Skip Navigation Link
Logo LlGC
Ffotograffiaeth Gynnar Abertawe



Digido'r Ffotograffau

Trwy dechnoleg ddigidol mae'n bosib i'r Llyfrgell Genedlaethol bellach rannu ei chasgliadau o ffotograffau cynnar gyda Chymru a'r byd. Cliciwch ar y bodluniau uchod i fynd ar daith drwy hanes cynnar ffotograffiaeth yng Nghymru fel y'i gwelir yng nghasgliad y Llyfrgell Genedlaethol.

Crëir cynnwys digidol trwy'r broses ddigido, sy'n cynhyrchu copi digidol o'r ffotograff gwreiddiol. Digidwyd y ffotograffau hyn drwy ddefnyddio camera digidol i gynhyrchu ffeiliau archifol digidol addas ar gyfer cadwedigaeth ddigidol. O'r ffeiliau archifol cynhyrchwyd ffeiliau llai ar gyfer eu cyflwyno ar y wefan. Crëwyd gwybodaeth gatalogio, neu fetadata, i ddisgrifio'r ffotograffau, i gofnodi'r broses ddigido ac i gynrychiolir strwythur y llyfrau ffotograff digidol. Defnyddir safonau metadata cyffredin METS (Metadata Encoding and Transmission Standard), MODS (Metadata Object Description Schema) ac elfennau craidd DCMI (Dublin Core Metadata Initiative).

Mae hyblygrwydd digido yn golygu y gall y ffotograffau cynnar hyn gael eu cyflwyno mewn amryw o wahanol ffyrdd. Golyga hyn y gall defnyddiwr nail ai bori drwy'r llyfrau ffotograffau o drostynt eu hunain neu edrych ar orielau o ffotograffau o bob llyfr ffotograffau.

Bwriad y Llyfrgell Genedlaethol yw ychwanegu at gynnwys digidol y wefan hon wrth i fwy o lyfrau ffotograffau gael eu digido ar gyfer cynulleidfa fyd-eang.

Am fwy o wybodaeth am ddigido yn y Llyfrgell Genedlaethol ewch at: http://www.llgc.org.uk/drychdigidol/