Cofnodion y cyfarfod cyffredinol a gynhaliwyd yn Llyfrgell
Genedlaethol Cymru ar 12 Tachwedd 1999.
Presennol: K Matthias (Dinbych, Cadeirydd); R Baker (HMC);
S Beckley (GMorg); E Bennett (PCAbertawe); N Bosworth (Penfro);
S J Davies (PCAberystwyth); S Edwards (Morg); M Ellis (AGaLl);
A Lloyd Hughes (AOCC); G Jenkins (LlGC); S Jones (PRO);
H Malaws (Henebion); A Rhydderch (Gwynedd); L Tomos (AGaLl);
R Williams (CymdArch); J Watts-Williams (LlGC).
Ymddiheuriadau: A D Carr (PCBangor); G Reid (Powys).
| 1 | Cofnodion y cyfarfod diwethaf |
| Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 1999. |
| 2 | Materion yn codi o'r Cofnodion |
| 2.1 | Rhwydwaith Archifau Cymru |
| Roedd y Cyngor yn dal i ddisgwyl ymateb CDL. Byddai LT yn croesawu deunydd ychwanegol i'w gynnwys yn y CD-ROM. | |
| 2.2 | Cyfarfod Archifyddion Cymru 1999 |
| Llongyfarchwyd pawb a fu ynglŷn â threfniadau'r cyfarfod llwyddiannus a gynhaliwyd yng Ngregynog ar 25 Medi. | |
| 2.3 | Ad-drefnu Llywodraeth Leol |
| Nid oedd y Cynulliad wedi ymateb i lythyr GJ ynghylch cynlluniau Adran 60. Dywedodd ARh fod Conwy yn anhapus bod eu hymgais i drosglwyddo archifau o Wynedd wedi ei drafod gan CAC heb yn wybod iddynt, a bod y trosglwyddiad yn mynd rhagddo `oherwydd Conwy yw'r awdurdod olynol'. |
| 3 | Prosiect Mapio |
| Cafwyd y newyddion diweddaraf gan SJ. Roedd David Leitch yn gobeithio dechrau drafftio'r adroddiad ym mis Ionawr. Penderfynwyd dosbarthu'r adroddiad drafft i bawb a gyfrannodd ac anelu am lansiad uchel ei broffeil. Dylid hysbysu CDL, mewn perthynas â'i harolwg o'r sector treftadaeth, o fodolaeth y prosiect hwn a'i ragflaenydd. Petai CDL yn dymuno gweld yr adroddiad cyn iddo gael ei orffen, cytunwyd y gellid cyflwyno'r adroddiad drafft iddi. |
| 4 | Consortiwm Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth Cymru (CWLIS) |
| Cafwyd adroddiad am gyfarfod CWLIS, 30 Medi 1999, pryd y trafodwyd: | |
| 4.1 | Cronfa'r Cyfleoedd Newydd (NOF): roedd seminar i'w gynnal yn AOC ar 25 Tachwedd i drafod cais Cymru gyfan am isadeiliaeth rhwydweithiol. Er bod archifau ac amgueddfeydd yn Lloegr, yn sgîl y trafodaethau a fu yno ynghylch MLAC, wedi dod yn rhan o'r cynllun, nodwyd mai ar lyfrgelloedd yn unig yr oedd y pwyslais yng Nghymru o hyd. Cytunwyd y dylai CAC bwyso am newid tebyg yn y pwyslais yma hefyd. Soniwyd hefyd am y cyfle i ddefnyddio cronfeydd strwythurol Ewrop, Amcan 1 a 2. |
| 4.2 | Strategaeth CWC (WIS): byddai CWC yn rym pwysig i wthio prosiectau TG yn eu blaen, e.e. Porth Addysg Uwch; Amgueddfa Rithwir Cymru - Trysorau'r Genedl, a dylid ei hystyried yn ffynhonnell arian. |
| 4.3 | Materion eraill: MLAC; cyfarfod adeiladol iawn â Tom Middlehurst, yn enwedig o ran twf yr isadeiliaeth; a Chyfeiriadur CD-ROM yr oedd LT yn paratoi datganiad gweledigaeth ar ei gyfer. |
| 5 | Comisiwn Archifau, Llyfrgelloedd, ac Amgueddfeydd (MLAC) a Chymru |
| Cafwyd adroddiad am gyfarfod a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 21 Hydref 1999 o dan gadeiryddiaeth Russell Thomas. Dywedwyd bod meddwl agored gan swyddogion y Cynulliad ynghylch sefydlu MLAC annibynnol i Gymru. Byddai papur ymgynghorol yn cael ei ddosbarthu'n eang. Soniwyd bod archifyddion yr Alban wedi llunio Polisi Archifau Cenedlaethol a gofynnwyd i EB, SE, a ME baratoi drafft o ddogfen debyg ar gyfer Cymru. |
| 6 | Cronfa'r Cyfleoedd Newydd (NOF) |
| Adroddwyd am gyfarfod a fu yn y Drenewydd ddeuddydd ynghynt pryd y trafodwyd y cais i NOF i ddigideiddio detholiad o gasgliadau ar thema'r Gymuned. Bwriedir dod â chynifer â phosibl o sefydliadau (gan gynnwys llyfrgelloedd, amgueddfeydd, ac archifau) at ei gilydd yng Nghymru i gyfrannu defnyddiau ac, os bydd y cais yn llwyddo, anelir i ddechrau'r gwaith yn Ebrill 2001. |
| 7 | NCA |
| Cafwyd adroddiad am gyfarfod diweddaraf y Cyngor Cenedlaethol ar Archifau. Cytunwyd y dylid gwahodd Neville Mackay a Matthew Evans (MLAC) i gwrdd â CAC i'w goleuo am sefyllfa archifau yng Nghymru a thrafod polisi yng nghyd-destun MLAC a Chymru. Nodwyd yr angen i CAC a'i aelodau ymateb i ddogfen HMC, Archives at the Millennium. |
| 8 | Trefniadaeth y dyfodol |
| 8.1 | Wedi i EB gwyno am absenoldeb cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd yn Llandrindod ar 5 Hydref, trafodwyd y diwygiadau a gynigiwyd i'r Canllawiau. Penderfynwyd: |
| 8.1.1 | Newid y Rhagymadrodd yn unol â'r newidiadau a fyddai'n cael eu gwneud i weddill y ddogfen |
| 8.1.2 | Newid trefn y Nodau: 2.1 > 2.4; 2.2 > 2.1; 2.3 > 2.2; 2.4 > 2.3 |
| 8.1.3 | Newid cynrychiolaeth i `Gwasanaethau Archifau Llywodraeth Leol 5; Llyfrgell Genedlaethol Cymru 1; Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru 1; Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru 1; Cymdeithas yr Archifyddion 1; Archifyddion Prifysgol Cymru 1; Cyrsiau Archifau Prifysgol Cymru 1'. Nodwyd i'r dyfodol gynnig SB y dylai Darluniau a Mapiau LlGC gael cynrychiolaeth. |
| 8.1.4 | Newid Canllaw 4 i `Pob aelod i'w wahodd i'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, cynrychiolwyr i'w hethol yn flynyddol' |
| 8.1.5 | Newid Canllaw 6.1 i `Y Cadeirydd i'w ethol gan y CCB. Enwebiadau i'w derbyn gan yr Ysgrifennydd ddiwrnod o leiaf cyn y CCB. Unrhyw etholiad drwy bleidlais gudd yn y CCB' |
| 8.1.6 | Newid Canllaw 9 i `Dylai CAC gyfarfod o leiaf deirgwaith y flwyddyn (gan gynnwys y CCB)' |
| 8.1.7 | Newid Canllaw 10 i `Dylid ethol Ysgrifennydd, a fydd yn gyfrifol am bob gwasanaeth ysgrifenyddol, yn y CCB. Enwebiadau i fod yn llaw'r Ysgrifennydd ddiwrnod o leiaf cyn y CCB. Ethol drwy bleidlais gudd yn y CCB' |
| 8.1.8 | Newid Canllaw 11.1 i `Pob aelod i dalu tanysgrifiad o £30 y flwyddyn' |
| 8.2 | Cynigiodd EB, wrth gefnogi llythyr oddi wrth A D Carr (Bangor), ei bod yn bryd i CAC gael cyfansoddiad mwy ffurfiol a chytunwyd i wyntyllu'r pwnc yn fanwl yn ystod y flwyddyn ganlynol. |
| 8.3 | Cytunodd EB i gysylltu â llyfrgelloedd Bangor a Llanbedr Pont Steffan ynghylch cynrychiolaeth y Brifysgol; a ME/SD â Bangor ynglŷn â chynrychiolaeth y cyrsiau. |
| 9 | Ethol cynrychiolwyr |
| Etholwyd y cynrychiolwyr canlynol: | |
| Gwasanaethau Archifau Llywodraeth Leol: Kevin Matthias, Susan Edwards, David Rimmer, Ann Rhydderch, Susan Beckley | |
| Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Gwyn Jenkins | |
| Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru: Arwyn Lloyd Hughes | |
| Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru: Hilary Malaws | |
| Cymdeithas yr Archifyddion: Rowland Williams | |
| Archifyddion Prifysgol Cymru: Elisabeth Bennett | |
| Cyrsiau Archifau Prifysgol Cymru: i'w benderfynu | |
| Cyfetholwyd: Linda Tomos |
| 10 | Ethol Swyddogion |
| Etholwyd y swyddogion canlynol: | |
| Cadeirydd: Susan Edwards | |
| Ysgrifennydd: Gwyn Jenkins |
| 11 | Rhestr ebost archifyddion Cymru |
| Roedd ME yn ffyddiog fod y rhestr ebost yn barod i'w gweithredu yr wythnos ganlynol. |
| 12 | Dogfen Ymgynghorol LlGC |
| Gofynnwyd i'r Cadeirydd newydd sicrhau bod pawb yn cael gwybod am y ddogfen. |
| 13 | Grid Dysgu Cenedlaethol |
| Apeliodd LT am enghreifftiau lle na cheir cynnwys dwyieithog o safon dda. |
| 14 | Cynhadledd Cymdeithas yr Archifyddion |
| Roedd ME, wrth baratoi cyfraniad Cymru i sesiwn `Rhanbartholi mewn Deddfwriaeth Newydd', yn croesawu unrhyw syniadau. |
| 15 | Diolchiadau |
| Diolchwyd i KM am ei waith fel cadeirydd mewn cyfnod anodd. |
| 16 | Arolwg Cadwraeth LISC |
| Cafwyd cyflwyniad gan Jane Henderson i'r arolwg o gyflwr casgliadau llyfrgelloedd ac archifdai yr oedd hi yn ei drefnu ar ran LISC (Cymru). |
| 17 | Cyfarfod nesaf |
| Dydd Iau, 2 Mawrth 2000, am 11.00. |
Yn ôl
i'r Tudalen Blaen