Skip Navigation Link
Logo LlGC
Ffotograffiaeth Gynnar Abertawe



Elinor Llewelyn

Llyfr ffotograffau LlGC 3

* Gweld oriel o'r ffotograffau

* Gweld yr albwm

Mae'r llyfr ffotograffau hwn yn fwy o ran maint na Llyfrau ffotograffau LlGC 1 a 2. Y mwyaf trawiadol o'r 64 ffotograff sydd yn y gyfrol yw'r printiau mwy o ran maint sy'n dangos golygfeydd o gwmpas ystâd Penlle'r-gaer, yn arbennig y llynnoedd, y rhaeadr a'r coed. Ceir golygfeydd hefyd o Ddyffryn Dulas. Nid yw'r holl ffotograffau o'r maint mwy ac ymhlith ffotograffau llai ceir portread teimladwy o Thereza Mary Dillwyn gyda'i darpar ŵr Nevil Story-Maskelyne.

* Nodiadau ychwanegol gan Mr Richard Morris o Abertawe (dogfen PDF)