Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Llu, 28 Meh 10 09:26:00
10 Gorffennaf - 11 Medi 2010
“…the ground beneath my feet and the sky above my head
and all that happens to be in between.” Joan Baker
Cafodd yr arddangosfa hon ei chreu a’i theithio gan Brifysgol Morgannwg er mwyn nodi rhoi statws amgueddfa ardystiedig lawn i’r Amgueddfa Casgliad Celf yn y brifysgol.
Mae Joan Baker yn byw yng Nghaerdydd, lle y ganwyd hi yn Rhagfyr 1922 a chafodd ei hyfforddi yn y ddinas gan Evan Charlton (1904-84) a Ceri Richards (1903-71) yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd ei chydfyfyrwyr yno yn cynnwys Glenys Cour (g 1924) a Bert Isaac (1923-2006) ac roedd hi’n gwbl gyfarwydd â jyglo dyletswyddau peryglus gwyladwriaeth tân yn yr awyr agored gyda’i hastudiaethau celf cwbl gyfareddol. Ers pan oedd hi’n un ar bymtheg oed roedd hi wedi gwybod ei bod hi eisiau bod naill ai yn beintiwr a oedd yn garddio neu yn arddwr a oedd yn peintio – ac mae’n parhau i fod yn enghraifft ragorol o’r cyntaf o’r ddau yn ei 88ain blwyddyn.
Rhoddodd gychwyn ar yr hyn a ddatblygodd yn yrfa broffesiynol faith fel artist ac addysgydd celf uchel ei pharch yn ne Cymru yn 1945. Yn yr union flwyddyn honno cynhyrchodd furlun cyhoeddus mawr, The Pleasures of Peace, ar gyfer hostel Pencoed ym Mhencoed, a pheintiad îsl bychan Margam Abbey. Dechreuodd addysgu yng Ngholeg Celf Caerdydd yn 1945. Ymhlith ei myfyrwyr niferus roedd y peintwyr Charles Burton, Ivor Davies, Gwyn Evans, Gillian Hilbourne, Glyn Jones, Mary Lloyd Jones, Peter Prendergast ac Ernest Zobole, ac ymlaen hyd genhedlaeth iau o beintwyr megis Brendan Burns, Carol Hiles a Sally Moore.
Bu Baker yn arddangos yn eang yng Nghymru o 1948 hyd 1962 ac mae enghreifftiau o’i gwaith cynnar, a oedd yn cynnwys peintiadau ffigurau, wedi dod i feddiant Cyngor y Celfyddydau yng Nghaerdydd, Oriel Gelf Glynn Vivian ac Adran Gwasansaeth Ysgolion Amgueddfa Genedlaethol Cymru. O 1964 hyd 1983 hi oedd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Astudiaethau a’r Pennaeth Sylfaen yng Nghaerdydd gan weithio ochr yn ochr â’r Cyfarwyddwr Astudiaethau a oedd newydd ei apwyntio, Tom Hudson (1922-98) ac, ar ôl ei ymadawiad ef, bu’n gweithio ar y cyd â’i chyn fyfyriwr Glyn Jones (g 1936) a ddaeth yn Athro Celfyddyd Gain cyntaf y sefydliad. Hyd yn oed ar ddiwedd yr 1970au, hi oedd yr unig aelod benywaidd o staff llawn amser yr Adran Sylfaen, ac roedd ei chydweithwyr yn cynnwys Christopher Shurrock (g 1939) a Stephen Young (g 1946). Cynhaliodd ei harddangosfa unigol gyntaf, Joan Baker: A Chosen Way, yn Oriel Gerddi Howard y coleg yn 1984.
Drwy gydol y cyfnod olaf hwn o ugain mlynedd, ac yn ystod y pum mlynedd ar hugain ers hynny, mae hi wedi parhau i beintio arfordir, gerddi, parciau, coedydd a bryniau’r Forgannwg y mae hi’n ei hadnabod fel cefn ei llaw.
Dr Ceri Thomas