Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru
Archives and Records Council Wales

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 5 Chwefror 1999


Presennol: K Matthias (Dinbych, Cadeirydd); S Edwards (Morg); M Ellis (AAGaLl ar ran CLlH); A Lloyd Hughes (AGC); G Jenkins (LlGC); D Leitch (PRO); H Malaws (Henebion); L Tomos (AGaLl); R Williams (CymdArch); J Watts-Williams (LlGC).

Ymddiheuriadau: A D Carr (PCBangor); D Rimmer (Gwent).

1Cofnodion y cyfarfod diwethaf
Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 2 Hydref 1998.

2Materion yn codi o'r Cofnodion
2.1Ad-drefnu Llywodraeth Leol
Nodwyd mai’r Cynulliad fyddai’n gyfrifol o hyn ymlaen am faterion fel cynlluniau Adran 60 yr awdurdodau lleol.

2.2Arolwg Robert Chell
Nodwyd bod Panel Deddfwriaeth Cymdeithas yr Archifyddion wedi trafod yr Adroddiad.

2.3Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS)
Tynnodd DL sylw at y datblygiadau diweddaraf o ran cynrychiolaeth archifol ar y corff newydd sydd i arolygu llyfrgelloedd, amgueddfeydd, ac archifdai.

3Prosiect Mapio
Trafodwyd y canlyniadau dros dro. Adroddwyd bod pob un o’r gwasanaethau wedi ymateb i’r holiadur. Penderfynwyd cwblhau’r adroddiad a chynhyrchu CD-ROM y gellid ei ddefnyddio ar achlysur lansio’r adroddiad yng ngwydd aelodau’r Cynulliad i hybu achos gwasanaethau archifau Cymru am fwy o gefnogaeth ariannol. Penderfynwyd cynhyrchu taflen liwgar hefyd os gellid dod o hyd i’r nawdd pwrpasol.

4Rhwydwaith Archifau Cymru
Trafodwyd yr adroddiad drafftiedig yng ngoleuni cyfarfod KM, GJ, a JWW â Stephen Green, Cathrin Cassarchis, a Harriet Atkinson yn swyddfeydd CDL yn Llundain ddeuddydd ynghynt. Penderfynwyd bwrw ymlaen â’r cynllun trwy wneud y canlynol: (i) datrys problem y corff arweiniol; a (ii) cwblhau’r cynllun busnes. Penderfynwyd trefnu i’r is-bwyllgor rhwydweithio gyfarfod yn Archifdy Morgannwg ar 23 Chwefror 1999 am 11 y bore.
Soniodd ME am y cynllun a noddir gan JISC i ddatblygu thesawrws enwau testunol a phenderfynwyd gofyn iddi ymgynghori â Mared Owen (LlGC) ynglyn â chynrychioli Cymru ar y pwyllgor datblygu.

5Consortiwm Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth Cymru (CWLIS)
Cafwyd adroddiad gan y Cadeirydd am gyfarfod diwethaf CWLIS. Nodwyd nad oedd CAC wedi derbyn ateb i’w gwyn am ddiffyg ymgynghori ag archifyddion wrth wneud arolwg hyfforddiant CWLIS.

6Cyfarfod Archifyddion Cymru 1998
Eglurodd GJ fod y cyfarfod wedi ei ddileu oherwydd diffyg diddordeb.

7Cyfarfod Archifyddion Cymru 1999
Gofynnwyd i GJ a RW drefnu cyfarfod 1999 ar batrwm cyfres cyfarfodydd Gregynog.

8Adroddiad Blynyddol, Tanysgrifiadau, Aelodaeth, a Nodau
Nodwyd bod yr adroddiad blynyddol wedi ei gyhoeddi; a bod yr holl danysgrifiadau wedi dod i law.

9Pwyllgor Cymreig Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Darllenwyd ymateb CDL i gwyn CAC nad oedd un archifydd yn aelod o’r pwyllgor.

10LISC, y Cynulliad, a Llais Archifau Cymru
Ym mhresenoldeb Lionel Madden, cadeirydd LISC, a Jane Edmunds, swyddog yng nghangen Diwylliant a Hamdden y Swyddfa Gymreig, cafwyd trafodaeth ynghylch y posibilrwydd o addasu LISC i gynrychioli archifau yn ogystal â llyfrgelloedd mewn perthynas â’r Cynulliad a’r Comisiwn newydd (MLAC).

12Cyfarfod nesaf
Dydd Gwener, 16 Ebrill 1999, 13.00 [canslwyd yn ddiweddarach].


Yn ôl i'r Tudalen Blaen


Mae'r tudalennau hyn yng ngofal Swyddog y We
These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1997-2005