Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mer, 23 Maw 11 16:20:00
16 Hydref 2010 – 2 Ebrill 2011
Ychydig iawn o bethau sy’n cystadlu â’r cyffro o deithio, boed yn deithio yn eich gwlad eich hun neu i wledydd tramor. Ond ydych chi wedi ystyried sut mae pobl o Gymru wedi teithio ar hyd y canrifoedd?
O fapiau hynafol i dyddiaduron mordaith; o bosteri rheilffordd i lythyrau gan ymfudwyr; mae’r arddangosfa fawr hon yn tynnu sylw arbennig at gasgliadau teithio unigryw Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Llyfryn Byd Bach
Yn dilyn ein cais am wybodaeth ynglŷn â Islwyn Roberts, Llanbedr, Sir Feirionydd, a fodiodd ei ffordd rownd y byd, yn dal arwydd â ‘Pays de Galles’ arno, cafwyd nifer fawr o ymatebion:
Bu Islwyn farw ym Mehefin 1993 ac mae erthygl goffa iddo yn rhifyn Gorffennaf 1993 o'r papur bro Llais Ardudwy Nid oedd yn briod a nid oedd ganddo blant.Mae’n debyg fod Islwyn Roberts wedi colli rhan helaeth o’i glyw yn ystod y rhyfel o ganlyniad i ffrwydriad bom.Bu’n gweithio mewn ffreutur yn Dyffryn Ardudwy yn 1967/8 tra’r oeddent yn adeiladu’r lle carthffosiaeth newydd.Pan yn teithio byddai’n cario draig goch gyda’r geiriau “Taffy from Wales” arno.Bu’n byw, am gyfnod, mewn sied sinc drws nesaf i dy ei frawd yn Llanbedr.Arferai eistedd ar fainc yn Llanbedr bob dydd a byddai’n adrodd straeon am ei deithiau i bobl yr ardal, ac yn enwedig plant. Erbyn hyn mae plac wedi cael ei osod ger y fainc gyda hoff ymadrodd Islwyn arno – ‘Never Cut a Friend’.Cynhrychwyd cerdyn post gyda llun Islwyn yn eistedd ar y fainc gyda’r plac yn yr 80au/90au.Bu Islwyn yn ymweld â De AffricaCyfarfu Islwyn â'r Arglwydd Haw Haw. Bu iddynt sgwrsio gyda'i gilydd ar y fainc yn Llanbedr.
Agorwyd yr arddangosfa yn swyddogol gan Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymruar y 27ain o Hydref 2010.
Gellir gweld clipiau byr o'r agoriad swyddogol yma
Lluniau o agoriad swyddogol yr Arddangosfa, 27 Hydref 2010
Digwyddiadau'r Drwm23 Mawrth 2011'Yemen - From Aden's Stramerpoint to Cardiff's Tiger Bay'Patricia AithieWedi tynnu lluniau ac ysgrifennu am y Dwyrain Canol ers pum mlynedd ar hugain, bydd Patricia Aithie yn rhannu ei phrofiadau helaeth drwy lens ei chamera.Mynediad am ddim drwy docyn
30 Mawrth 2011'Margaret Jones - Y Gymraes o Ganan'Eirian JonesHanes y Gymraes anhygoel hon a'i theithiau o amgylch pum cyfandir yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.Mynediad am ddim drwy docyn
Cofnodion o flog Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy'n trafod yr arddangosfa:Lledu gorwelion: O Calais i Tibet
Byd BachUn o lawysgrifau David SamwellEitem ddiddorol
Islwyn - yma o hyd!Blog y Prif Weinidog Carwyn Jones
Digwyddiadau AllanolTeithwyr a Fforwyr - Arddangosfa newydd o Lyfrau Prin yn Llyfrgell Hugh Owen