Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mer, 03 Gor 13 13:15:00
Yn y cyflwyniad hwn gan Yr Athro Geraint H Jenkins dethlir clod un o’r cymeriadau mwyaf lliwgar a difyr yn hanes Cymru. Thomas Jones oedd almanaciwr cyntaf Cymru a'r cyntaf hefyd i sefydlu gwasg Gymraeg. Bu farw dri chan mlynedd yn ôl ym 1713 a dyma gyfle i ailgloriannu ei gyfraniad. Mynediad am ddim trwy docyn
Sad, 13 Gor 13 13:00:00
Dr Maredudd ap Huw yn trafod Llawysgrif Boston a’i harwyddocâd, Gwyneth Davies yn siarad am wirfoddoli yn y Llyfrgell, ac yna John Dilwyn Williams, Cadeirydd y Gymdeithas, yn sôn am hanes Ystad Madryn yn Llyn.

Mer, 17 Gor 13 13:15:00
Yn 1962 cyhoeddwyd yr Oxford Book of Welsh Verse, ond yn 1963 y cafwyd yr ymateb llymaf iddo. Yn y cyflwyniad bydd yr Athro Derec Llwyd Morgan yn egluro pwy a berswadiodd Gwasg Clarendon i'w gyhoeddi, beth oedd egwyddorion y golygydd wrth ddewis y farddoniaeth, pwy a’i cynorthwyodd, a sut ymateb a fu iddo. Ceir golwg newydd yma ar berthynas Thomas Parry â nifer o Gymry blaenllaw’r dydd, T. Ifor Rees, Saunders Lewis a Gwenallt yn eu plith. Mynediad am ddim trwy docyn
Iau, 25 Gor 13 14:15:00
Bydd Archig Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn gwahodd ymwelwyr i ddod ar daith arbennig y tu ôl i'r llenni ar ddydd Iau olaf pob mis tra pery'r Arddangosfa 'Dot Dot Dash'
Gwe, 26 Gor 13 13:15:00
Daw’r arlunydd cyfoes Iwan Bala i’n tywys drwy ei arddangosfa ddiweddaraf yn y Llyfrgell, Nodiadau-maes. Cynhelir yr arddangosfa ar y cyd rhwng Iwan a’r bardd Menna Elfyn. *** Digwyddiad dwyieithog. *** Mynediad am ddim drwy docyn

Mer, 31 Gor 13 13:15:00
Yn ei chyfrol ddiweddaraf, mae Francesca Rhydderch yn olrhain hanes ei hen fodryb, Menna Wilders, a gadwyd yn gaeth fel carcharor rhyfel yn Hong Kong yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mynediad am ddim trwy docyn