Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar 23 Gorffennaf 1997
Presennol: K Matthias (Dinbych, Cadeirydd); S Edwards (Morg); A Lloyd Hughes (AGC); Norman James (HMC); G Jenkins (LlGC); H Malaws (Henebion); Alec Mulinder (PRO); David Rimmer (Gwent); Rowland Williams (CymdArch); J Watts-Williams (LlGC).
Ymddiheuriadau: A D Carr (PCBangor); Mary Ellis (HMC); David Leitch (PRO).
| 1 | Cofnodion y cyfarfod diwethaf |
| Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 1997. |
| 2 | Materion yn codi o'r Cofnodion |
| 2.1 | Ad-drefnu Llywodraeth Leol |
| 2.1.1 | Caerfyrddin: PRO i holi'r awdurdod sut y mae'r cais am gymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn dod yn ei flaen. |
| 2.1.2 | Môn: PRO yn dal i ddisgwyl cynllun y cyngor sir ar gyfer adeilad newydd. |
| 2.1.3 | Caerdydd: dim rhagor i'w adrodd. Llongyfarchwyd SE ar ei phenodi yn archifydd sirol. |
| 2.2 | Prosiect Mapio HMC |
| Roedd yr adroddiad wedi ei gyflwyno cyn yr etholiad cyffredinol a gobaith CAC oedd gweld y weinyddiaeth newydd yn gweithredu ar ei sail. |
| 2.3 | Swyddog Achosion Loteri |
| Cafwyd gan AM y newyddion diweddaraf am y swydd hon. |
| 2.4 | Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
| Doedd dim rhagor i'w adrodd. |
| 2.5 | Arolwg Robert Chell |
| Roedd Robert Chell wedi egluro nad oedd ei arolwg ef yn debyg i un HMC. Nid oedd wedi cwblhau'r gwaith hyd yn hyn. Mynegwyd pryder ynglyn â'r cynnydd yn y nifer o holiaduron a anfonir at archifyddion. |
| 2.6 | Pwyllgor Rhyngadrannol ar gyfer Archifau |
| Cafwyd adroddiad ar lafar gan AM. Un o'r materion y bu'r Pwyllgor yn ei drafod y tro diwethaf oedd Archifdy i Gymru. |
| 2.7 | Hysbysrwydd |
| Nid oedd GJ wedi derbyn ateb i'w lythyr at ADC ac nid oedd gwelliant amlwg yng nghylchrediad newyddion CAC ymhlith archifyddion y Brifysgol. |
| 3 | Rhwydweithio |
| Roedd gwe-fan CAC wedi ei lansio yn gynt y diwrnod hwnnw. Diolchwyd i'r Llyfrgell Genedlaethol am ei holl lafur i'w sefydlu. Penderfynwyd gwneud cais i greu cyswllt â safle CAC o dudalennau Rhwydwaith Cymru ac awgrymu ei nodi yno o dan bennawd (1) Llywodraeth a (2) Y Celfyddydau a Diwylliant. Dywedodd JWW fod yr Astudiaeth Hyd a Lled yn mynd i ddechrau ar 1 Awst ac mai'r bwriad oedd ei orffen cyn diwedd Medi. Penderfynwyd trefnu cyfarfod o'r is-bwyllgor ym mis Hydref. |
| 4 | Consortiwm Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth Cymru (CWLIS) |
| Roedd KM wedi mynychu cyfarfod y Consortiwm [CWLIS] yn AAGaLl ar 19 Mawrth. Penderfynwyd tanysgrifio i'r Consortiwm er mwyn sicrhau cynrychiolaeth archifol ar ei bwyllgor gwaith. Enwebwyd KM i gynrychioli CAC. |
| 5 | Archifdy Gwladol Cymru |
| Trafodwyd y ddogfen a baratowyd gan GJ a KM. Ar ddiwedd y drafodaeth y farn oedd mai datblygiad graddol wedi ei seilio ar reoli cofnodion y Cynulliad fyddai'n gweddu orau i sefydliad archifol newydd o'r math hwn. Penderfynwyd paratoi adroddiad i'w gyflwyno i'r Ysgrifennydd Gwladol ym mis Tachwedd. |
| 6 | Cyfarfod Gregynog |
| Trafodwyd y trefniadau ar gyfer cyfarfod 13 Medi 1997. Dywedodd ALlH nad oedd Beth Thomas yn gallu dod. Cytunodd GJ a RW i chwilio eilydd. |
| 7 | Adroddiad Blynyddol |
| Cyflwynodd GJ ddrafft o'r adroddiad blynyddol a gofynnodd i'r aelodau anfon newidiadau a chywiriadau ato. Bwriedir cynhyrchu'r adroddiad terfynol erbyn y cyfarfod nesaf. |
| 8 | Amcanion 1997-1998 |
| Cytunwyd ar bedwar o amcanion: rhwydweithio; cyfarfod Gregynog; Archifdy Cymru; monitro deddfwriaeth ar gyfer y Cynulliad. Penderfynwyd gadael i KM a GJ ddrafftio geiriad yr amcanion. |
| 9 | Tanysgrifiadau |
| Cytunodd GJ i anfon infois at bob aelod. |
| 10 | Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas yr Archifyddion 2001 |
| Roedd RW wedi crybwyll wrth swyddogion y Gymdeithas y posibilrwydd o gynnal y gynhadledd yn Aberystwyth yn 2001 ac roedd GJ wedi cytuno i gydlynu'r trefniadau. |
| 11 | Cyfarfod NCA |
| Cafwyd adroddiad gan GJ am gyfarfod NCA ar 15 Ebrill 1997. Tynnodd sylw at ddau bwnc yn fwyaf arbennig: Polisi Archifau'r Deyrnas Unedig; a'r ffordd y rhedir NCA. |
| 12 | Cyfarfod nesaf |
| Dydd Mercher, 12 Tachwedd 1997, 11.00 (Newidiwyd yn ddiweddarach i 19 Tachwedd 1997). |
Yn ôl i'r Tudalen Blaen