Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru
Archives and Records Council Wales

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 22 Gorffennaf 1999.


Presennol: K Matthias (Dinbych, Cadeirydd); S Beckley (GMorg, yn lle S Edwards (Morg)); E Bennett (PCAbertawe, yn lle A D Carr (PCBangor)); A Lloyd Hughes (AGC); G Jenkins (LlGC); C Kitching (CLlH); D Leitch (PRO); D Rimmer (Gwent); L Tomos (AGaLl); R Williams (CymdArch); J Watts-Williams (LlGC).

Ymddiheuriadau: H Malaws (Henebion).

1Cofnodion y cyfarfod diwethaf
Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 1999. Nodwyd i'r Cyngor ohirio'r cyfarfod y bwriadasid ei gynnal ar 16 Ebrill 1999.

2Materion yn codi o'r Cofnodion
2.1Rhwydwaith Archifau Cymru
Nodwyd bod y cais wedi'i anfon at GDL a bod GDL wedi cydnabod ei dderbyn. Disgwylid i'r Adroddiad Mapio gael ei gyflwyno fel atodiad i'r cais tua diwedd yr haf. Cytunwyd i atgoffa'r partneriaid o'r angen am ddeunydd ychwanegol i'w gynnwys yn y fersiwn o'r CD-ROM y bwriedir ei ddefnyddio i hybu'r prosiect.

2.2Cyfarfod Archifyddion Cymru 1999
Cymeradwywyd trefniadau'r cyfarfod a oedd i'w gynnal yng Ngregynog ar 25 Medi.

3Prosiect Mapio
Cyflwynodd DL ei adroddiad cynnydd i'r cyfarfod. CAC fyddai'n penderfynu pa mor eang y dylid dosbarthu'r adroddiad terfynol. Wedi trafod amryw fanylion, amlinellwyd yr amserlen ar gyfer cynhyrchu'r adroddiad terfynol.

4Consortiwm Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth Cymru (CWLIS)
4.1Cafwyd adroddiad am ddau gyfarfod diweddaraf CWLIS. Soniwyd am ddiffyg strategaeth Gymreig o ran y Grid Dysg Cenedlaethol a bod cyfle gwirioneddol i archifau lenwi'r bwlch hwnnw. Yn y siroedd lle y mae'r gwasanaeth archifau yn perthyn i'r un adran lywodraeth leol â'r llyfrgelloedd, y mae'n debygol y bydd yr archifyddion yn ogystal â'r llyfrgellwyr yn elwa o'r cynllun hyfforddi arbennig.
4.2Byddai sôn am archifau yng nghyflwyniad CWLIS i aelodau'r Cynulliad a chadeiryddion y Pwyllgorau Pwnc.
4.3Bu CWLIS yn trafod hefyd sut y gallai fod â rhan flaenllaw yng ngweithrediad `Gweddnewid Cymru', y portffolio o gynlluniau busnes a baratowyd gan WIS. Penderfynwyd tynnu sylw at awydd CAC i fod yn rhan o ddatblygiad y prosiect digideiddio, `Amgueddfa Rithwir Cymru', a chytunwyd y dylai GJ drafod y mater gyda Rhidian Griffiths (LlGC), sydd yn gyfrifol am baratoi ymateb CWLIS i bortffolio WIS.

5Comisiwn Archifau, Llyfrgelloedd, ac Amgueddfeydd (MLAC)
Roedd GJ wedi derbyn llythyr ac adroddiad swmpus gan Jane Edmonds (Y Swyddfa Gymreig) ynglŷn â MLAC. Mynegwyd pryder ynghylch ansicrwydd y sefyllfa. Nodwyd bod cyfres o seminarau wedi ei threfnu yn Lloegr i drafod strwythur y cynghorau archifau rhanbarthol. Ni wyddai neb pryd y byddai'r Cynulliad yn ystyried y mater hwn o du Cymru. Penderfynwyd hysbysu Jane Edmonds o bryderon y Cyngor a'i ddymuniad i fod yn rhan o unrhyw ymgynghoriad a drefnir yn enw'r Cynulliad.

6Ad-drefnu Llywodraeth Leol
Mynegwyd pryder bod ymgais Conwy i drosglwyddo archifau o Wynedd yn tramgwyddo Adran 60 y ddeddf. Cytunwyd bod angen atgoffa'r Cynulliad o'i gyfrifoldeb i fynnu cynllun Adran 60 newydd gan awdurdod lleol sy'n peri i'r amgylchiadau newid. Penderfynwyd hysbysu Jane Edmonds o farn y Cyngor.

7NCA
Cafwyd adroddiad am gyfarfod diweddaraf y Cyngor Cenedlaethol ar Archifau. Roedd NCA yn adolygu ei strwythur a'i swyddogaeth a phenderfynwyd datgan trwy lythyr farn y Cyngor amdano.

8Nodau 1999-2000 a threfniadaeth y dyfodol
8.1Cytunwyd ar y nodau canlynol ar gyfer y flwyddyn 1999-2000:
8.1.1Bwrw ymlaen â chynlluniau'r Cyngor i ddatblygu RhAC ar yr amod y ceir cefnogaeth CDL
8.1.2Cyfrannu at astudiaeth strategol arfaethedig y Cynulliad Cenedlaethol ar y sector Celfyddydau a Diwylliant
8.1.3Trefnu cyfarfod archifyddion Cymru yng Ngregynog ar y cyd â Chymdeithas yr Archifyddion
8.1.4Paratoi adroddiad terfynol am y Prosiect Mapio
8.1.5Dod yn rhan o brosiectau a mentrau perthnasol gan gynnwys y prosiectau a'r mentrau a drefnir gan Gymdeithas Wybodaeth Cymru mewn cysylltiad â Chronfa'r Cyfleon Newydd
8.2Trafodwyd llythyr Gordon Reid (Powys) ynghylch cynrychiolaeth y Cyngor a phenderfynwyd trefnu cyfarfod arbennig yn Llandrindod i'w drafod yn helaethach.

9Cyfarfod NOF
Nodwyd mai Gordon Reid fyddai'n cynrychioli CAC yng nghyfarfod Cronfa'r Cyfleon Newydd (New Opportunities Fund) yng Nghaerdydd ar 29 Gorffennaf.

10Dysg Gydol Oes
Soniwyd am gyfarfod rhag-ymgynghorol â NOF ynghylch arian Dysg Gydol Oes a oedd i'w clustnodi i Gymru.

11Cyfarfod nesaf
Dydd Gwener, 12 Tachwedd 1999.


Back to the Front Page


Mae'r tudalennau hyn yng ngofal Swyddog y We
These pages are maintained by the Web Officer
© LLGC/NLW 1997-2005