Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?

Derbynion Diweddar

Maw, 10 Chw 09 10:27:00

28 Chwefror 2009 - 27 Mawrth 2009

Ceir cyfle yma i weld rhai o'r derbynion a ychwanegwyd yn ddiweddar at gasgliadau di-brint y Llyfrgell Genedlaethol.


Dyma rai o'r eitemau i'w gweld yn yr arddangosfa:

Gweithiau gan arlunwyr megis Richard Wilson (1713-82), Paul Sandby (1731-1809), Peter Edwards (1955-), Kyffin Williams (1918-2006) ffotograffau o Joe Calzaghe (1972-) llythryon oddi wrth Richard Burton (1925-84) at ei gyfaill ysgol Dennis Burgess (1926-80) llawysgrif gan Helen Thomas (1877-1967), gwraig y bardd Edward Thomas (1878-1917)  papurau o gasgliad Winifred Coombe Tennant (‘Mam o Nedd’, 1874-1956)

Detholiad yn unig o'r eitemau a brynwyd neu a gyflwynwyd yn rhodd yw’r rhain. Rhoddwyd neu prynwyd yr eitemau hyn er mwyn datblygu ac ehangu'r casgliad yn unol â Pholisi Datblygu Casgliadau’r Llyfrgell. Dyma grynodeb byr o’r polisi presennol:

Mae’r Llyfrgell yn casglu gyda golwg ar anghenion mynediad defnyddwyr y presennol a’r dyfodol gan anelu at lunio casgliad o bwysigrwydd cenedlaethol. Tra bod y Llyfrgell yn ceisio bod yn gynhwysfawr yn ei chasgliadau, ni all gasglu popeth - mae’n rhaid iddi ddewis yn ddethol. Cyfeirir casgliadau o ddiddordeb lleol yn unig at lyfrgelloedd, archifdai ac amgueddfeydd addas. Derbynnir defnyddiau mewn nifer o wahanol ffurfiau, ond ceisir osgoi derbyn arteffactau 3D, ac eithrio penddelwau portread ac eitemau eithriadol eraill.

Wrth dderbyn defnyddiau, trwy bryniad neu rodd, ceisia’r Llyfrgell adlewyrchu, mor wrthrychol ag sydd bosibl, bob agwedd o Gymru’r gorffennol a’r presennol, heb gynrychioli unrhyw safbwyntiau neilltuol. Mae’r broses o dderbyn defnyddiau yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys y nawdd sydd ar gael yn y cymhorthdal pwrcasu casgliadau, ac mae ystyriaethau cadwedigaeth, storio a chatalogio yn dylanwadu arni hefyd.  

Er gwaetha’r ffaith fod y Llyfrgell yn derbyn grant pwrcasu blynyddol oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae’r Llyfrgell yn parhau i fanteisio ar gefnogaeth cymwynaswyr, er mwyn cyfoethogi ei chasgliadau trwy roddion a chymynroddion.

Am ragor o fanylion cysyllter â Dr Paul Joyner, Pennaeth Uned Derbyn a Rhoddion ar +44 (0) 1970 632 823, neu paul.joyner@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 11-10-2010