Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?

Y Gorffennol, Y Presennol a'r Dyfodol: 50 Mlynedd o Beintiadau Dyfrlliw yng Nghymru

Mer, 03 Meh 09 08:52:00

29 Mehefin - 21 Awst 2009

Sefydlwyd y Gymdeithas yn 1959 er mwyn hyrwyddo’r cyfrwng dyfrlliw gan artistiaid oedd yn byw ac/neu’n gweithio yng Nghymru, ac fe gyflawnir hyn yn bennaf trwy gynnal arddangosfeydd cyson a hanfodol o waith ei haelodau yng Nghymru. Serch hynny, erbyn hyn mae’r cyfrwng dyfrlliw yn cynnwys y deunyddiau dŵr-gynhwysol a’r technolegau newydd a niferus hynny sydd ar gael i’r artist fel bod y cyfrwng dyfrlliw traddodiadol yn gallu sefyll ochr yn ochr â chyfryngau newydd megis cyfryngau acrylig a chyfryngau cymysg yn eu harddangosfeydd.

Mae’r Gymdeithas yn cynnal arddangosfeydd ddwywaith y flwyddyn ym mhrif orielau Cymru a thu hwnt, gyda’r aelodau hefyd yn cynnal arddangosfeydd unigol ledled y DU. Mae cynnyrch aelodau’r Gymdeithas yn amrywio’n fawr, o’r traddodiadol i’r cyfoes a thu hwnt, ac mae’n cwmpasu sawl gwahanol arddull a methodoleg.  Mae’r Gymdeithas wedi cyfrannu llawer o weithiau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn ogystal ag i gasgliadau cyhoeddus a phwysig eraill.

Ar hyn o bryd mae gan y Gymdeithas tua 40 o aelodau a rheini’n arlunwyr proffesiynol sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Ceir mynediad i’r Gymdeithas trwy broses dewis sy’n golygu cyflwyno 6 paentiad newydd i’w hystyried gan bwyllgor bychan o aelodau penodedig. Trwy wneud hyn mae’r Gymdeithas yn cynnal safonau uchel o waith yn ogystal â denu doniau newydd i’w rhengoedd.  Mae eu cyfansoddiad hefyd yn caniatáu iddynt wahodd artistiaid a gydnabyddir yn genedlaethol i’r Gymdeithas. 

Yn 2007 anrhydeddwyd y Gymdeithas pan gytunodd Tywysog Cymru i fod yn noddwr iddi ac yntau ei hunan wedi arddangos gyda’r Gymdeithas ar sawl achlysur yn y gorffennol.  

Mae'r arddangosfa hon yn dathlu 50fed pen-blwydd y Gymdeithas trwy ddangos enghreifftiau o waith aelodau’r gorffennol a’r presennol. Mae dyfodol y Gymdeithas yn nwylo’r genhedlaeth iau; felly o dan arweiniad y Gymdeithas, mae disgyblion Ysgol Gynradd Comins Coch wedi cynhyrchu arddangosfa o waith, a gellir ei gweld yn ein hystafell Addysg ar y llawr gwaelod.

Ceir rhagor o wybodaeth ac enghreifftiau o waith yr aelodau ar wefan Cymdeithas Dyfrlliw Cymru. I nodi ei 50fed pen-blwydd yn 2009 mae’r Gymdeithas wedi cyhoeddi llyfryn dathliadol sydd ar gael yn siop y Llyfrgell.

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 11-10-2010