Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mer, 03 Med 08 10:23:00
Blaenau Ffestiniog yw un o’r llefydd mwyaf hynod ym Mhrydain - tref sydd yn wir wedi ei hadeiladu ar lechi. Am dros ddwy ganrif cloddiwyd llechi o’r mynyddoedd o gwmpas Blaenau i doi tai'r byd. Mae tipiau gwastraff anferth yn dominyddu’r dref; adeiladau diwydiannol, peiriannau a deunyddiau wedi cael eu gadael i sefyll a dihoeni, a hyn i gyd yng nghyd-destun mawredd tirlun gogledd Cymru.
Pan luniwyd ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri cafodd rhan fechan, gyda Blaenau yn ei chanol, ei heithrio. Aeth Jeremy Moore ati i archwilio’r llecyn hwn yn 2006, ac mae’n gosod gweithgarwch dynol yno yn y tirwedd garw ac aruchel. Mae’r ffotograffau yn fan cyfarfod rhwng y traddodiadau dogfennol a thirlunio, ac yn cyfleu’r presenoldeb dynol mewn modd ystyrlon.
Tra bod yn rhaid gobeithio na fydd rhai agweddau ar yr ardal byth yn newid, mae natur ddogfennol y ffotograffau eisoes yn werthfawr. Cafodd adeiladau unigryw eu dymchwel ers 2006, ac mae ffyrdd newydd i’r gogledd o’r dre wedi newid yr ardal honno am byth.
Yn mynd gyda’r ffotograffau mae barddoniaeth gan Yr Athro Gwyn Thomas, oedd yn Fardd Cenedlaethol Cymru yn ddiweddar. Mae’r cyfan yn cael ei gynnwys yn y llyfr Blaenau Ffestiniog.
Jeremy Moore, sy’n byw yn Aberystwyth, yw un o brif ffotograffwyr tirlun Cymru. Mae ei arddangosfeydd blaenorol yn cynnwys Glyndwr’s Place (2004), Heart of the Country (2003-04), ac After the Wildwood (1990-92).