Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mer, 07 Mai 08 10:41:00
Gwasg Gregynog (The Gregynog Press)
Gwasg Gregynog oedd un o'r prif weisg preifat ym Mudiad y Gweisg Preifat ym Mhrydain yn y 1900au. Yn y deunaw mlynedd y bu mewn bodolaeth, cynhyrchodd y wasg 42 o deitlau gan lynu wrth safonau uchel o ran dylunio, darlunio a rhwymo na welir yn aml. Ers cael ei hail-sefydlu ym 1978 dan yr enw Cymraeg Gwasg Gregynog, erys ar flaen y gad ymhlith gweisg cain cyfoes, a'i gwasgnod yw'r unig un sy'n parhau o'r dyddiau pan oedd Mudiad y Gweisg Preifat ym Mhrydain yn ei anterth. Cofrestrwyd y wasg fel elusen yn 2002, ac mae'n parhau i ymfalchïo yn ei safonau uchel wrth ddefnyddio sgiliau llythrenwasg traddodiadol i gynhyrchu llyfrau hardd. Mae'r crefftwyr sy'n eu creu a'r tanysgrifwyr sy'n eu gwerthfawrogi yn gwybod na fydd unrhyw lyfr Gregynog yn mynd yn hen-ffasiwn: maent yn diogelu'r sgiliau hyn ar gyfer cenedlaethau o lyfrbryfed yn y dyfodol.
Ers 80 mlynedd, mae'r Wasg yng Ngregynog wedi bod yn rhan bwysig ac unigryw o dreftadaeth ddiwylliannol a llenyddol Cymru. Yn y 1930au bu'n gyfrifol am argraffu'r neges radio oddi wrth blant Cymru i holl blant y byd; yn ddiweddarach rhoddwyd comisiwn i'r wasg i gynhyrchu'r ddogfen symbolig a lofnodwyd gan y Frenhines i sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol, yn ogystal â chyfrol ategol yn amlinellu'r Offerynnau Statudol sy'n ymdrin â gweithrediad y corff hwnnw. Erbyn hyn, un o lyfrau Gregynog yw'r dewis cyntaf fel rhodd i'w gyflwyno i amryw o bobl bwysig.
Roedd y diweddar Syr Kyffin Williams, yn gefnogwr brwd i'r Wasg ar hyd ei oes, a bu mor garedig â gwneud darluniau ar gyfer pedwar o gyhoeddiadau Gwasg Gregynog. Comisiynwyd artistiaid eraill yn cynnwys David Gentleman, Jonah Jones, Sarah van Niekerk, Hilary Paynter, John Piper, Ieuan Rees a Colin See-Paynton – awdur a darlunydd y llyfr diweddaraf, Of a Feather, a fydd yn ymddangos ganol 2008.
Designer Bookbinders
Designer Bookbinders yw un o brif gymdeithasau rhwymo llyfrau'r byd. Ers ei sefydlu mae wedi bod yn esiampl i lawer o gymdeithasau tebyg mewn gwledydd eraill, ac mae gan ei Chymrodorion enw da yn rhyngwladol am eu dylanwad blaengar ar gelfyddyd, dylunio a thechneg rhwymo llyfrau â llaw.
Sefydlwyd y Gymdeithas ym 1951 fel Urdd y Rhwymwyr Llyfrau Cyfoes, cyn mabwysiadu cyfundrefn fwy strwythuredig a chyfansoddiad ffurfiol ym 1968 o dan yr enw presennol, Designer Bookbinders. Mae gan y Gymdeithas ddau brif amcan sef cadw a hyrwyddo’r grefft o rwymo a dylunio llyfrau cain drwy hybu, ymarfer a chynnal safonau ynghyd â hybu diddordeb y cyhoedd ym mhob agwedd o’r grefft.
I hyrwyddo'r amcanion hyn cynhelir arddangosfeydd, darlithoedd cyhoeddus a dosbarthiadau meistr, cyhoeddir llyfrau, cyfnodolion a chatalogau perthnasol, a threfnir cystadleuaeth flynyddol i rwymwyr llyfrau. Yn 2009 bydd y Gymdeithas hefyd yn cynnal Cystadleuaeth Ryngwladol am y tro cyntaf yn Llyfrgell Bodley, Rhydychen.
O’r pedwar categori aelodaeth o fewn y Gymdeithas, y Cymrodorion yw’r aelodau sy'n fwyaf uchel eu parch. Ystyrir fod y Cymrodyr wedi cyrraedd y safonau uchaf ac yn rhydd i arddangos gwaith. Categori arall o fewn y Gymdeithas yw’r Trwyddedogion sydd â’r gallu i ddod yn Gymrodorion o fewn cyfnod o bum mlynedd, ac sydd hefyd yn gallu arddangos eu gwaith ochr yn ochr â'r Cymrodyr.
Mae Designer Bookbinders wedi arddangos gwaith yr aelodau'n rheolaidd ym Mhrydain a nifer o wledydd tramor, yn ddiweddar yn Siapan a Gwlad Belg, ond anaml iawn y neilltuir arddangosfa ar gyfer un llyfr yn unig. Mae'r rhwymwyr yn grŵp amrywiol iawn sy'n gweithio mewn rhannau gwahanol o'r wlad, mewn ffyrdd tra gwahanol ac sy'n amlygu amrywiaeth eang o ddiddordebau a dylanwadau. Y llyfr, wrth gwrs, yw man cychwyn y cyfan ond er hyn y gobaith yw y bydd y rhwymiadau gorffenedig mor wahanol i'w gilydd â'r rhwymwyr eu hunain – yr hyn sy'n gyffredin rhyngddynt yw'r testun a'r darluniau, a'r ffaith eu bod oll yn aelodau o Designer Bookbinders.
Rydym yn hynod o ddiolchgar i bawb a fu'n gweithio ar y prosiect hwn, ac am roi'r cyfle i'r rhwymwyr arddangos eu gwaith mewn sawl man cyfarfod yng Nghymru a Lloegr.