Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?

Gwobr Pwrcasu Richard a Rosemary Wakelin 2011

Gwe, 13 Mai 11 09:44:00

7 Mai - 30 Mehefin 2011

Rhoddir y wobr flynyddol hon i arlunydd o Gymru sydd wedi gwerthu ei waith ar gyfer y casgliad parhaol yn Oriel Glynn Vivian, Abertawe. Andrew Green, y Llyfrgellydd yn Llyfrgell Genedlaethol  Cymru, oedd yn dewis yr enillydd ar gyfer 2011. Caiff y wobr ei gweinyddu a'i chefnogi gan Gyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian, a chaiff ei hariannu gan roddion er cof am Richard a Rosemary Wakelin, a fu'n arlunwyr eu hunain ac yn gefnogwyr gweithgar o'r celfyddydau yn Abertawe.Enillydd Gwobr 2011 yw’r cerflunydd ceramig Meri Wells.Mae’r rhestr o enillwyr blaenorol yn cynnwys Robert Harding, David Tress, Pete Davis, Craig Wood, David Garner, Tim Davies, Dick Chappell, Brendan Stuart Burns, Anthony Shapland, Catrin Webster a Jonathan Anderson.Bydd y gweithiau buddugol yn cael eu harddangos rhwng 7 Mai a 30 Mehefin 2011.

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 11-10-2010