Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gwe, 01 Aws 08 09:10:00
Yn 1908 sefydlwyd Comisiynau Brenhinol ar gyfer yr Alban, Cymru a Lloegr, yn y drefn honno, i fod yn gyfrifol am greu ‘rhestrau’ o henebion teilwng i’w nodi. O’r adeg hynny, aeth Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC) ati i arolygu a chofnodi safleoedd priodol gan gyhoeddi ei ganfyddiadau mewn rhestrau sirol. Yn anochel, arweiniodd gwaith o’r fath at gasgliad sylweddol o gofnodion, yn eu plith nodiadau arolygu, ffotograffau a lluniadau, ond er i’r rheiny gael eu diogelu’n wreiddiol mewn setiau o ffeiliau gweithio, nid oedd gan y Comisiwn Brenhinol wasanaeth pwrpasol ar y cychwyn i gadw cofnodion na gwybodaeth.
Fodd bynnag, yn 1963 sefydlwyd Cofnodion Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) yn ffurfiol yn gangen cofnodion Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a throsglwyddwyd iddo, mewn egwyddor, adrannau o’r hen Gofnod Adeiladau Cenedlaethol (yr NBR) a oedd yn ymwneud â Chymru - un o’r casgliadau sy’n cael lle amlwg yn yr arddangosfa hon. Er gwaetha’r sefydlu swyddogol damcaniaethol hwnnw, nid aeth CHCC ati tan ddiwedd y 1970au i gyflogi staff a arbenigai ar gofnodion ac i gymryd y rhan fwyaf o gofnodion Cymreig yr NBR i’w feddiant. Ar ddechrau’r 1980au, ymgymerodd y Comisiwn Brenhinol hefyd â dyletswyddau Cangen Archeolegol yr Arolwg Ordnans gan ychwanegu rhagor o gofnodion o bwys at y casgliad. Parhaodd CHCC i gronni’r deunydd a gynhyrchwyd gan ymchwilwyr proffesiynol y Comisiwn Brenhinol a hynny trwy waith cyhoeddi a chofnodi safleoedd a oedd dan fygythiad ar frys, ac aeth ati hefyd i chwilio am gasgliadau perthnasol o amrywiol ffynonellau allanol gan gynnwys cyrff proffesiynol a masnachol, sefydliadau academaidd ac unigolion preifat.
Wrth i’r casgliadau dyfu, mae CHCC wedi gwella’r trefnu a’r storio archifol ar ei ddaliadau ac ar y cyfleusterau sy’n caniatáu i’r cyhoedd eu gweld. Mae CHCC bellach wedi’i sefydlu’n gadarn yn brif gasgliad cenedlaethol o gofnodion pensaernïol ac archeolegol Cymru. Ar hyn o bryd, mae’r archif yn llenwi mwy na 350 metr sgwâr o ofod llawr mewn storfeydd ac mae’n cynnwys mwy na 3 miliwn o dudalennau o destun, mwy na 1¼ miliwn o ffotograffau, tua 67,000 o luniadau, 17,000 o fapiau, a mwy na 25,000 o gofnodion digidol. Mae’r Archifdy Gwladol yn cydnabod bod CHCC yn fan adneuo swyddogol i gofnodion cyhoeddus, ac mae gan y Cofnod storfeydd archifol arbenigol â rheolaeth lawn dros yr amgylchedd ynddynt. Daw ystod eang o ddefnyddwyr i weld y daliadau helaeth hyn. Yn eu plith bydd archeolegwyr a haneswyr proffesiynol a phobl sy’n ymwneud â rheoli datblygiadau, cynllunio a diogelu treftadaeth, ynghyd â myfyrwyr - o’r ysgol gynradd i’r brifysgol - ac aelodau o’r cyhoedd sy’n ymddiddori yn y maes.
Dolenni Allanol
Gwefan Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru