhau cyllid ar gyfer y dyfodol; rhywbeth yn debyg i @eich Llyfrgell. Roedd angen i CACC ddweud wrth CyMAL beth yw ei anghenion drwy adolygu ei strategaeth yn enwedig gan fod cynllun gweithredu cyfredol CyMAL yn dod i ben ym mis Mawrth 2006 ac mae'n paratoi y cynllun gweithredu nesaf yn barod.
Cytunwyd
(i) y dylid llunio dogfen strategol lefel uchel newydd gan bwysleisio prif flaenoriaethau CACC
(ii) y byddai llunio'r ddogfen yn gyfrifoldeb i ME ac EJ yn bennaf, ond gyda mewnbwn sylweddol gan CACC
(iii) y byddai grŵp dechreuol/cwmpasol yn cynnwys swyddogion CyMAL a CACC yn dechrau paratoi'r strategaeth
(iv) y dylai'r strategaeth fod yn barod erbyn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf CACC ym mis Tachwedd ac yna'i chyflwyno i'r Cyngor Ymgynghorol pan fyddai yn cyfarfod ym mis Rhagfyr.
|
| 7 | Adroddiad yr Is-Ysgrifennydd
|
| 7.1 | Eu Gorffennol, Eich Dyfodol
|
| Adroddodd GJ i lawnsiad yr arddangosfa yng Nghaernarfon fod yn llwyddiant ac y byddai'r arddangosfa yn symud ymlaen wedyn i Wrecsam, Abertawe ac Aberystwyth. Mae Culturenet nawr ynghlwm wrth y gwaith digido a rhoddir grant ychwanegol i Archifdy Sir Ddinbych.
|
| 7.2 | Cofnodion y Sesiwn Chwarter
|
| Adroddodd GJ fod Sarah Tyacke o'r AC wedi cymeradwyo'r cynnig i oldrosi cofnodion y Sesiwn Chwarter Cymru gan A2A. Cytunwyd gyda ST y byddai'r catalogau yn cael eu dangos gan RhAC hefyd. Byddai cynrychiolwyr o AC a ML yn mynychu cyfarfod Grŵp Archifyddion Sirol Cymru ym mis Awst.
|
| 7.3 | Olynydd i 'Linking Arms'
|
| Sefydlwyd prosiect arall 'Archives UK', yn dilyn cynnig aflwyddiannus Linking Arms, i alluogi chwilio holl archifau'r DU drwy ddefnyddio un pwynt mynediad chwilio gan greu blociau adeiladu amrywiol dros gyfnod ac un ohonynt fyddai RhAC 2.
|