Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn cynnig rhychwant eang o ddarpariaethau i ateb eich gofynion ar gyfer cyfarfodydd a chynadleddau.
Gallwn hefyd gynnig teithiau arbennig o amgylch yr adeilad.
Cyn danfon eich ffurflen archebu ystafell yn ôl dylid cysylltu ag Angharad Medi Jones ar 01970 632 801 neu gwas-ymwelwyr@llgc.org.uk i sicrhau bod y dyddiad a’r ystafell ar gael.
Gellir llogi adnoddau technegol o’r Llyfrgell ar gyfer yr ystafelloedd a ganlyn:
Am fwy o wybodaeth gweler ein tudalen Gwasanaethau Cynhadledd
Darllenwch yr amodau a thelerau yn ofalus, os gwelwch yn dda, cyn i chi archebu bwyd ac ystafelloedd.
Cysylltwch ag Angharad Medi Jones ar 01970 632 801 neu gwas-ymwelwyr@llgc.org.uk
O 1 Mehefin 2009 codir ffi fechan ar ymwelwyr a darllenwyr am barcio yn y Llyfrgell Genedlaethol.
| Cerbyd | Pris |
|---|---|
| Ceir/beiciau modur | £1 (hyd at 4 awr) |
| £2 (dros 4 awr - ddiwrnod llawn (18:15)) | |
| Cerbydau tywys/carafannau | £2.50 (hyd at 4 awr) |
| £5.00 (dros 4 awr - ddiwrnod llawn (18:15)) | |
| Bws/bysiau mini | Am ddim. Rhaid rhoi gwybod o flaen llaw a defnyddio'’r bylchau penodedig. Cysylltwch â'r Porthorion i drefnu hyn 01970 632 848 neu prifporthor@llgc.org.uk |
Mae’r ffioedd yma’n cynnwys parcio yn unai’r blychau gwyn neu goch.
Eithrir gyrwyr sy’n arddangos bathodyn anabl cywir rhag talu.
Gellir defnyddio derbynebau parcio ar gyfer talu am un pryniant yn y Llyfrgell, yn y Cafe, Siop neu wasanaethau ffotogopïo ar yr un dydd yn unig. Ni ad-delir arian yn erbyn derbynebau parcio.