Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
ar 19 Tachwedd 1997
Presennol: K Matthias (Dinbych, Cadeirydd); A D Carr (PCBangor);
S Edwards (Morg); G Jenkins (LlGC); David Leitch (PRO); H Malaws
(Henebion); David Rimmer (Gwent); Rowland Williams (CymdArch);
J Watts-Williams (LlGC).
Ymddiheuriadau: A Lloyd Hughes (AGC); R Sargent (HMC).
| 1 | Cofnodion y cyfarfod diwethaf |
| Wedi ychwanegu'r gair 'Penderfynwyd' at gofnod 5 yn y Gymraeg, cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 23 Gorffennaf 1997. |
| 2 | Materion yn codi o'r Cofnodion |
| 2.1 | Ad-drefnu Llywodraeth Leol |
| 2.1.1 | Caerfyrddin: nodwyd mai dyna'r unig awdurdod sydd heb gyflwyno cynllun adran 60. Nodwyd hefyd nad oedd ei gais i'r Loteri wedi dod yn ei flaen. Penderfynwyd ymgynghori â John Davies cyn mentro dwyn y mater i sylw'r Swyddfa Gymreig. |
| 2.1.2 | Môn: nodwyd bod yr arwyddion yn fwy addawol a'r camau rhagarweiniol tuag at gael adeilad newydd wedi eu gwneud. |
| 2.1.3 | Conwy: nodwyd bod yr awdurdod wedi mynegi diddordeb mewn sefydlu gwasanaeth annibynnol. |
| 2.2 | Prosiect Mapio HMC |
| Nodwyd nad oedd y data a roddwyd gerbron gan archifdai Cymru ddim cystal â rhai Lloegr, lle y defnyddiwyd holiadur manylach a lle y cafwyd ymateb gant y cant. Bwriedid rhoi i'r Swyddog Achosion Loteri ddarlun o'r diffygion ariannol mwyaf dybryd. Roedd y PRO yn awyddus i fwrw ymlaen â'r prosiect heb laesu dwylo ac roedd croeso i archifdai Cymru gyfrannu iddo eleni drwy gyflwyno'u data diweddaraf. Dosbarthodd DL nodyn oddi wrth Cathrin Cassarchis, Swyddog Achosion Loteri'r NCA, yn ei chyflwyno ei hun ac awgrymodd ei bod yn debyg o drefnu cyfres o ymweliadau â Chymru yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Nodwyd bod ei chyfrifoldebau yn cwmpasu'r prifysgolion a'r cadwrfeydd arbenigol yn ogystal â'r archifdai sirol. Penderfynwyd ei chynghori i drefnu cyfarfod ag ystod ehangach o archifyddion nag aelodau CAC. |
| 2.3 | Arolwg Robert Chell |
| Adroddwyd bod gan RC fyfyriwr yn diweddaru ei adroddiad meincnod. Penderfynwyd annog Grwp Archifyddion Sirol Cymru i drafod y mater gyda RC. |
| 2.4 | Pwyllgor Rhyngadrannol ar gyfer Archifau |
| Nodwyd mai prif destun trafod y pwyllgor yn ddiweddar oedd bwrsariaethau myfyrwyr archifau; a bod penaethiaid y cyrsiau hyfforddi yn pwyso'n galed am gynrychiolaeth uniongyrchol ar y pwyllgor. Ategodd ADC fod y cais wedi ei ganiatáu ddiwrnod neu ddau ynghynt. |
| 2.5 | Hysbysrwydd |
| Nid oedd llythyr GJ wedi cyrraedd ADC. Serch hynny, dywedodd ADC fod y gwaith mewn llaw a bod archifyddion y Brifysgol i dderbyn adroddiad am drafodion CAC. |
| 2.6 | Cyfarfod Gregynog |
| Diolchwyd i GJ a RW am drefnu cyfarfod mor ddefnyddiol ar 13 Medi 1997. |
| 2.7 | Adroddiad Blynyddol |
| Diolchwyd i GJ am yr adroddiad blynyddol yn ei ffurf derfynol. |
| 2.8 | Tanysgrifiadau |
| Nodwyd dymuniad NCA i ddyblu ei danysgrifiad yn 1998. Awgrymwyd efallai y dylai CAC ystyried codi ei danysgrifiad i gwrdd â'r gost o danysgrifio i NCA a CWLIS. |
| 2.9 | Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas yr Archifyddion 2001 |
| Nodwyd bod y camau cyntaf i ddod â'r gynhadledd i Aberystwyth yn 2001 wedi eu gwneud. |
| 3 | Adroddiad ar Rwydwaith Archifau Cymru |
| Canmolwyd yr adroddiad. Derbyniwyd ambell newid ffeithiol. Awgrymwyd bod cyfyngu'r cynllun i'r ugain sefydliad yn anfantais, o bosibl, wrth geisio cefnogaeth y Loteri a phenderfynwyd dilyn esiampl yr Alban ac ymdrechu i gynnwys hefyd y cadwrfeydd llai pwysig. Cydnabuwyd mai'r cam nesaf oedd chwilio nawdd ariannol i wneud astudiaeth ddichonoldeb a phenderfynwyd holi'r Loteri a Chymdeithas Wybodaeth Cymru (WIS) am eu cefnogaeth. Cytunodd DL i geisio barn Cathrin Cassarchis am yr amodau gorchwyl a osodwyd gan CAC ar gyfer yr astudiaeth ddichonoldeb. Penderfynwyd cyfethol Linda Tomos i CAC ar gyfer y trafodaethau ynglyn â rhwydweithio. |
| 4 | Archifdy Gwladol Cymru |
| Trafodwyd y cynnig drafft. Cafwyd ar ddeall nad oedd amser i gynnwys cyfeiriad at gofysgrifau yn nrafft cyntaf y mesur i sefydlu Cynulliad, ond bod yna fwriad i'w gynnwys fel gwelliant yn nes ymlaen, yn y cyfnod pwyllgor efallai. Byddai CAC yn siwr o dderbyn copi o'r gwelliant yn chwilboeth o'r wasg a chytunwyd y dylai ymgynnull yn ddioed wedyn i'w drafod. Penderfynwyd peidio â chymhlethu'r ddogfen ddrafft a'i hanfon, gydag ychydig iawn o newidiadau, at yr Ysgrifennydd Gwladol. |
| 5 | Consortiwm Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth Cymru (CWLIS) |
| Cafwyd gan KM adroddiad am weithgareddau CWLIS. Tynnodd sylw at ddau adroddiad a oedd yn brif destun trafod gan CWLIS: (1) New Library, the People's Network (Library and Information Commission); a (2) The Net Result, Social Inclusion in the Information Society (National Working Party on Social Inclusion). |
| 6 | Cyngor Cenedlaethol ar Archifau (NCA) |
| Cafwyd gan GJ adroddiad am gyfarfod NCA yr wythnos gynt. Nododd y pwyntiau canlynol: | |
| 6.1 | seminar i'w gynnal ar gyfer cadwrfeydd arbenigol ac archifdai lleol ynglyn â phrosiectau cydweithredol y sefydliadau cenedlaethol; |
| 6.2 | dyblu'r tanysgrifiad i £100. Croesewir sylwadau; |
| 6.3 | Polisi Archifau i'r DU: disgwylir ymateb yr Arglwydd Ganghellor yn gynnar yn y flwyddyn newydd; |
| 6.4 | Chris Kitching wedi derbyn llythyr yn mynegi agwedd y Loteri tuag at archifau: 'ni ystyrir rhoi mwy na miliwn o bunnoedd ond yn eithriadol'. Serch hynny, dylid pwysleisio mai CDL yw'r ffynhonnell orau ar gyfer prosiectau archifol o hyd; |
| 6.5 | roedd Cyngor yr Archifau busnes wedi cynhyrchu dogfen drafod am egwyddor amodau adnau; |
| 6.6 | bwriedir sefydlu ffederasiwn o gymdeithasau cyfeillion archifdai, y peth i'w drefnu gan y BRA; |
| 6.7 | roedd cais am arian y Loteri wedi ei wneud gan Brifysgol Gogledd Llundain i sefydlu Archif Gweithredu Cymdeithasol. Ni fyddai'r Archif yn casglu cofysgrifau lleol; |
| 6.8 | roedd cynhadledd y BRA i'w gynnal ar 2-3 Rhagfyr, gan gynnwys darlith Mark Fisher AS ar 'Archifau'r genedl: hybu dealltwriaeth o'n treftadaeth ddiwylliannol'. |
| 7 | Cyfarfod nesaf |
| Dydd Gwener, 13 Mawrth 1998, 11.00 (gellir ei alw'n gynt os bydd angen). |
Yn ôl i'r tudalen blaen