Albwm ffotograffau Susan Franklen gan Iwan Meical Jones.
Atgynhyrchir yr erthygl o gylchgrawn Cyfaill y Llyfrgell, Gwanwyn 2003
Arolwg
Ar ddydd Gwener 10 Mai 2002, cynigiwyd albwm bychan, yn mesur llai na 5" wrth 4", i'w werthu yn Christie's gan ddisgynyddion Margaret Story Maskelyne. Roedd yr albwm yn dwyn yr enw `Susan M Franklen', a llofnodwyd 17 o'r 43 delwedd a gynhwysai gan 'M.D. - Mary Dillwyn. Dangosodd yr enwau hyn a thestunau'r ffotograffau fod yr albwm i'w gysylltu'n agos â Morgannwg, gydag Abertawe, a chyda Penlle'r-gaer, yn ystod y 1850au cynnar. Gellid olrhain rhai o'r lluniau i albymau Abertawe eraill o'r cyfnod hwn, pan oedd y dref yn gartref i nifer o arloeswyr ffotograffiaeth. Sut bynnag, roedd yr albwm ei hun yn wahanol iawn i albymau eraill cylch ffotograffwyr Abertawe. Roedd yn dipyn llai ei faint ac roedd ei ddetholiad o ddelweddau yn anarferol, yn wahanol mewn ffordd anniffiniadwy ond pendant. Mae'r stori am sut y cafodd yr albwm ei brynu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn y pen draw yn cael ei hamlinellu mewn rhan arall o'r cyhoeddiad hwn. Nod y nodyn byr hwn yw esbonio pan y teimlwyd bod yr albwm yn un arbennig. Dylid pwysleisio mai nodyn rhagarweiniol yw hwn, wedi ei ysgrifennu heb fedru elwa ar ymchwil fanwl ar y delweddau unigol yn yr albwm sy'n angenrheidiol cyn tynnu casgliadau pendant am darddiad a dyddiad yr albwm.
Ffotograffiaeth yn Abertawe
Nid ar hap a damwain y cysylltir Abertawe mor agos â ffotograffiaeth gynnar. Yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y dref yn fagned i ddynion uchelgeisiol a deallus a welai ddyfodol neu ffortiwn iddynt eu hunain yn y diwydiannau newydd a yrrodd dyfiant y dref. Yr allwedd i ddatblygiad y diwydiant oedd Camlas Abertawe, a ddaeth â glo i lawr Cwm Tawe i'r porthladd. Creodd y ffynhonnell hon o ynni rhad amgylchiadau ffafriol i ddatblygiad diwydiannau megis smeltio copr. Roedd Lewis Weston Dillwyn, tad Mary Dillwyn, yn un o'r diwydianwyr a ymsefydlodd yn Abertawe, lle y rhedai'r Crochendy Cambrian. Daeth y dref yn ganolfan cymdeithas ddosbarthcanol y tu fewn i Gymru, ac mae Dr Prys Morgan wedi ei disgrifio fel y man lle y cyfarfu Merthyr â Dinbych y pysgod - man lle y cyfarfu ffyniant diwydiannol â chwaeth fonheddig pobl wâr. Daeth Abertawe yn ganolfan artistiaid ond roedd hefyd yn gartref i nifer o wyddonwyr nodedig, yr oedd eu gwybodaeth yn angenrheidiol i'r diwydiannau newydd. Roedd y cyfuniad hwn o gelf a gwyddoniaeth efallai yn amod cymdeithasol angenrheidiol ar gyfer dyfeisio ffotograffiaeth, a gyhoeddwyd i'r cyhoedd yn 1839 gan William Henry Fox Talbot. Roedd Talbot wedi treulio llawer o'i ieuenctid yng Nghastell Penrice ar Benrhyn Gwŷr gyda'i gefnderoedd Cymraeg, a gwyddys iddo gael bywyd deallusol Abertawe yn un bywiog a chyffrous.
Ar ôl cyhoeddi ei ddarganfyddiad, anfonodd Henry Talbot enghreifftiau o'i broses newydd i Penrice, ac ar 28 Chwefror 1839 sgrifennodd ei gyfnither Charlotte Traherne (née Talbot) i ddiolch iddo amdanynt:
I am charmed with the piece of hair [darlun ffotogenig] you sent, it is much too pretty for you to have it again. John Llewelyn has been making some paper according to your process and they have all been trying little scraps of hair and ribbon and succeeded very well this morning before breakfast ... Mr Calvert Jones is quite wild about it ...
Dyna oedd, mae'n debyg, diwrnod cyntaf ffotograffiaeth yng Nghymru, ac mae llythyr Charlotte Traherne yn crybwyll y ddau ddyn ifanc a ddaeth y ffotograffwyr cynnar Cymru fwyaf ymroddedig -John Dillwyn Llewelyn (mab Lewis Weston Dillwyn) a Calvert Richard Jones. Cydnabyddir y ddau ddyn heddiw fel arloeswyr mawr ffotograffiaeth. Mae gwaith teulu Dillwyn Llewelyn, yn arbennig, yn adnabyddus iawn ar sail yr albymau a gedwid gan y teulu, yr ydym yn cael oddi wrthynt olwg hynod fyw o fywyd y tu fewn i gylch teuluol goleuedig a breintiedig. Y byd a ddarlunnir yw'r un a fodolai y tu fewn i furiau'r stadau mawrion, neu y tu fewn i gonfensiynau cymdeithasol y cyfnod. Roedd John Dillwyn Llewelyn yn wyddonydd, ac y mae llawer o'i ffotograffauyn astudiaethau o natur; gellid disgrifio rhai fel esiamplau gwyddonol. Roedd Calvert Jones yn arlunydd cyn iddo ddod yn ffotograffydd, ac mae ei ffotograffau o longau a'i bortreadau o weision yn aml yn debyg i'r astudiaethau a wnaeth mewn dyfrlliw flynyddoedd yn gynharach, cyn bod ffotograffiaeth yn bodoli. Ymddengys yn rhyfedd i ni heddiw fod cyn lleied o ymdrech wedi'i wneud i gofnodi bywyd cyffredin. Sut bynnag, ychydig o'r ffotograffwyr cynharaf a wnaeth unrhyw ymdrech i ddogfennu bywydau'r bobl gyffredin. Er enghraifft, cyn y 1850au hwyr, prin bod unrhyw ddelweddau ffotograffig o weithfeydd mawr copr, o'r Crochendy Cambrian, neu o fywyd tref Abertawe.
Ffotograffau Mary Dillwyn
Roedd yn hysbys ers amser bod rhai o'r delweddau mwyaf deniadol ac agos-atoch yn albymau teulu Dillwyn Llewelyn wedi eu cymryd gan Mary Dillwyn, merch Lewis Weston Dillwyn a chwaer John Dillwyn Llewelyn. Ar gyfer llawer o'i lluniau rydym yn gwybod ei bod hi wedi defnyddio camera bychan, a oedd, gan ei fod yn ffurfio delwedd llai, ag angen llai o olau ac yn caniatáu llai o amser datguddio. Ar yr un adeg roedd ei brawd John Dillwyn Llewelyn, cemegydd medrus, yn datblygu'n llwyddiannus dechnegau ffotograffig newydd a oedd yn ei ganiatáu i gymryd `lluniau ebrwydd' a oedd hyd yn oed yn `rhewi' tonnau'r môr, gan ffurfio cyfnod parhaol o ennyd mewn amser. Lle'r oedd ffotograffwyr gwrywaidd yn tueddu i gymryd portreadau wedi eu gosod yn ofalus sydd â chryn raddau o ffurfioldeb, mae portreadau Mary Dillwyn yn fwy anffurfiol, digymell, ac agos-atoch. Roedd hi'n medru tynnu ffotograffau a oedd bron yn ebrwydd ac a ddangosai, am y tro cyntaf, blant yn gwenu. Medrai hyd yn oed dynnu ffotograffau o anifeiliaid anwes teuluol. Mae ei phortreadau yn dangos ei chyfeillion a'i theulu mewn ffordd ymlaciol, heb y ffurfioldeb neu'r ymatal sy'n ymddangos yn y rhan fwyaf o bortreadau'r cyfnod.Yn hyn o beth roedd hi'n amlwg yn ymestyn ar gonfensiynau cymdeithasol y cyfnod ac yn defnyddio ffotograffiaeth mewn ffordd naturiolaidd, sy'n gweddu'n dda i natur ffotograffiaeth ei hun.
Cynnwys yr Albwm
Fe roddodd ymddangosiad yr albwm bychan hwn mewn ocsiwn gyfle prin, yn wir cyfle unigryw i'r Llyfrgell gael casgliad o waith Mary Dillwyn, ffotograffydd benywaidd cynnar pwysig iawn. Yn ei phortreadau personol cawn ymateb menyw i ffotograffiaeth: mae'n ymateb sydd yn ddiymhongar a hefyd yn ddigamsyniol fenywaidd, ac i raddau heb ei gydnabod a heb ei brisio o'r herwydd. Mae'r albwm yn cynnwys tri phortread ar ddeg, deunaw astudiaeth bywyd-llonydd gyda blodau, chwe astudiaeth o adar, a phum golygfa y tu allan, gan gynnwys dyn eira. Roedd Lewis Weston Dillwyn yn fotanegydd o fri, ac mae ei ddyddiadur yn dangos bod ei blant yn gyfarwydd â blodau ac anifeiliaid. Mae yna le i ystyried goblygiad yr astudiaethau botanegol yn yr albwm yn ogystal â'r ffotograffau gogleisiol o adar egsotig.
Teulu Mary Dillwyn
Mae'r Llyfrgell yn ddiolchgar am wybodaeth werthfawr ynglyn â'r albwm a'r teulu sydd wedi cael ei darparu gan Mr Richard Morris, arbenigwr ar ffotograffiaeth gynnar sydd yn briod â disgynnydd i deulu Dillwyn Llewelyn. Roedd derbynnydd yr albwm, Susan Franklen, merch Richard Franklen ac Isabella Talbot o Penrice, yn anabl, ac er ei bod â diddordeb mawr mewn ffotograffiaeth, nid oedd yn medru gwneud llawer o waith ffotograffig ei hunan, mae'n debyg. Byddai Susan Franklen tua deunaw oed pan dderbyuodd yr albwm, a bwrw ei fod wedi ei lunio tua 1853; roedd Mary Dillwyn bron ugain mlynedd yn hyn. Roedd John, brawd Mary, wedi priodi Emma Talbot, chwaer i Isabella Franklen, mam Susan Franklen. Mae bron yn sicr fod yr albwm yn rhodd i Susan Franklen, ac er bod ei gynnwys yn adlewyrchu chwaeth a diddordebau merched ifainc Penlle'r-gaer, nid yw'n sicr bod yr holl ddelweddau wedi eu cymryd gan Mary Dillwyn, na'i fod wedi ei lunio ganddi hi. Erys nifer o gwestiynau o hyd ynghylch y delweddau a'u hawduriaeth, ond mae cynnwys yr albwm yn dangos nodwedd ddigamsyniol fenywaidd ac yn hyn, efallai, y mae ei hynodrwydd. Yng nghwrs sicrhau'r albwm, mae llawer o fanylion wedi dod i'r fei, ond erys eraill yn ansicr - er enghraifft, ni ellir pennu union ddyddiad llunio'r albwm nes bo rhagor o wybodaeth gymharol ar gael am y delweddau.
Mary Dillwyn ac oes Aur Ffotograffiaeth
Mae'r rhan fwyaf o luniau Mary Dillwyn yn dyddio o'r 1840au a'r 1850au, cyfnod mawr y caloteip a'r ffotograffydd amatur o dras fonheddig. Mae ei gwaith yn hynod oherwydd ei fod mor naturiolaidd, agos-atoch, ac i bob golwg yn ebrwydd. Prin bod unrhyw ffotograffydd cyfoes arall yn mynd â ni i gysylltiad mor agos â gwrthrychau eu portreadau. O edrych yn ôl, roedd y 1840au a'r 1850au yn oes aur ffotograffwyr amatur a oedd yn medru fforddio ymhél â'r ddyfais newydd, a phin, os erioed, y rhagorwyd at eu cyflawniad artistig yn y cyfrwng. Ar ôl ei phriodas â'r Parchedig Montague Earle Welby yn 1857, llaciodd ymrwymiad Mary i ffotograffiaeth, fel y gwnaeth yn achos llawer o ffotograffwyr blaenllaw eraill o `oes y caloteip'. Roedd ffotograffiaeth wedi dechrau ar gyfnod newydd - cyfnod y carte-de-visite a stiwdio'r ffotograffydd proffesiynol. Wrth i gynulleidfa ffotograffiaeth ehangu ac i'r farchnad dorfol ddatblygu, plymiodd ansawdd celfyddydol y ffotograffau.
Mae'r albwm bychan hwn, felly, yn eicon o oes aur ffotograffiaeth, ac mae'n eithriadol oherwydd ei fod yn cynnwys ymateb benywaidd i'r gelfyddyd newydd. Roedd Mary Dillwyn yn ferch agos i ganol digwyddiadau mawr Lloegr Oes Fictoria, yng nghanol y berw diwydiannol a deallusol a ffurfiai Abertawe'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Daeth darganfod ffotograffiaeth o'r cefndir yna, ac mae'r mynegiant celfyddydol a gyflawnwyd drwy ffotograffiaeth gan ferched ifainc Penlle'r-gaer yn haeddu cael ei gydnabod yn ehangach o lawer. Mae llwyddiant y Llyfrgell yn sicrhau'r albwm yn gam pwysig ymlaen wrtb ennill i Mary Dillwyn a'i chylch y gydnabyddiaeth y mae eu gwaith yn ei haeddu.