Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Maw, 16 Meh 09 14:24:00
29 Mehefin - 21 Awst 2009
Credir i Edward Lhuyd gael ei eni yn 1660 yn Loppington, swydd Amwythig, ac fe’i fagwyd gan ei dad, Edward Lloyd, yn Llanforda, Croesoswallt. Cymeriad lliwgar oedd Edward Lloyd a bortreadwyd fel sgweier afradlon, piwis yn ceisio osgoi mynd yn fethdalwr drwy fenthyciadau a nifer o fentrau masnachol. Roedd, serch hynny, yn arddwriaethydd gwybodus ac fe gyflogai arddwr proffesiynol. Ei fam oedd Bridget Pryse o Lan-ffraid, sef cangen o deulu Prysiaid Gogerddan, Ceredigion. Ni phriododd ei rieni ond roedd y ddau deulu yn cydnabod y bachgen.
Mae’n debyg iddo gael ei addysg yn Ysgol Ramadeg Croesoswallt, a’i hyfforddiant botanegol cynnar gan arddwr ei dad, Edward Morgan, oedd yn arddwr profiadol ac uchel ei barch. Aeth Lhuyd i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1682 ac o hynny ymlaen ei gymdeithion agosaf fyddai cymuned y brifysgol. Cafodd anogaeth gan Robert Plot, Ceidwad Amgueddfa Ashmole ac athro cemeg, gan ei olynnu fel Ceidwad yr Amgueddfa yn 1691. Tua 1688 mabwysiadodd y ffurf Gymraeg ar ei gyfenw a ysgrifennai fel arfer yn Lhwyd, serch hynny ar dudalen deitl Glossography, defnyddiodd Lhuyd.
Datblygodd Lhuyd y casgliadau o ffosiliau, cregyn a phlanhigion yno yn sylweddol. Yn ystod 1693–4 gweithiodd ar ddisgrifiadau diwygiedig o holl siroedd Cymru ar gyfer argraffiad Saesneg newydd Edmund Gibson o Britannia Camden ac ysbrydolodd hyn ef i fynd ati i gynllunio cyfrol uchelgeisiol yn olrhain hanes pobl a byd natur Cymru, sef Archaeologia Britannica. Y bwriad oedd nid yn unig astudio byd natur Cymru ond hefyd, ac yn bennaf, rhoi sylw i hanes, ieithoedd a diwylliannau ymsefydlwyr cyntaf Prydain, a gynrychiolid gan bobloedd ‘Celtaidd’ Prydain, Iwerddon a Llydaw. Arweiniodd y prosiect at daith ymchwil estynedig o 1697 hyd at 1701.
Yn ystod ei daith, cyhoeddodd Lhuyd ei astudiaeth o ffosiliau Prydain ac roedd wedi gorffen ei gyfrol gyntaf o Archaeologia Britannica erbyn 1707. Roedd gweinyddiaeth yr Amgueddfa yn parhau yn gyfrifoldeb iddo ond parhaodd i weithio ar y cyfrolau nesaf. Serch hynny dirywiodd ei iechyd a bu farw yn yr Amgueddfa ar 30 Mehefin 1709.
Mae'r arddangosfa hon yn cydfynd â chynhadledd rhyngwladol ar Edward Llhuyd yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd o'r 30 Mehefin - 3 Gorffennaf 2009.