Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae’n rhaid i chi gael tocyn darllen dilys i fynd i’r Ystafelloedd Darllen a defnyddio casgliadau’r Llyfrgell.
I wneud cais am docyn, dylid cofrestru arlein
Yn ogystal â bod yn gam cyntaf i gael tocyn darllen llawn, mae cofrestru arlein yn cynnig mynediad i Adnoddau Allanol y Llyfrgell, sef adnoddau y mae'r Llyfrgell wedi tanysgrifio iddynt. Mae'r cynllun yma'n bosib drwy nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac felly i gael mynediad, rhaid cael cyfeiriad yng Nghymru neu gôd post Cymreig.
Gellir rhoi tocyn darllen i rai sydd yn 16 oed a throsodd. Gall ymwelydd o dan 16 oed (ymwelydd ifanc) wneud cais i ymweld â’r Ystafelloedd Darllen dan amodau arbennig. Am fanylion pellach, ac i wneud cais argraffwch y ffurflen Mynediad i’r Ystafelloedd Darllen Gan Ymwelwyr o Dan 16 oed, neu gallwch gwblhau ffurflen yn y dderbynfa ar ôl cyrraedd y Llyfrgell.
Rhoddir tocyn yn unol â'r rheolau sydd mewn grym ar y pryd a gellir ei ddefnyddio ar gyfer yr holl Ystafelloedd Darllen.
Wrth lofnodi eich tocyn darllen, byddwch yn tystio eich bod wedi darllen a deall y Polisi ar fynediad – Ein disgwyliadau gan ddarllenwyr y Polisi ar Ddefnydd Derbyniol o Gyfrifiaduron, a'r Ffurflen Derbyn Amodau Defnydd o Archifau Modern.
Pan yn ymweld â'r Llyfrgell mae’n hanfodol eich bod yn dod â 2 brawf adnabod gyda chi, un ohonynt yn dangos eich cyfeiriad cyfredol. Ni ellir rhoi tocyn darllen llawn i chi heb brofion adnabod digonol.
Bydd eich llun yn cael ei dynnu a’i argraffu ar eich tocyn, a chedwir copi gan
y Llyfrgell at ddibenion diogelwch.
Rhoddir y tocyn darllen am gyfnod o 3 mlynedd a gellir ei adnewyddu.
Gallwch adnewyddu eich tocyn darllen llawn drwy ymweld â'r Llyfrgell. Bydd staff y Dderbynfa yn uwchraddio'ch manylion, tynnu eich llun, ac yn argraffu tocyn newydd i chi. Bydd angen i chi ddod a'ch hen docyn gyda chi, a phrawf o'ch cyfeiriad cyfredol, os yw hwn wedi newid ers i chi gael eich tocyn blaenorol.
Ar hyn o bryd rhaid cofrestri o'r newydd ar ddiwedd cyfnod tocyn arlein gan dderbyn rhif tocyn newydd.