Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?

Llefydd eraill, Lleisiau eraill

Maw, 07 Hyd 08 09:37:00


Bu MacAskill yn profi, ymchwilio a chwilota trwy gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r arddangosfa hon yn cyfleu ei darganfyddiadau ac yn dangos gweithiau celf sy’n ffurfio portread personol o’r Llyfrgell trwy adlewyrchu ei hymateb i’r preswyliad ddigwyddodd rhwng Ionawr a Hydref 2008.

Bydd yr arddangosfa yn cynnwys ffotograffiaeth a gweithiau celf aml-gyfrwng yn ogystal â chywaith ffilm. Cynlluniwyd yr arddangosfa i ddefnyddio adeilad y Llyfrgell yn llawn. Bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys gwaith a gynhyrchwyd yn ystod y preswyliad gan ddisgyblion pedair ysgol ar draws Cymru: Nantgaredig, Tan y Castell (Harlech), Llanidloes a Bro Ddyfi (Machynlleth). Dan arweiniad Blue MacAskill cafodd y disgyblion gyfle i ehangu eu dealltwriaeth o’r hyn sydd gan y Llyfrgell i gynnig iddyn nhw a’u cymunedau. Crëwyd y gweithiau celf o ganlyniad i gyfres o ymweliadau â’r Llyfrgell a nifer o weithdai a gynhaliwyd yn yr ysgolion dan arweiniad MacAskill.

Noddir y cynllun a’r arddangosfa gan SAFLE

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 11-10-2010