Skip Navigation Link
Logo LlGC
Ffotograffiaeth Gynnar Abertawe



Llyfr ffotograffau LlGC 2

Harry ac Amy yn darllen * Gweld oriel o'r ffotograffau

* Gweld yr albwm

Ceir 101 o ffotograffau o deuluoedd Dillwyn Llewelyn a Vivian yn y llyfr hwn ynghyd â golygfeydd o ardal Abertawe. Y mwyaf trawiadol yw'r golygfeydd o'r Mwmbwls, y rhaeadr ym Mhenlle'r-gaer, Bae Three Cliffs, portread o Syr Henry De La Beche gyda'i wyrion, a llun hudolus o bicnic ar furiau Castell Ystumllwynarth. Mae'n debyg fod y llyfr ffotograffau hwn yn rhodd gan Mrs Vivian i Montague Earle Welby, darpar ŵr Mary Dillwyn, gan ei fod yn cario'r arysgrif "M. E. Welby, from Mrs Vivan". Prynwyd y llyfr gan y Llyfrgell Genedlaethol oddi wrth R. O. Dougan.

* Nodiadau ychwanegol gan Mr Richard Morris o Abertawe (dogfen PDF)