Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?

Awduron Cymru

Maw, 02 Rha 08 12:04:00

3 January - 5 December 2009

Dylan Thomas

Dylan Thomas (27 Hydref 1914 - 9 Tachwedd 1953) yw bardd Eingl-Gymreig enwocaf Cymru. Dywedir fod yr awdur a’r perfformiwr wedi cyffwrdd â phobl gyda'i lais cyfoethog a’i gyflwyniadau meistrolgar.

Ganwyd a magwyd Dylan yn 5 Rhodfa Cwmdonkin, ardal gefnog o ddinas Abertawe. Yn fuan wedi cyhoeddi ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, 18 poems, yn 1934, symudodd i Lundain er mwyn chwilio am enwogrwydd a gwneud ei ffortiwn, ond yno daeth alcoholiaeth a dyledion yn rhan amlwg o’i fywyd.

Cyfarfu Dylan â’i ddarpar briod, Caitlin MacNamara mewn tŷ tafarn yn ardal y West End o Lundain. Dyma gychwyn perthynas stormus ac ymgartrefodd y ddau yn Nhalacharn yn Sir Gaerfyrddin. Bu farw’r cawr llenyddol ar Dachwedd 9fed 1953 mewn ysbyty yn Efrog Newydd pan oedd yn 39 mlwydd oed.


Kate Roberts

Ganwyd yr awdures ddisglair, Kate Roberts ar 13eg o Chwefror 1891 ym mhentref Rhosgadfan yn Sir Gaernarfon. Yn ferch i chwarelwr, chwaraeodd ei chefndir a bywyd y pentref ran bwysig yn ei llenyddiaeth.

Priododd Kate â’r argraffydd, Morris T Williams, yn 1928, ac ymgartrefodd y ddau yn Ninbych gan brynu Gwasg Gee, cyhoeddwyr y papur newydd wythnosol, Y Faner. Bu farw ei gŵr ym 1946, ond parhaodd Kate i redeg y wasg am ddeg mlynedd ar ei phen ei hun gan gyfrannu’n gyson i golofnau’r Faner.

Mae ei gwaith yn adnabyddus am ei hiaith gyfoethog, a pharhaodd i ysgrifennu hyd at ei marwolaeth ar y 14eg o Ebrill, 1985 yn 94 oed.

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 11-10-2010