Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 2 Hydref 1998
Presennol: K Matthias (Dinbych, Cadeirydd); S Beckley (GMorg [ar ran S Edwards (Morg)]); A Lloyd Hughes (AGC); G Jenkins (LlGC); D Leitch (PRO); H Malaws (Henebion); L Tomos (AAGaLl); J Watts-Williams (LlGC).
Ymddiheuriadau: A D Carr (PCBangor); S Edwards (Morg); D Rimmer (Gwent).
| 1 | Cofnodion y cyfarfod diwethaf |
| Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 1998. |
| 2 | Materion yn codi o'r Cofnodion |
| 2.1 | Ad-drefnu Llywodraeth Leol |
| Roedd yr Archifdy Gwladol wedi nodi arwyddion addawol o du Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin; ac roedd yn dal i gadw llygad ar sefyllfa Môn a Gwynedd. Nodwyd efallai y byddai'n rhaid aros i'r Cynulliad cyn y deuai adeg ffafriol i ailgynnull y Panel Ymgynghorol. |
| 2.2 | Arolwg Robert Chell |
| Roedd SB wedi derbyn data'r arolwg (a oedd yn 90% yn gyflawn ac ar ddisg gan RC). Cynigiodd SB eu cwblhau. |
| 2.3 | Arolwg Ymwelwyr ag Archifau'r DU ym Mehefin 1998 |
| Nodwyd bod y canlyniadau i'w cyhoeddi yng nghyfarfod blynyddol Grwp Ansawdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn yr Archifdy Gwladol ar 19 Tachwedd. Canmolwyd nifer y gwasanaethau o Gymru a gymerodd ran yn yr arolwg. |
| 3 | Rhwydwaith Archifau Cymru |
| Adroddodd LT fod y prosiect ymchwil wedi dechrau ar 28 Medi gyda'r gyn-fyfyrwraig, Sarah Chubb, yn ymchwilydd. Penderfynwyd paratoi'r cais ei hun yn ystod y cyfnod Ionawr-Mawrth 1999 gan anelu i'w gwblhau erbyn 31 Mawrth. Soniwyd am nifer o bethau eraill a allai fod yn berthnasol: rhwydwaith y llyfrgelloedd, rhwydwaith y Cynulliad, Y Grid Dysgu Cenedlaethol, a Chronfa'r Cyfleoedd. |
| 4 | Prosiect Mapio |
| Cytunwyd ar ffurf derfynol yr holiadur ac amserlen y prosiect: dosbarthu'r holiadur yn ystod yr wythnos 19-23 Hydref; yr atebion i law erbyn 30 Tachwedd; canlyniadau drafftiedig yn gynnar ym mis Ionawr; yr adroddiad terfynol erbyn diwedd Chwefror. Roedd y cyfarfod yn unfryd o blaid bod yn agored ynglyn â'r canlyniadau. |
| 5 | Archifdy Gwladol Cymru |
| Cytunwyd y byddai'n rhaid i'r Cyngor fynnu sylw'r Cynulliad i'r mater hwn. Nodwyd bod swydd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus ac Ymchwil y Cynulliad wedi ei hysbysebu y pryd hwnnw a bod ei chyfrifoldebau yn cynnwys `archifo'. |
| 6 | Consortiwm Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth Cymru (CWLIS) |
| Cafwyd adroddiad gan y Cadeirydd am gyfarfod CWLIS ar 22 Medi 1998. Penderfynwyd gwahodd cadeirydd LISC Cymru, Lionel Madden, i gyfarfod nesaf y Cyngor i drafod perthynas LISC â'r gwasanaethau archifau. Penderfynwyd hefyd y dylai'r Cyngor ymateb i'r ddogfen adolygu gwariant cyhoeddus, Gwasanaethau Cyhoeddus Modern i Gymru. Nodwyd nad oedd y gwasanaethau archifau wedi eu cynnwys yn arolwg hyfforddiant CWLIS. Soniwyd hefyd am y paratoadau ar gyfer cyfarfod blynyddol CWLIS gyda'r pwyslais ar wneud gofynion y gwasanaethau llyfrgell yn hysbys i gynifer â phosibl o bobl allweddol y Cynulliad. |
| 7 | Cyfarfod Archifyddion Cymru 1998 |
| Nodwyd bod trefniadau'r cyfarfod i'w gynnal yn LlGC ar 17 Hydref 1998 wedi eu cwblhau. |
| 8 | HMC: Archifau a'r Mileniwm |
| Dosbarthwyd drafft yr ymateb gan wahodd sylwadau ac awgrymiadau'r aelodau mewn da bryd i'w anfon i HMC cyn diwedd mis Hydref. |
| 9 | Adroddiad Blynyddol, Tanysgrifiadau, Aelodaeth, a Nodau |
| Dosbarthwyd drafft yr adroddiad blynyddol gan wahodd sylwadau ac awgrymiadau'r aelodau mewn da bryd i'w gyhoeddi yn ystod mis Tachwedd. Nodwyd bod rhai o'r tanysgrifiadau heb ddod i law; a chytunwyd ar amcanion 1998-9. |
| 10 | Adolygiad Gwariant yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) |
| Penderfynwyd anfon sylwadau byrion CAC drwy ffacs yn syth wedi'r cyfarfod. |
| 11 | Cyfarfod nesaf |
| Dydd Gwener, 5 Chwefror 1999. |
Yn ôl i'r Tudalen Blaen