Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mer, 19 Aws 09 14:52:00
11 Medi – 24 Rhagfyr 2009
Ken Elias yw un o’r artistiaid cyfoes blaenaf sy’n byw ac yn gweithio yn Ne Cymru. Yn ystod y 40 mlynedd diwethaf, mae wedi cynhyrchu casgliad trawiadol o beintiadau acrylig ar gynfas ac ar bapur, yn ogystal â ffotogyfosodiadau, printiau a chyfryngau cymysg.
Fe’i ganed yng Nglyn-nedd tua diwedd yr Ail Ryfel Byd, ac mae’n cynrychioli cenhedlaeth newydd o artistiaid, o dras dosbarth gweithiol, y ffurfiwyd eu plentyndod yn y Pumdegau ac a fynychodd ysgolion celf yn y Chwedegau tanbaid. Mae’n beintiwr sydd, tra erys ei wreiddiau’n ddwfn yn niwylliant gweledol De Cymru, a’r Cymoedd yn arbennig, bob amser wedi ymateb a rhoi mynegiant i’r byd ehangach. Cynyddir y cymhlethdod hwn gan ei brofiadau cynnar o’r sinema sydd, ynghyd â’i hoffter o gelf a barddoniaeth, yn hydreiddio ei ddelweddau trawiadol.
Mae Ken Elias: Arddangosfa Adolygol yn cwmpasu holl yrfa Elias fel artist o’r 1960au hyd heddiw. Mae’n arddangosfa deithiol o bwys ac mae’r curaduron, Ceri Thomas a Ken Elias, wedi ei rhannu’n 5 adran gronolegol:
Blynyddoedd yn Fyfyriwr: 1963 – 69Ffotogyfosodiadau a Phrintiau: 1970 – 79Dychwelyd at Beintio: 1984 – 91Mynd Adref: 1995 – 99Rhaniadau Tenau: 1999 – 2009
Mae Ken Elias wedi arddangos ei waith yn eang yng Nghymru ers y 1970au, mewn arddangosfeydd unigolion ac arddangosfeydd grŵp. Mae ei waith wedi ei arddangos mewn rhannau eraill o’r DU ac yn Ewrop hefyd ac mae wedi ei gynrychioli ym mhrif gasgliadau celf Cymru, yn ogystal ag mewn llawer o gasgliadau preifat.
Mae’r arddangosfa hon yn digwydd ar yr un pryd â chyhoeddi monograff yn ymwneud â’r artist, Ken Elias: Thin Partitions (Pen-y-bont ar Ogwr: Seren 2009), golygwyd gan Ceri Thomas. Mae’r llyfr yn cynnwys rhagair gan un o’i gyfoeswyr o’r Cymoedd, Dai Smith a aned yn Nhonypandy, a chasgliad newydd sbon o draethodau o waith Hugh Adams, David Briers, Jon Gower, Anne Price-Owen a Ceri Thomas.