Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Digwyddiad Cymraeg
Digwyddiad Saesneg
Digwyddiad Dwyieithog
Trosi ar gael

| « | Gorffennaf - 2009 | » | ||||
| Sul | Llu | Maw | Mer | Iau | Gwe | Sad |
|---|---|---|---|---|---|---|
01 | 02 | 03 | 04 | |||
| 05 | 06 | 07 | 08 | 09 | 10 | 11 |
| 12 | 13 | 14 | 15 | 16 | 17 | 18 |
| 19 | 20 | 21 | 22 | 23 | 24 | 25 |
| 26 | 27 | 28 | 29 | 30 | 31 | |

‘Family History and the Media’ - Dr Nick Barratt
Dydd Mercher 29 Gorffennaf 19:30 pm
Yr ymchwilydd, awdur a’r cyflwynydd teledu yn siarad am ei waith ar raglenni megis Who Do You Think You Are? a Hidden House Histories.
Mynediad trwy docyn £5.00

Llu, 06 Gor 09 11:00:00
Taith Dywys wythnosol o'r adeilad gan gynnwys cyflwyniad i gasgliadau a hanes y Llyfrgell. Rhyw awr yw hyd y daith.

Sad, 11 Gor 09 14:00:00
Darlith Cyfeillion LlGC: "Sullivan Cymru : gyrfa'r cerddor o Aberystwyth, R.S. Hughes 1855 – 93" - Dr Rhidian Griffiths Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyfeillion y Llyfrgell am 1.00 p.m. i'w gynnal yng Nghanolfan Fethodistaidd St Paul, Morfa Mawr, Aberystwyth. Dilynir gan y ddarlith am 2.00 p.m.

Mer, 15 Gor 09 14:00:00
Pictiwrs P'nawn: The Cruel Sea (Frend, 1953, 126m) Ffilm antur am griw HMS Compass Rose ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd. Un o berfformiadau cynnar Stanley Baker.

Mer, 29 Gor 09 19:30:00
Noson yng nghwmni Dr Nick Barratt,yr archestydd, ymchwilydd,awdur a chyflwynydd teledu poblogaidd. O ddiddordeb i bawb sy'n ymddiddori mewn ymchwil hanes teulu.
29 Mehefin - 21 Awst 2009
Mae 2009 yn nodi trichanmlwyddiant marwolaeth y gwyddonydd a'r ieithegydd Edward Lhuyd. I goffáu hyn mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn cynnal arddangosfa i gydfynd â chynhadledd rhyngwladol ar Lhuyd yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd.
29 Mehefin - 9 Hydref 2009
Gweithiau'r gorffennol a'r presennol gan yr artist poblogaidd hwn sy'n byw yn ardal Aberystwyth.
29 Mehefin - 21 Awst 2009
Arddangosfa o amrywiol weithiau gan aelodau'r Gymdeithas ar y cyd â dathliadau pen-blwydd y Gymdeithas yn 50.
11 Mai 2009 - Tachwedd 2009
Gan mlynedd yn ôl, yn Ionawr 1909, daeth casgliad llawysgrifau Peniarth yn eiddo i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. I ddathlu canmlwyddiant dyfodiad y llawysgrifau pwysig hyn i Aberystwyth, cyflwynir yma ddetholiad o rai trysorau o’r casgliad.
21 Mawrth 2009 - 14 Awst 2009
Arddangosfa o ffotograffau o gasgliad y Llyfrgell yn bwrw golwg yn ôl ar fywyd y ffotograffydd Percy Benzine Abery (1877-1948).
14 Mawrth 2009 - 5 Mawrth 2010
Cam wrth Gam - Olrhain eich hynafiaid yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Arddangosfa yn rhoi sylw i'r adnoddau hanes teuluol cyfoethog sydd ar gael yn y Llyfrgell.
3 Ionawr - 5 Rhagfyr 2009
Detholiad o archifau, ffotograffau a pheintiadau yn ymwneud â dau gawr llenyddol o Gymru, sef Kate Roberts a Dylan Thomas.