Calvert Richard Jones a daguerreoteip Castell Margam
(Testun arddangosfa gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2000)
Y Parchedig Calvert Richard Jones, Heathfield, Abertawe, 1802 - 1877
Ganed Calvert Richard Jones yn Verandah, Abertawe, ar 4ydd Rhagfyr 1802. Yr oedd ei dad a'i daid o'r un enw ag ef. Daeth y Calvert Richard Jones cyntaf i feddiant rhan o stad hynafol "Herbertiaid Abertawe" drwy ei briodas ag Elizabeth Allen, ar ôl i'r olaf o'r Herbertiaid farw yn 1740. Yr ail Calvert Richard Jones a gyflwynodd safle'r farchnad bresennol yn rhodd i dref Abertawe. Yr oedd ei fab hefyd yn gymwynaswr i'r dref ond y mae'n fwy adnabyddus bellach fel arloeswr ffotograffig â gweledigaeth artistig arbennig iawn.

Credir bod y darlun pensil hwn yn hunan-bortread o Calvert Richard Jones a wnaeth tua 1825 gan ddefnyddio "camera lucida Wollaston", dyfais a ddefnyddiai brism i alluogi'r arlunydd i weld yr olygfa o'i flaen tra'n dal i edrych i lawr ar y papur oddi tano. Trafferthion gydag un o'r peiriannau hyn yn ystod mis Hydref 1833 a yrrodd William Henry Fox Talbot i ddyfeisio'r broses ffotograffig positif-negatif cyntaf:
"One of the first days of the month of October 1833, I was amusing myself on the lovely shores of the Lake of Como, in Italy, taking sketches with Wollaston's Camera Lucida, or rather I should say, attempting to take them: but with the smallest possible amount of success. For when the eye was removed from the prism - in which all looked beautiful - I found that the faithless pencil had only left traces on the paper melancholy to behold.
"After various fruitless attempts, I laid aside the instrument and came to the conclusion, that its use required a previous knowledge of drawing, which unfortunately I did not possess.
"I then thought of trying again a method which I had tried many years before. This method was, to take a Camera Obscura, and to throw the image of the objects on a piece of transparent tracing paper laid on a pane of glass in the -focus of the instrument. On this paper the objects are distinctly seen ... And this led me to reflect on the inimitable beauty of the pictures of nature's painting which the glass lens of the Camera throws upon the paper in its focus -fairy pictures, creations of a moment, and destined as rapidly to fade away.
"It was during these thoughts that the idea occurred to me ... how charming it would be if it were possible to cause these natural images to imprint themselves durably, and remain fixed upon the paper!
"And why should it not be possible? I asked myself." O Henry Fox Talbot,
The Pencil of Nature, 1844
Tri Mathemategydd
Aeth y Calvert Jones ifanc i Goleg Eton ac oddi yno i Goleg Oriel, Rhydychen. Yno gydag ef yr oedd Christopher Rice Mansel Talbot o Ben-rhys, ger Abertawe, cefnder i William Henry Fox Talbot a ddyfeisiodd y broses ffotograffig positif-negatif. Yr oedd gan Calvert Jones a Christopher Talbot ddiddordeb mawr yn y môr a'i longau a bu'r ddau'n gyfeillion clos ar hyd eu hoes. Cafodd Calvert Jones a Christopher Talbot (a Henry Fox Talbot yn ogystal) raddau dosbarth cyntaf mewn mathemateg. Yn 1824 etifeddodd Christopher Talbot stadau enfawr Pen-rhys a Margam, a dechreuodd gynllunio tŷ newydd moethus ym Margam cyn iddo gyrraedd ei ddeg ar hugain. Hefyd prynodd long hwylio foethus, y gyntaf o gyfres. Bu Calvert Jones ar fwrdd y llong yn aml, a hwyliodd gyda Christopher Talbot i Fôr y Canoldir.
Yr oedd Christopher Talbot yn gyfyrder i Henry Fox Talbot ar ochr ei dad - yr un oedd hen-daid y ddau, John Ivory Talbot - ac yn gefnder iddo ar ochr ei fam: yr oedd Elizabeth a Mary Fox Strangeways yn chwiorydd. Wedi marwolaeth tad Henry Fox Talbot, ail-briododd ei fam, a threuliodd Henry cryn dipyn o'i ieuenctid (yn arbennig gwyliau ysgol) ym Mhen-rhys gyda'i fodryb Mary, ei merched a'i hunig fab, Christopher. Yr oedd Henry'n ofalus iawn o'i gefnder, tair blynedd yn iau nag ef ei hun, ac efallai oherwydd hynny nid oedd yn croesawu cyfaill Christopher, Calvert Jones. O Cowes yn 1836 ysgrifennodd yn ddirmygus "Kit [Christopher Talbot] is here in the Galatea [ei long ar y pryd] with his usual satellite Calvert Jones". Erbyn hynny yr oedd Fox Talbot wedi gwneud ei ddarganfyddiadau ffotograffig cyntaf. Yn
The Pencil of Nature y mae'n disgrifio sut, wrth dreulio hydref 1833 ar lannau Llyn Como, y trodd rhyw "fleeting philosophical visions" yn syniad pendant, a sut y bu iddo, yn 1834 a 1835, ddarganfod ffordd gemegol i gadw ar bapur yr hyn a alwa'n "nature's painting which the glass lens of the Camera throws upon the paper".
Daguerreotypes
Cadwodd Fox Talbot ei waith yn gyfrinachol tan 1839, pan gyhoeddodd Louis Jacques Mande Daguerre ei ddarganfyddiadau ef. Brysiodd Fox Talbot i roi manylion am ei waith ei hun ger bron y Royal Society ar 31 Ionawr 1839. Yr oedd proses Daguerre yn hollol wahanol i ddull positif-negatif Talbot, gan greu llun positif unigryw ar blât o gopr wedi'i ariannu, a chan ddefnyddio cemegau megis iodin a mercwri. Ffuriai lun manwl iawn a oedd yn cyfleu argraff werthfawr, hudolus bron, ar wyneb disglair y plât arian. Daeth y daguerreotype yn boblogaidd iawn ar unwaith, and ychydig iawn o lwyddiant cyhoeddus a gafodd proses cyntaf Fox Talbot, "photogenic drawing". Er hynny byddai datblygiadau pellach yn seiliedig ar broses Fox Talbot yn disodli'r daguerrotype yn llwyr o fewn ugain mlynedd.
Yng Nghymru bu cryn gyffro oherwydd darganfyddiadau Fox Talbot. Fis Chwefror 1839, pan oedd darluniau "photogenic" newydd gyrraedd Pen-rhys, ysgrifennodd ei gyfnither Charlotte ato yn dweud "John [Dillwyn] Llewelyn has been making some paper according to your process ... Mr Calvert Jones is quite wild about it". Gŵr Emma, yr ieuengaf o ferched Penrhys, oedd John Dillwyn Llewelyn. Daeth yntau yn ffotograffydd nodedig.
Calvert Jones
Erbyn 1839 yr oedd Calvert Jones yn ŵr priod ac i'w weld yn mwynhau bywyd braf gŵr bonheddig. Er ei fod yn offeiriad ordeiniedig, dim ond am gyfnod bu gofal plwyf arno. Yn 1829 fe'i gwnaed yn ficer y Rhath, Caerdydd, ac yn Rheithor Casllwchwr, ger Abertawe, ond trosglwyddwyd Casllwchwr i'w frawd Henry Wyndham Jones yn 1836, a darfu ei gysylltiad â'r Rhath erbyn 1839. Ymddengys ei fywyd yn un hamddenol a chyfforddus; yr oedd yn etifedd stad dda a gallai fforddio treulio'i ddyddiau yn ymddiddori mewn cerddoriaeth, arlunio a'r celfyddydau. Fel mathemategydd byddai ganddo rywfaint o ddiddordeb mewn pethau gwyddonol ond nid yw'n ymddangos ei fod wedi bwriadu defnyddio'i wybodaeth mewn ffordd ymarferol, ac nid yw ei benderfyniad i fynd yn offeiriad yn awgrymu diddordeb mewn busnes na diwydiant. Yr oedd yn dri deg chwech oed ac heb gynhyrchu fawr heblaw am nifer o lyfrau yn cynnwys yn bennaf ddarluniau o longau mewn porthladdoedd rhwng Abertawe a y Môr Canoldir. Ond ymddengys i ffotograffiaeth ei weddnewid yn llwyr. Nid yn unig yr aeth yn "wild about it" pan glywodd am y darganfyddiadau gyntaf, ond dros yr wyth mlynedd nesaf byddai'n gweithio'n galed a chyda dycnwch mawr i ymgyrraedd at berffeithrwydd ffotograffig, yn dechnegol ac yn gelfyddydol.
Castell Margam
Yn syth ar ôl clywed am waith arloesol Fox Talbot dechreuodd Calvert Jones ei waith arbrofol ei hunan, a gwnaeth drefniadau i gyfarfod â Talbot. Dysgodd broses y daguerreotype yn fuan iawn, er bod hwnnw'n broses llafurus a drud. Mae'r daguerreotype o Gastell Margam (yr unig daguerreotype gan Calvert Jones a oroesodd hyd y gwyddys) yn profi ei fod wedi meistrioli'r dechneg yn llwyr erbyn Mawrth 1841 ac yn medru creu llun o'r safon uchaf. Credir mai anrheg ydoedd oddi wrth y ffotograffydd i Christopher Talbot, adeiladydd Castell Margam. Y mae'n dangos y Castell cyn ei gwblhau'n llwyr, a chredir iddo gael ei gadw yn y Castell am flynyddoeddd lawer.
Calotypes
Erbyn 1841 yr oedd Fox Talbot wedi dyfeisio proses positif-negatif gwell, sef y "calotype", a oedd yn cynnwys y cam ychwanegol o ddatblygu'r llun yn gemegol, cam a oedd yn caniatáu amlygu'r llun am gyfnod byrrach ac yn gwneud y broses yn fwy ymarferol. Ar y dechrau methodd Calvert Jones a chael canlyniadau cyson (fel y rhan fwyaf o'r defnyddwyr cynnar) ac ysgrifennodd yn aml at Fox Talbot yn gofyn am arweiniad i ddatrys nifer o anawsterau trafferthus. Ond yr oedd Talbot yn gyndyn i ryddhau ei holl wybodaeth. Yn 1843 aeth Calvert Jones i Baris a chyfarfod â Hippolyte Bayard, a oedd wedi dyfeisio dull gwahanol o ffurfio llun positif ar bapur; disgrifiodd y broses i Talbot. Yn raddol, drwy ddefnyddio amynedd, dyfalbarhad a doethineb, perswadiodd Calvert Jones Fox Talbot i ymddiried ynddo. Yn 1845 aeth y ddau gyda'i gilydd i dynnu lluniau yng Nghaerefrog, Bryste a Dyfnaint, a dysgodd Jones holl gyfrinachau ffotograffig Talbot. Erbyn mis Rhagfyr 1845 yr oedd Jones wedi ymuno â Christopher Talbot ar Ynys Malta. Yr oedd gwraig Talbot yn marw, ac yr oedd ei gwr wedi mynd a hi I'r Ynys gan obeithio y byddai tywydd braf yno o les iddi. Bu Calvert Jones yn tynnu calotypes ar yr Ynys ac yn ddiweddarach yn 1846 yn yr Eidal, gan ddanfon negyddion yn ôl i Loegr i'w printio a'u gwerthu yn sefydliad ffotograffig Fox Talbot yn Reading.
Camp Artistig
Y calotypes a dynnwyd ar y daith hon ac yn ddiweddarach yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon yw lluniau enwocaf Calvert Jones. Cyfansoddodd ei luniau yn ofalus iawn, gyda chraffter llygad arlunydd profiadol. Ond yr oedd yn fodlon cymryd siawns wrth gyfansoddi llun ac arbrofodd yn helaeth â phosibiliadau'r camera, heb adael i unrhyw gonfensiynau ffotograffig ei lyffetheirio. Mae ei luniau gorau yn anturus, yn drawiadol ac yn gryf. Mae un beirniad amlwg yn barnu eu bod "among the finest and most imaginative images made in the nineteenth century ... asking questions pertaining to life and death, time and motion".
Erbyn 1847 Calvert Jones oedd cydweithiwr ffotograffig agosaf Fox Talbot. Ysgrifennodd Talbot yn wresog am Jones, ei "steady friend". Gwrandawodd ar ei gyngor ar faterion busnes a gwahoddodd ef i redeg ei fenter ffotograffig newydd, sef stiwdio yn Regent Street, Llundain. Gwrthododd Jones. Bu farw'i dad fis Ebrill 1847 gan ewyllysio'r stad i'w fab hynaf, ond gan roi cyfarwyddyd i'r ymddiriedolwyr roi cymunroddion gwerth £15,000. Felly bu'n rhaid i Jones yn awr, fe ymddengys, dalu fwy o sylw i fusnes y stad, ac yn arbennig i'r gwaith o godi'r swm mawr hwn o arian. Yn y 1850au byddai'n datblygu'r rhan o'r stad sydd yn awr yng nghanol dinas Abertawe. Yr oedd Christopher Talbot yntau'n treulio mwy o'i amser ym myd busnes, wedi marwolaeth ei wraig yn 1846. O hyn ymlaen byddai gan y ddau dipyn llai o amser ar gyfer ffotograffiaeth nac y bu yn y 1840au cynnar pan oedd ffotograffiaeth yn beth cwbl newydd. Er hynny, byddai Calvert Jones yn parhau i ymddiddori mewn ffotograffiaeth yn y 1850au ac wedi hynny, pan fyddai'r daguerrotype a'r calotype wedi hen ddiflannu.
Y mae'r paentiadau a'r darluniau a wnaeth yn y 1830au yn dangos bod Calvert Jones yn arlunydd medrus, yn arbennig mewn dyfrlliw. Mae ei ddarluniau gofalus yn dangos ymdeimlad cryf o liw a ffurf, a gofal mawr am gywirdeb perspectif "even if judged by the rules of Euclid". Yr oedd llygad yr arlunydd yn dilyn ffordd y mathemategydd o feddwl. Nid yw'n syndod bod dyn felly wedi ymateb mor frwdfrydig i gyfrwng newydd a oedd yn creu darlun gwyddonol berffaith, cynrychiolaeth gwbl gywir o natur. Yr oedd "nature's painting" yn berffeithrwydd llwyr, "equal to one of M.Angelo's drawings", "wonderfully perfect and beautiful". Yr oedd cefndir gwyddonol Jones hefyd yn gymorth iddo wrth ymgymryd â thechnegau ymarferol ffotograffineth, gwaith y bu mor ddygn wrtho. Eto nid oedd cynrychiolaeth gywir o natur yn nod ynddo'i hunan, and yn hytrach yn gyfrwng, yn ffordd o ymgyrraedd at ei wir amcan - creu gwaith celf. Byddai'r wybodaeth dechnegol a'r medrau ymarferol yn ddiystyr heb yr "artistical knowledge and tact". Yr oedd Calvert Jones yn artist cyn dysgu bod yn ffotograffydd, ac ystyriai ffotograffiaeth yn gyfrwng ar gyfer mynegiant celfyddydol. Ei gamp ef oedd cyfleu ei weledigaeth artistig drwy gyfrwng ffotograffiaeth. Anwybyddwyd ei waith am ganrif ar ôl ei farw. Dim ond yn awr y dechreuir cydnabod ei athrylith.