Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 17 Gorffennaf 1998
Presennol: K Matthias (Dinbych, Cadeirydd); A D Carr (PCBangor); M Ellis (HMC); A Lloyd Hughes (AGC); G Jenkins (LlGC); H Malaws (Henebion); D Rimmer (Gwent); R Williams (CymdArch); J Watts-Williams (LlGC).
Ymddiheuriadau: S Edwards (Morg); D Leitch (PRO); L Tomos (AAGaLl).
| 1 | Cofnodion y cyfarfod diwethaf |
| Cadarnhawyd cofnodion y ddau gyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 1998 a 13 Mai 1998. |
| 2 | Materion yn codi o'r Cofnodion |
| 2.1 | Ad-drefnu Llywodraeth Leol |
| Trafodwyd amgylchiadau Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin, nodwyd sefyllfa ddiweddaraf y gwasanaethau ym Môn a Gwynedd, a phenderfynwyd pwyso am ailgynnull y Panel Ymgynghorol. |
| 2.2 | Arolwg Robert Chell |
| Nodwyd bod RC yn ymadael ag AAGaLl. Awgrymodd ME y byddai HMC yn cysylltu ag AAGaLl i holi am y data a gasglwyd gan yr arolwg. |
| 2.3 | Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas yr Archifyddion 2001 |
| Nodwyd bod Bruce Jackson wedi ymweld ag Aberystwyth a'i fod yn ddigon bodlon â'r cyfleusterau. |
| 2.4 | Swyddi Follett (Prifysgolion) a Bwrsariaethau Myfyrwyr |
| Ymateb digalon am swyddi Follett a gafwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW). Doedd dim newyddion da i'w hadrodd ar gownt y bwrsariaethau chwaith. |
| 2.5 | Arolwg Ymwelwyr ag Archifau'r DU ym Mehefin 1998 |
| Nodwyd bod y fersiwn Gymraeg o'r holiadur wedi cyrraedd mewn pryd a bod nifer dda o archifdai Cymru wedi ymuno â'r arolwg. |
| 3 | Rhwydwaith Archifau Cymru |
| Adroddwyd bod LT yn croesawu sylwadau ar gynnwys y cylch gorchwyl, a'i bod yn ffyddiog y gellid paratoi'r cynllun busnes rhwng mis Medi a chanol mis Rhagfyr, amserlen ffafriol i ddwyn i mewn iddo ganlyniadau'r prosiect mapio. Byddai Awdurdod Datblygu Cymru, yr Archifdy Gwladol, AAGaLl, a LlGC yn cyfrannu at y treuliau. Awgrymwyd ambell fân newid i'r cylch gorchwyl a soniwyd am gynlluniau'r NCA i hybu datblygiad rhwydwaith ar sail yr adroddiad, Archives On-line. |
| 4 | Prosiect Mapio |
| Cytunwyd i ddosbarthu copi o holiadur Lloegr i'r aelodau a chasglu sylwadau ynghyd erbyn y cyfarfod nesaf. Y Cyngor ei hun fydd yn gyfrifol am fonitro'r prosiect. Roedd yr Archifdy Gwladol wedi cynnig dadansoddi'r atebion. |
| 5 | Archifdy Gwladol Cymru |
| Mynegwyd siom fod y Swyddfa Gymreig, wrth gynllunio ar gyfer y Cynulliad, heb gymell y syniad o sefydlu archifdy gwladol. |
| 6 | Consortiwm Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth Cymru (CWLIS) |
| Nodwyd bod CWLIS yn gwneud arolwg o anghenion hyfforddi a phenderfynwyd holi'r trefnydd a oedd yr archifyddion yn cael eu cynnwys ynddo. Roedd CWLIS hefyd yn llunio strategaeth Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu a mynegwyd pryder nad oedd neb i'w weld yn cydlynu'r holl gynlluniau gwahanol sydd yn ymddangos yn y maes hwn. |
| 7 | Cyfarfod Gregynog 1998 |
| Nodwyd trefniadau'r cyfarfod i'w gynnal yn LlGC ar 17 Hydref 1998. Roedd cwmni CAIRS yn barod i noddi'r diwrnod a dangos eu system CAIRS-ARC. Byddai Michael Cook (LUCAS) yn egluro safonau catalogio ISAD(G); Dick Sargent (HMC) yn sôn am reolau mynegeio'r NCA; a thîm LlGC yn arddangos system CAIRS-LlGC. |
| 8 | HMC: Archifau a'r Mileniwm |
| Cytunwyd i baratoi ymateb yn cwmpasu tri phwnc: llywodraeth leol (KM); Archifdy Gwladol Cymru (GJ); a Rhwydwaith Archifau Cymru (JWW). Cynigiodd ME drefnu cyfarfod ymgynghorol yng Nghymru, os bydd galw amdano. |
| 9 | Adroddiad Blynyddol, Tanysgrifiadau, Aelodaeth, a Nodau |
| Byddai GJ yn cylchredeg drafft yr adroddiad blynyddol yn ystod yr wythnosau dilynol. Cytunwyd: (1) i godi'r tanysgrifiad o £20 i £30; (2) bod y newidiadau yn yr aelodaeth a wnaed yn ystod y tair blynedd cyntaf yn ateb gofynion y canllawiau y cytunwyd arnynt yn 1995; a (3) i addasu'r nodau blaenorol ar gyfer 1998-9, gan ychwanegu atynt y prosiect mapio. |
| 10 | Etholaeth y Brifysgol |
| Nodwyd bod ADC wedi darparu adroddiad cynhwysfawr iawn ar weithgareddau'r Cyngor i'w etholwyr a chytunwyd y gellid anfon copi o'r cofnodion atynt o hyn ymlaen gan nodi nad oeddent wedi'u cymeradwyo. |
| 11 | Cyfarfod nesaf |
| Dydd Gwener, 25 Medi 1998 (newidiwyd i 2 Hydref 1998 yn ddiweddarach). |
Yn ôl i'r Tudalen Blaen