Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Support Us

Support Us

Cefnogwch Ni


Diolch am gefnogi Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ein huchelgais yw sicrhau bod pawb sydd â diddordeb mewn gwybod mwy am hanes a diwylliant Cymru yn cael mynediad i'r wybodaeth honno, unrhyw bryd ac ym mhle bynnag y maent yn digwydd bod yn y byd. Bydd eich cefnogaeth yn ein cynorthwyo i wireddu ein huchelgais.

Statws Cyfreithiol

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gorff a ymgorfforwyd gan Siartr Frenhinol, ac mae hefyd yn elusen (rhif cofrestredig: 525775) ac yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru (CNLC).

Gwneud Cyfraniad

Os hoffech wneud cyfraniad trwy'r post, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen rhoi cyfraniad.

 

Gallwch hefyd wneud rhodd arlein, fe gewch eich cyfeirio at wefan taliad diogel.

Rhoddi’n Rheolaidd

Defnyddiwch ein ffurflen rhoddi’n rheolaidd i gyfrannu’n rheolaidd i’r Llyfrgell.

 

Ceir gwybodaeth bellach ynglŷn â gwneud cyfraniad neu roddi’n rheolaidd, ar ein tudalen Rhoddi'n Rheolaidd neu cysylltwch â'r:

 
Swyddog Codi Arian: Digwyddiadau a Chyfranwyr

+ 44 (0) 1970 632 938

rhoddion@llgc.org.uk

Ymunwch â’r Cynllun Noddwyr

Ceir gwybodaeth bellach am ymuno â'n cynllun Noddwyr Penodau ar ein tudalen Penodau neu cysylltwch â'r:

 
Swyddog Codi Arian: Digwyddiadau a Chyfranwyr

+ 44 (0) 1970 632 938

penodau@llgc.org.uk

Gadael Rhodd yn eich Ewyllys

Ceir rhagor o wybodaeth am adael rhodd i'r Llyfrgell yn eich ewyllys ar y  dudalen Cymynroddion neu trwy gysylltu â'r:

 

Rheolwr Cymynroddion

+ 44 (0) 1970 632 511

cefnogwch-ni@llgc.org.uk

 

Nid oes rhaid talu treth etifeddiaeth ar gyfer unrhyw rodd a wneir i'r Llyfrgell yn eich ewyllys.

Cyfrannu Eich Ad-daliad Treth

Os hoffech gyfrannu eich ad-daliad treth i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, cliciwch yma os gwelwch yn dda.

Polisi Ad-dalu

Rydym yn gweithredu polisi ad-dalu. Os fyddwch yn newid eich meddwl am unrhyw reswm ynglŷn â chyfrannu tuag at LlGC, a fyddech cystal â’n hysbysu ar rhoddion@llgc.org.uk neu ffonio 01970 632 938 o fewn 28 diwrnod er mwyn i ni ad-dalu eich cyfrif.

 

Bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth lawn am eich cyfraniad ynghyd â dangos copi digidol o’r dderbynneb a e-bostiwyd atoch pan wnaethoch eich cyfraniad.

Ymholiadau Cyffredinol

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:

 

+ 44 (0) 1970 632 938

cefnogwch-ni@llgc.org.uk

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 18-04-2012