Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 13 Mawrth 1998
Presennol: K Matthias (Dinbych, Cadeirydd); A D Carr (PCBangor); A Lloyd Hughes (AGC); G Jenkins (LlGC); Rosemary Jones (Henebion); David Leitch (PRO); Linda Tomos (AGaLl); Rowland Williams (CymdArch); J Watts-Williams (LlGC); ac, yn sesiwn y prynhawn, Cathrin Cassarchis (Swyddog Achosion Loteri).
Ymddiheuriadau: S Edwards (Morg); C Kitching (HMC); H Malaws (Henebion); David Rimmer (Gwent).
| 1 | Cofnodion y cyfarfod diwethaf |
| Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 1997. |
| 2 | Materion yn codi o'r Cofnodion |
| 2.1 | Ad-drefnu Llywodraeth Leol |
| Am fod anawsterau wedi codi o gynlluniau newydd Adran 60 mewn mwy nag un gwasanaeth, penderfynwyd y dylai CAC ysgrifennu at y Swyddfa Gymreig i grybwyll ailgynnull y Panel Ymgynghorol. |
| 2.2 | Prosiect Mapio |
| Cytunwyd mai da o beth fyddai ymgymryd ag arolwg mapio a phenderfynwyd gofyn i'r CLlH/AG ystyried dilyn yr un llwybr â'r Alban ac ymestyn yr arolwg i holl wasanaethau archifau Cymru. |
| 2.3 | Arolwg Robert Chell |
| Doedd dim rhagor o newyddion am yr arolwg hwn. |
| 2.4 | Pwyllgor Rhyngadrannol ar gyfer Archifau |
| Roedd llunio'r ymateb i'r Polisi Archifau Cenedlaethol yn mynd â mwy o amser nag a ddisgwylid; ac roedd Deddf Llywodraeth Leol 1972 yn cael ei hadolygu er mwyn diffinio beth yn union a olygir gan y term `trefniadau addas'. Holodd RW a oedd unrhyw arwyddocâd yn arferiad y Swyddfa Gymreig o gyfeirio at Ddeddf 1962 yn hytrach na Deddf 1972. Penderfynwyd y dylai CAC fynegi trwy lythyr ei anfodlonrwydd am y nifer gyfyngedig o fwrsariaethau sydd ar gael i fyfyrwyr archifau ac am yr effaith a gâi hynny yn y tymor hir ar recriwtio i'r proffesiwn. Cytunodd ADC i ddrafftio'r llythyr. |
| 2.5 | Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas yr Archifyddion 2001 |
| Er bod GJ yn dal i ddisgwyl cadarnhad ysgrifenedig, fe nodwyd mai yn Aberystwyth y cynhelir y gynhadledd. |
| 3 | Archifdy Gwladol Cymru |
| 3.1 | Soniodd GJ am yr hyn a ddeilliodd o lythyr CAC at yr Ysgrifennydd Gwladol: bwriad i ddiffinio `Cofnodion Gwladol Cymru' ac i ddarparu ar gyfer trosglwyddo'r cyfryw gofnodion o'r AG i gadwrfa yng Nghymru. Penderfynwyd y dylai CAC ysgrifennu at y Swyddfa Gymreig i nodi'r angen am archifdy i'r Cynulliad o'r cychwyn cyntaf. |
| 3.2 | Pwysleisiodd GJ nad oedd gan gynigion LlGC i ddarparu gwasanaeth gwybodaeth i aelodau'r Cynulliad ddim oll i'w wneud â sefydlu gwasanaeth archifau i'r Cynulliad ei hun. |
| 4 | Consortiwm Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth Cymru (CWLIS) |
| Adroddodd KM fod CWLIS yn tyfu'n gorff dylanwadol ac amlinellodd yr ystod eang o weithgareddau yr oedd yn mynd ynglyn â hwy. Mynegwyd pryder fod gwasanaethau archifau yn byw yng nghysgod y gwasanaethau llyfrgell pan sonnir am fentrau fel y Rhwydwaith Llyfrgelloedd Newydd. Tynnodd LT sylw at bapur Dewisiadau Cynllun Gweithredu Cymdeithas Wybodaeth Cymru a oedd ar fin ymddangos ac anogodd y gwasanaethau archifau i ymateb yn gadarnhaol i'w gynigion. |
| 5 | Cyfarfod Gregynog 1998 |
| 5.1 | Cynigiodd GJ gyfarfod ar y cyd â Chymdeithas yr Archifyddion i'w gynnal yn LlGC er mwyn gweld a thrafod catalogio ar gyfrifiadur yn unol â safonau ISAD(G) a Rheolau'r NCA ayyb. Cytunodd RW i roi'r cynnig gerbron cyfarfod y Gymdeithas drannoeth. |
| 5.2 | Nodwyd fod AG yn Kew ar 29 Medi yn mynd i fod yn gartref i ysgol undydd ar EAD a gwaith Pwyllgor Polisi Rhwydweithio'r NCA. |
| 6 | Swyddi Follett (Prifysgolion) |
| Roedd sector y Brifysgol wedi mynegi ei phryder nad oedd Cymru yn derbyn yr un gefnogaeth ariannol i waith archifol â gwasanaethau prifysgolion Lloegr a'r Alban. Penderfynwyd y dylai CAC gysylltu â [HEFCW] i'w holi a oes ganddo gynlluniau i wella'r sefyllfa hon a chytunodd ADC i ddrafftio llythyr. |
| 7 | HMC |
| 7.1 | Roedd `Standard for Record Repositories' ar gael yn awr yn y Gymraeg. Roedd taflenni eraill o eiddo'r HMC wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. |
| 7.2 | Archifau a'r Mileniwm: roedd HMC yn awyddus i fentro ar bortread o gyflwr iechyd archifau'r DU erbyn diwedd Hydref 1998. Cytunwyd y dylai CAC anfon ei ymateb i hyn a gohiriwyd trafodaeth bellach tan y cyfarfod nesaf. |
| 8 | Arolwg Ymwelwyr ag Archifau'r DU ym Mehefin 1998 |
| Byddai AG yn cyflenwi'r holl gopïau a'r gefnogaeth i'r fenter hon a gychwynodd o ganlyniad i Fforwm Ansawdd ar gyfer Archifau ac Astudiaethau Lleol a drefnwyd gan y Grwp Ansawdd Gwasanaethau Cyhoeddus ym mis Tachwedd 1997. Cytunodd ADC i holi'r gwasanaeth cyfieithu ym Mangor am baratoi fersiwn Gymraeg o'r holiadur. |
| 9 | Rhwydwaith Archifau Cymru |
| Eglurodd Cathrin Cassarchis ei swyddogaeth yn cefnogi aelodau'r gymuned archifol â'u ceisiadau i Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Adroddodd GJ am ymateb CDL a Chymdeithas Wybodaeth Cymru i adroddiad Hyd a Lled CAC. Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd fe ddaeth i'r amlwg pa mor bwysig y gallai arolwg mapio fod er adnabod yr anghenion mwyaf ac er darparu sylfaen gref ar gyfer llunio strategaeth ddatblygu ddichonadwy ynghyd ag amserlen ymarferol. Yn y diwedd penderfynwyd gwahodd Stephen Green (Cynghorydd Polisi CDL ar Archifau a Llyfrgelloedd) i gyfarfod â CAC; a bwrw ymlaen â'r nod o wneud RhAC yn rhan o Gynllun Gweithredu CWC erbyn mis Tachwedd heb ystyried amserlen yr arolwg o wasanaethau archifau Cymru. |
| 10 | Cyfarfod nesaf |
| Dyddiad i'w drefnu. |
Yn ôl i'r Tudalen Blaen