Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Llu, 15 Chw 10 09:14:00
1 Chwefror - 19 Mehefin 2010
Ceir dros 200,000 o bortreadau o fewn casgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn pontio canrifoedd o hanes, celfyddyd, bywgraffiad ac enwogrwydd. Yn wir, mae ganddi draddodiad o gasglu portreadau o Gymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Daw portreadau mewn sawl ffurf - peintiadau, ffotograffau, cerfluniau, engrafiadau, brasluniau yn ogystal â ffurfiau amrywiol o gynrychiolaeth artistig o berson, lle mae’r wyneb a mynegiant yn hanfodol bwysig.
Mae amrywiaeth y casgliad yn drawiadol, gydag amrediad o weithiau yn deillio o draddodiad celfyddydol brodorol Gymreig William Roos a Hugh Hughes; detholiad o hunan bortreadau a gweithiau rhai o’r prif artistiaid portread modern fel Syr Kyffin Williams, Will Roberts a David Griffiths, pob un ohonynt wedi chwarae rhan i gadw traddodiad portreadaeth yn fyw yng Nghymru.
Mae’r arddangosfa yn cynnwys portreadau o ddynion a merched adnabyddus a wnaeth gyfraniad arwyddocaol i fywyd yng Nghymru.
Mae’r arddangosfa yn cynnwys gweithiau celf mewn ffrâm, penddelweddau a ffotograffau, wedi ei rhannu’n nifer o themâu, gan gynnwys cerddoriaeth, adloniant, chwaraeon, gwleidyddiaeth, a’r celfyddydau. Nid rhestr derfynol o enwogion Cymru yw’r arddangosfa hon, ond cyfle i amlygu’r cyfoeth a’r amrywiaeth sydd yng nghasgliad y Llyfrgell.
Ers derbyn arian gan gronfa’r Foyle Foundation a’r Garfield Weston Foundation, aethpwyd ati i ddigido rhan o’r archif bortreadau. O ganlyniad, bydd eitemau i’w gweld ar ein gwefan o fis Mawrth 2010 ymlaen.
Dolenni
Mae delweddau'r agoriad swyddogol i'w gweld ar dudalen y Llyfrgell ar Facebook.