Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru
Archives and Records Council Wales

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 13 Mai 1998


Presennol: G Jenkins (LlGC, Cadeirydd); L Craven (AG); S Edwards (Morg); M Ellis (CLlH); G Evans (AOCC); D Jeremiah (LlGC); H Malaws (Henebion); David Rimmer (Gwent); Linda Tomos (AGaLl); Rowland Williams (CymdArch); J Watts-Williams (LlGC); a Stephen Green (CDL).

Ymddiheuriadau: K Matthias (Dinbych); A D Carr (PCBangor); A Lloyd Hughes (AGC); D Leitch (AG).

1Rhwydwaith Archifau Cymru
Eglurodd GJ mai unig fwriad y cyfarfod arbennig hwn oedd trafod strategaeth ar gyfer paratoi cais am arian Loteri mewn perthynas â RhAC.

2Cronfa Dreftadaeth y Loteri ac Archifau
2.1Canllawiau CDL
Eglurodd SG sut yr oedd canllawiau a pholisïau CDL wedi esblygu ers iddi ddechrau ar ei gwaith dair blynedd yn ôl. Yn ystod y cyfnod hwnnw roedd pwyslais ei ffyn mesur wedi codi oddi ar adeiladau rhwysgfawr a disgyn ar bobl a chymunedau. Nodwyd gyda diddordeb nad oedd CDL ddim yn ffafrio astudiaethau dichonolrwydd mwyach. Yn Ebrill 1998 cyhoeddwyd gan CDL y pecyn ceisiadau newydd sydd yn cynnwys y canllawiau diweddaraf ac roeddid yn ei ddosbarthu'n eang drwy'r gymuned archifol.

2.2Archifau a CDL
Er mwyn denu ystyriaeth ymddiriedolwyr CDL, rhaid i brosiect archifau gynnig gwerth ychwanegol, e.e. rhoi archifau ar gael i liaws helaethach. Byddai prosiect ar thema o bwys yn debycach o lwyddo na chynllun cyffredin i ddigideiddio catalogau cwta.
Sylfaen bwysig iawn i unrhyw gais yn awr yw'r arolwg sy'n tynnu sylw at anghenion mwyaf dybryd y gwasanaethau archifau; ac y mae'n allweddol i ragolygon pob cais o hyn ymlaen fod cynllun Rhwydwaith Archifau'r Alban yn llwyddo.
Mae adroddiad Llyfrgell y Bobl wedi cydio yn nychymyg y gwleidyddion. Mae'n bwysig fod y gwasanaethau archifau i'w gweld yn rhan annatod o ddatblygiad y syniad a gyfleir yn yr adroddiad hwnnw am gynnig drws cyhoeddus i wybodaeth. Roeddid yn trefnu digwyddiad yn yr AG er ceisio creu argraff ar ymddiriedolwyr CDL â'r cynlluniau uchelgeisiol i rwydweithio archifau trwy'r DU benbaladr. Roedd yn hwb i'r galon fod adroddiad Seamus Ross wedi ei gymeradwyo'n llwyr gan yr ymddiriedolwyr.

2.3Rhwydwaith Archifau Cymru a CDL
Cytunwyd bod yn rhaid datblygu dogfen Astudiaeth Hyd a Lled RhAC yn gais llawn a fydd yn nodi'n glir elfennau cynnwys deallusol y prosiect sy'n berthnasol i dreftadaeth Cymru ac yn rhoddi pwyslais mawr arnynt; a bod yn rhaid rhoi'r gorau i'r cynllun dichonolrwydd arfaethedig er mwyn cwblhau cynllun busnes cyn diwedd 1998.
Ystyriwyd yn ddymunol cynnal arolwg newydd a fyddai'n cynnwys ystod ehangach o wasanaethau archifau na'r archifdai llywodraeth leol a fapiwyd gan ME yn 1996, ac, os oedd modd, ei gwblhau cyn diwedd 1998 er mwyn atgyfnerthu cais Loteri CAC. Nodwyd fod Grwp Archifyddion Sirol Cymru wedi cytuno eisoes i wneud yr arolwg eto; a bod ME wedi dechrau ar y gwaith.
Byddai cyfran o'r cynnull gwybodaeth ar gyfer y cynllun busnes yn cyd-daro â gofynion yr arolwg mapio. Byddai ME a LT yn cytuno ar gwestiwn am ddarpariaeth TG i'w gynnwys yn holiadur yr arolwg mapio. Cytunodd HM i ddrafftio cwestiwn perthynol i Rwydwaith Archifau Cymru i'w gynnwys yn arolwg defnyddwyr fis Mehefin.
Cafwyd cynigion hael i ariannu prosiect chwe mis er paratoi'r cynllun busnes oddi wrth ADC (£15K), PCA (£5K, adnoddau yn rhannol), a LlGC (£5K, adnoddau yn rhannol). Penderfynwyd holi'r AG am gyfraniad tuag at y costau. Cytunodd LT, DJ a JWW i ddrafftio cylch gorchwyl ar gyfer y cynllun busnes yr wythnos wedyn ac anfon copi at aelodau CAC a'r is-bwyllgor rhwydweithio.

3Cyfarfod nesaf
Y dyddiad tebygol oedd 17 Gorffennaf 1998.


Yn ôl i'r Tudalen Blaen


Mae'r tudalennau hyn yng ngofal Swyddog y We
These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1997-2005