Rhestrir yma rai o'r derbynion a ychwanegwyd yn ddiweddar at gasgliadau di-brint y Llyfrgell. Detholiad yn unig o'r eitemau a brynwyd neu a ddaeth atom yn rhodd yw hwn. Rhoddwyd neu brynwyd yr eitemau hyn er mwyn cyfoethogi ac ehangu'r casgliad yn unol â pholisi casglu'r Llyfrgell.
RHYBUDD: Ni cheir cofnodion catalog am rai o'r eitemau hyn ar hyn o bryd.
Darluniau
- Hunan-bortread bychan, olew ar fwrdd wedi ei fframio gan Kyffin Williams, c. 1950au.
- Portread mawr olew ar gynfas o Mrs Elizabeth Poole-Hughes gan Christopher Williams.
- Darlun mawr olew yn dwyn y teitl The Finding of Taliesin gan H. Clarence Whaite.
- Darlun cyfrwng cymysg wedi ei fframio yn dwyn y teitl Watching the Demolition / Gwylio’r Dymchweliad gan Claudia Williams, 2007.
- Chwe phrint wedi eu cynhyrchu o linocuts a gymynroddwyd i Wasg Gregynog gan y diweddar Syr Kyffin Williams (1918-2006).
- Darn o gelf o waith Eleri Mills, sef cerfiad ac acwatint wedi ei liwio â rhaw yn dwyn y teitl Y Ddeilen Hon / This Leaf.
- Darlun olew ar fwrdd, wedi ei fframio, yn dwyn y teitl A shaft of light, that day, on the train, gan Alistair Crawford, 2004-5.
- Darlun gouache ar bapur wedi ei fframio gan Ray Howard-Jones o’i gardd.
- Portread, pensil ar fwrdd wedi ei fframio o ‘Dorelia’ gan Augustus John, c. 1900.
- Pump darn celf o waith Pip [Phyllis] Knight-Jones, yn dwyn y teitlau Team Effort; Junction, Garret, Dinorwig Incline and Defiance. Upper Dinorwig.
- Portread, olew ar gopr, o Hugh Derfel Hughes (1816-90) gan William Roos (1808-78).
- Darlun olew ar gynfas, wedi ei fframio, yn dwyn y teitl Eryri o’r Dwyrain / Snowdonia from the East gan Alison Bradley.
- Pedwar darlun mewn ffrâm gan Malcolm Hughes yn dangos adfeilion adeiladau cyn boddi pentref Capel Celyn a Chwm Tryweryn ger y Bala, 1965.
- Portread o Mervyn Levy gan Alfred Janes, 1931, a hunan-bortread, 1953.
- Darlun olew ar gynfas gan Julius Caesar Ibbetson (1759-1817), o John Smith, y telynor dall o Gonwy gyda chantorion penillion, wedi ei lofnodi a’i ddyddio 1793, a chyda ffrâm semi-Carlo addurniedig.
Llawysgrifau
- Argraffiad cyntaf o Lexicon Islandicum, 1683, gyda nodiadau drwyddo gan William Wotton (1666-1727), yn cymharu iaith Gwlad yr Iâ, Saesneg ac Eingl-Sacsoneg. Ni wyddus ble oedd y llyfr tan arwerthiant Llyfrgell Macclesfield, lle cafodd ei adael yn fwy na thebyg gan Moses Williams (1685-1742), gyda phwy y bu Wotton yn gweithio ar argraffiad o Leges Wallicoe.
- Nodiadau llawysgrif ar gyfer y gerdd i'w dad yn dwyn y teitl 'Elegy' gan Dylan Thomas (1914-53).
- Casgliad o lythyron oddi wrth Augustus John at Mavis de Vere Cole, 1934-58, ac at Tristan de Vere Cole, 1944-61. Hefyd casgliad o lythyron oddi wrth Dorelia John at Mavis de Vere Cole, 1951-61 ac at Tristan de Vere Cole, 1951-68, a llythyron eraill yn ymwneud ag Augustus John.
- Cyfrol yn ymwneud â chyfraniad Syr William Williams ('Speaker Williams', 1634-1700), i'r senedd ym 1680-81, sy'n cynnwys nodiadau yn ei lawysgrifen.
- Llythyr wedi ei lofnodi 'D. Lloyd George' at Syr Sidney Robinson, o'r Tŷ Cyffredin, 14 Mehefin 1898.
- Llawysgrif yn cynnwys barddoniaeth a phapurau eraill gan Peggy Eileen Whistler ('Margiad Evans', 1909-58).
- Naw llythyr, 1934-42, at John Petts (1914-91) oddi wrth ei wraig gyntaf, Brenda Chamberlain (1912-71).
- Llythyron at John Emyr oddi wrth Kate Roberts, J. E. Caerwyn Williams, T. H. Parry-Williams, Lewis Valentine, Raymond Williams, Caerdydd, John Rowlands, W. Rhys Nicholas, D. Tecwyn Lloyd, R. Tudur Jones, Bedwyr Lewis Jones, J. Gwyn Griffiths, D. R. Griffith a Gwynfor Evans.
Ffotograffau
- Dau ffotograff du a gwyn cynnar iawn gan Roger Fenton: ‘Glyn Lledr from Pwll y Pant’ a ‘Rocks in the Lledr near Pont y Lledr’.
- Ffotograff du a gwyn wedi ei fframio o Roald Dahl.
- Deg ffotograff printiau halen wedi eu tynnu gan John Dillwyn Llewelyn, c. 1850au.
- Casgliad o sleidiau Peter Hope Jones a ddefnyddiwyd yn ei gyhoeddiad Beauty and Spirit of Bardsey, 2008, ynghyd â chopi o’r gwaith.
- Ffotograff wedi ei fframio o’r dramodydd a nofelydd, Caradoc Evans (1878-1945).
- Ffotograff du a gwyn o hunan bortread gan Angus McBean, wedi ei gynhyrchu ganddo fel cerdyn Nadolig, 1954.
Archifau
- Papurau'r gyfansoddwraig Hilary Tann, gan gynnwys cerddoriaeth printiedig: 'Songs of the Cotton Grass' (ar gyfer soprano ac oboe); 'Paradise' (ar gyfer côr cymysg), Mehefin 2008; 'Shakkei' (ar gyfer oboe a cherddorfa fechan); 'Children of Grace' (ar gyfer côr cymysg ac organ); 'Psalm 86 (Incline Thine Ear)' (ar gyfer côr cymysg, trwmped ac organ); 'In the First, Spinning Place' (drafft terfynol, Mai 2009); a 'High Rock Spring' (ar gyfer cerddorfa ieuenctid).
- Casgliad mawr o bapurau'r arlunydd Alfred Janes (1911-99), gan gynnwys dogfennau a chatalogau yn ymwneud ag arddangosfeydd; llythyron a nodiadau personol; delweddau o waith, llyfrau ac arysgrifau, a llyfrau ar gelf.
- Casgliad o lythyron a phapurau eraill yn ymwneud â sefydlu Merched y Wawr ym 1967 a blynyddoedd cynnar y mudiad.
- Llythyron at Trevor Williams yn ymwneud â Caradoc Evans (1878-1945), sef pwnc ei ymchwil ar gyfer ei ddoethuriaeth. Roedd Caradoc Evans yn awdur storion byrion, nofelydd a dramodydd, gyda My People ei waith mwyaf adnabyddus. Mae awduron y llythyron yn cynnwys Pauline Block, morwyn yn ei gartref yn Rhydlewis, a'i wraig Marguerite, hithau'n awdures ei hun, yn sgrifennu dan y ffugenw Countess Barcynska neu Oliver Sandys.
- Casgliad o bapurau Alun Llywelyn-Williams, c. 1965-79, yn ymwneud â'i gyfnod fel sefydlydd ac aelod o fwrdd HTV Cymru, gan gynnwys gohebiaeth a chofnodion cyfarfodydd.
- Casgliad o ddrafftiau nofelau'r awdur Niall Griffiths, gan gynnwys Grit; Sheepshagger; Kelly and Victor; Stump; Wreckage; a Runt, a drafftiau a nodiadau ar gyfer ei weithiau ffeithiol Real Liverpool a Real Aberystwyth, ac effemera.
- Papurau'r sefydliad Clymblaid Genedlaethol Menywod Cymru, gan gynnwys cofnodion cyfarfodydd y bwrdd rheoli, 2002-10, adroddiadau, papurau cyfarfodydd blynyddol, 2003-10, ffotograffau, cryno ddisgiau a deunyddiau eraill yn ymwneud â chydraddoldeb i fenywod, hawliau dyneiddiol i fenywod, a chyfleoedd cydraddol i fenywod Cymru, o'r cyfnod y dechreuodd y sefydliad hyd ei diwedd 30 Mehefin 2010.
Mapiau
- Casgliad o fapiau rhynglanw, sef gwaith wedi ei ymgymryd gan y Grŵp Gwyddoniaeth Dyfroedd Ir a Morol, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, rhwng 1996 a 2005.
- Map wedi ei argraffu ym 1598 o fap Cambria of Wallia, gan Humphrey Llwyd (1527-68), a dau fap wedi eu hargraffu gan J. Heywood, y naill o Ogledd Cymru a'r llall o Dde Cymru.
Deunydd electronig
- Dwy gryno-ddisg yn cynnwys manylion claddedigaethau, 1718-2006, ym mynwent Eglwys Newydd yr Hafod.
- Cryno-ddisg yn cynnwys adysgrifau o ddau lyfr nodiadau (Cyfrolau 10 ac 11) o blith casgliad Thomas Hughes, un o awduron i gyhoeddiad 1895 History of the Welsh in Minnesota, Foreston and Lime Springs, Iowa, a The Rhydfuddai Pioneers.
- Cryno-ddisg yn cynnwys delwedd ffotograffig o ran o brosiect ffotograffig H. M. Stanley gan Craig B. Howe, sef dadorchuddiad cerfddelw Stanley, Mawrth 2011.