Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cael ei chydnabod fel y brif ganolfan ar gyfer ymchwilio i achau'r Cymry. Mae croeso ichi ddefnyddio'r ffynonellau a'r adnoddau sydd yma i hel hanes eich teulu chi.
Dysgwch fwy am gasgliadau'r Llyfrgell. Mae gan bob un ohonynt rywbeth i'w gynnig i'r hanesydd teulu. Cadwch lygad ar y wefan hon wrth i’r wybodaeth mae’n ei chynnig am y casgliadau gynyddu'n gyflym.
Paratowch yn dda ar gyfer eich ymweliad er mwyn manteisio i'r eithaf ar bob munud a gewch chi yma. Os na allwch ymweld â'r Llyfrgell eich hun, mae rhestr o enwau ymchwilwyr annibynnol ar gael a all weithio ar eich rhan.
Mae’r Llyfrgell yn cynnig cymorthfeydd i ddarllenwyr sy’n cyflwyno gwybodaeth ac arweiniad ar sut i fynd ati i ymchwilio i mewn i Hanes Teulu. Cysylltwch â ni i archebu cymhorthfa.
Gallwch chwilio am ddeunydd yn ein casgliadau trwy’r catalog arlein. Rhaid cael tocyn darllen dilys i archebu deunydd yn ein Hystafelloedd Darllen.