Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Llu, 29 Tac 10 00:00:00
11 Rhagfyr 2010 - 26 Tachwedd 2011
Islwyn Ffowc Elis
Ganwyd Islwyn Ffowc Elis yn nhŷ ei fodryb yn Acton, ger Wrecsam yn 1924, ond fe’i magwyd yn fab fferm yng Nglynceiriog. Wedi iddo dderbyn addysg uwchradd yn Llangollen aeth i Brifysgol Bangor, ac yna, yn unol â dymuniadau ei dad, derbyniodd hyfforddiant i fod yn weinidog yng Ngholegau Diwinyddol Aberystwyth a’r Bala. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu’n wrthwynebwr cydwybodol ar sail heddychiaeth Gristnogol.
Cwblhaodd Islwyn ei astudiaethau bugeiliol yn y Bala, ble y cyfarfu â’i ddarpar wraig, Eirlys Owen. Wedi iddo gael ei ordeinio’n weinidog yn 1950, symudodd i Ynys Môn. Ymddiswyddodd yn 1956 i ganolbwyntio ar ei waith llenyddol. Ef oedd y cyntaf i geisio ennill ei fara menyn fel llenor Cymraeg proffesiynol.
Yr un brwdfrydedd dros y Gymru Gymraeg a oedd yn llywio ei gynnyrch llenyddol ac a ysgogai ei waith gwleidyddol dros Blaid Cymru. Bu’n ymgeisydd seneddol yn Sir Drefaldwyn yn etholiadau cyffredinol 1959 ac 1964 ac mewn isetholiad yn 1962.
Fel nofelydd, arbrofodd Islwyn gyda ffurfiau amrywiol o ysgrifennu. Cyflwynodd arddulliau anghyfarwydd i gynulleidfaoedd o siaradwyr Cymraeg gan ddarparu rhyddiaith ddarllenadwy a sefyllfaoedd cyfoes a phoblogaidd i’r darllenwyr. Gweithiodd yn ddiwyd i sicrhau bod y nofel yn un o’r prif arddulliau llenyddol yng Nghymru.
Yn 1999, enillodd ei nofel Cysgod y Cryman (1953) wobr Llyfr y Ganrif gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Denodd y nofel, sy’n ymdrin â’r frwydr rhwng cyfalafiaeth a chomiwnyddiaeth, filoedd o ddarllenwyr newydd.
Gillian Clarke
Gillian Clarke yw un o feirdd amlycaf y Gymru gyfoes. Mae ei cherddi wedi derbyn cymeradwyaeth gwresog ar draws y byd, ond mae hi hefyd wedi creu argraff fel athrawes ysbrydoledig, golygydd yr Anglo-Welsh Review rhwng 1975 a 1984, a sylfaenydd a Llywydd Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.
Ganwyd Gillian yng Nghaerdydd yn 1937 ac fe’i magwyd yng Nghaerdydd a Phenarth, er iddi dreulio cyfnod yn Sir Benfro yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Er bod ei rhieni yn Gymry Cymraeg, fe’i magwyd yn siarad Saesneg yn unig, a dysgodd Gymraeg pan oedd yn oedolyn. Astudiodd Saesneg ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd, ac wedi iddi raddio treuliodd ddwy flynedd yn gweithio i’r BBC yn Llundain.
Yna, dychwelodd i Gaerdydd, priododd a magodd tri o blant. Bu’n dysgu Saesneg yng Ngholeg Mordwyo Reardon-Smith ac yna bu’n darlithio yn hanes celf yng Ngholeg Celf a Dylunio Casnewydd rhwng 1975 a 1984. Ynghanol yr 1980au symudodd i Geredigion gyda’i hail ŵr a threuliodd rai blynyddoedd yn diwtor ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Morgannwg. Cafodd ei dewis yn Fardd Cenedlaethol Cymru yn 2008.
Mae Gillian wedi cynhyrchu casgliadau di-ri o farddoniaeth i oedolion a phlant, yn ogystal â chomisiynau dramatig ac erthyglau ar gyfer amryw o gyhoeddiadau. Mae hi’n llenor Eingl-Gymreig; caiff ei cherddi eu hysgrifennu drwy gyfrwng y Saesneg ond maent yn dangos cysylltiad emosiynol gydag iaith a diwylliant Cymru. Mae hygyrchedd, y ddynoliaeth ac empathi tuag at Gymru a’i chwedloniaeth yn nodweddiadol yn ei gwaith.
Ymunwch â'n rhestr bostio yn rhad ac am ddim i dderbyn gwybodaeth am ein rhaglen arddangosfeydd, ebostiwch post@llgc.org.uk neu cofrestrwch ar-lein i dderbyn ein egylchlythyr rhad ac am ddim.