Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mer, 24 Chw 10 10:20:00
1 Mawrth - 4 Mehefin 2010
Ganwyd Denys Short yn Nyfnaint ym 1927 a bu’n astudio yng Ngholeg Goldsmiths yn Llundain lle cwrddodd â’i wraig Eirian, artist tecstilau o Abergwaun. Ym 1985 symudodd y ddau o Lundain a daeth Dinas Cross yn gartref parhaol iddynt.
Ar hyd y blynyddoedd mae Denys wedi arddangos mewn nifer o arddangosfeydd cymysg ac unigol mewn lleoliadau megis yr Academi Frenhinol ag Oriel y Serpentine. Am flynyddoedd lawer bu’n gweithio ar baentiadau o gymoedd glo De Cymru. Enillodd y fedal aur am gelfyddyd gain yn Eisteddfod 1958 ac ymhen hir a hwyr yn 2005 cafodd ei dderbyn i Orsedd y Beirdd fel ‘Denys o’r Dinas’.
Mae e’n fwyaf enwog am ei waith amgylcheddol 3-dimensiwn, ac ym 1986, derbyniodd grant gan Gyngor y Celfyddydau i greu parc cerflunwaith ger ei gartref yn Dinas Cross. Yn ogystal, mae wedi gweithio ar gomisiynau i’r Ymddiriedolaeth Coetiroedd, Datblygiad Bae Caerdydd, Gŵyl Erddi Glyn Ebwy a Melin Tregwynt.
Y tro diwethaf iddo arddangos yn y Llyfrgell Genedlaethol oedd ym 1997, arddangosfa ôl-syllol o baentiadau a lluniadau o’r cymoedd glo, o’r 1950au i’r 1970au.
Yn anad dim, arddangosfa yw hon o baentiadau a grëwyd yn ystod y 2½ flynedd ddiwethaf ers i’r artist ailgydio mewn paent. Mae dylanwad y patrymau ailadroddol a’r siapiau geometrig cryf a welir mewn cwiltiau Cymreig ac Americanaidd yn amlwg ym mhaentiadau a chreadigaethau 3-dimensiwn Denys.
Ym mis Awst 2009 cafodd wahoddiad i arddangos y gwaith newydd hwn yn yr Ŵyl Gwiltiau yn y Ganolfan Arddangosfa Genedlaethol, Birmingham.
'I have loved quilts since I took the photographs for my wife's books on quilting in the 70s and get enormous satisfaction looking at them. In 2008, tiring of the problems inherent in making and transporting sculpture, I decided after decades, to go back to painting.
I wanted to see if I could do something in paint that was in essence quilt-like. The idea was not completely new as I made a coal miners 'quilt' picture “Swan Song”, in the 70s when I was painting the S-Wales valleys. In sculpture I had been working with combinations of squares and other simple building blocks, growing complicated forms. Moving back into paint has allowed me to look at the variations that come with changes in size, colour and spacing on flat surfaces.'
Digwyddiadau
Sgwrs orielDydd Iau 20 Mai 2010 13:15
Mynediad am ddim
Dolenni
Mae delweddau o'r agoriad swyddogol i'w gweld ar dudalen facebook y Llyfrgell.