Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mer, 03 Meh 09 09:08:00
29 Mehefin - 9 Hydref 2009
Ganed Alistair Crawford yn 1945 yn Fraserburgh, Aberdeenshire, cyn mynychu Ysgol Gelf Glasgow a dod yn Ddarlithydd yng ngofal Dylunio Tecstilau ym Mhrifysgol Leeds (1968–71). Yn dilyn hyn, cymerodd swydd fel Uwch-ddarlithydd Dylunio Graffig ym Mholytechnig Coventry (1971–73), cyn ennill swydd fel Darlithydd mewn Celfyddyd Graffig ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1974.
Yn y cyfnod yma, dechreuodd Alistair gyhoeddi ar hanes celf ac yn 1990 penodwyd ef fel yr Athro Celf cyntaf yng Nghymru. Yn 1994, ar ei anogaeth ef ac o dan ei arweiniad, symudodd yr Adran Gelf gan ddod yn Ysgol Gelf newydd, fel yr adnabyddir heddiw. Fel curadur, a Cheidwad Casgliadau’r Coleg, datblygodd y defnydd o’r casgliadau ar gyfer addysgu ac ymchwil, gan sefydlu Oriel, Amgueddfa ac Archif yr Ysgol Gelf yn ogystal.
Fel artist, mae Alistair wedi arddangos yn rhyngwladol fel arlunydd, yn wneuthurwr print, ac yn ffotograffydd, gan gyfrannu i fwy na 280 o arddangosfeydd gan gynnwys 50 o rai unigol. Mae wedi ei gynrychioli mewn mwy na 60 o gasgliadau cyhoeddus a chorfforaethol ym Mhrydain, yr Eidal ac UDA. Yn 1985, enillodd Alistair y Fedal Aur am Gelfyddyd Gair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ac mae wedi ennill sawl gwobr ac anrhydedd gan gynnwys cael ei wahodd yn Academydd gwadd yr Academi Frenhinol Gymreig a Chymrawd Anrhydeddus Cymdeithas Frenhinol Peintwyr a Gwneuthurwyr Print.
Fel hanesydd celf, mae Alistair wedi cyfrannu i fwy na 140 o gyhoeddiadau ac wedi curadu mewn sawl arddangosfa deithiol fawr o ffotograffiaeth a ddangoswyd ym Mhrydain, Iwerddon, yr Eidal, y Swistir, Awstria ac UDA. Mae Alistair wedi cyhoeddi sawl llyfr am artistiaid a ffotograffwyr gan gynnwys John Thomas, Will Roberts, Kyffin Williams, Mario Giacomelli, Elio Ciol a Robert Macpherson. Yn ddiweddar mae hefyd wedi dod yn adnabyddus fel storïwr o fri, yn arbennig yn sgil ei berfformiad o’r gyfres o straeon hunanfywgraffyddol, Brief Exposure.
Yn yr arddangosfa hon, mae Alistair Crawford yn arddangos ei ddarluniau a’i beintiadau mwyaf diweddar gan ddangos y parhad yn ei ymrwymiad i Spirit of Place fel y profai yn ei fywyd yng Nghymru a’i deithiau tramor. Wrth osod gweithiau newydd mewn cyd-destun gwahanol a gredwyd dros 40 mlynedd o ymarfer celf, mae’n cyfuno amrywiaeth eang o wahanol syniadau, themâu a dulliau er mwyn creu siwrne emosiynol ac ysbrydol a gyflwynwyd mewn 5 arddangosfa arbennig: Nostalgia, Pictures for a Small Room, Made from Wales, North by North West a Alterswerk.