Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?

Of a Feather - Colin See-Paynton

Iau, 19 Gor 07 16:18:00


Mae Colin See-Paynton yn adnabyddus fel dehonglwr nodedig o engrafu pren. Mae’n Gymrawd yr Academi Frenhinol Gymreig, yn Gymrawd Anrhydeddus y 'Royal Society of Painter Printmakers' ac yn aelod o Gymdeithas yr Ysgythrwyr Pren. Mae’n arddangos ei waith yn eang mewn arddangosfeydd grŵp a rhai solo ac mae’n arddangoswr mynych yn Arddangosfa Haf yr Academi Frenhinol. Mae enghreifftiau o’i waith wedi eu cynnwys mewn llawer o gasgliadau preifat a chyhoeddus gan gynnwys Amgueddfa Fictoria ac Albert, yr Ashmolean, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.      

Mae’r arddangosfa hon, 'Of a Feather – An Avian Alphabet', yn cynnwys un ar ddeg ar hugain o engrafiadau mawr a deg ar hugain o rai bychan sy’n amrywio o ‘Abandonment of  Cuckoos’, drwy ‘Gaggle of Geese’, ‘Tiding of Magpies’ hyd ‘Zephyr of Longtailed Titmice’. Gwyddor gyflawn a barddonol i’w rhyfeddu o enwau torfol a gyhoeddir, ynghyd â thestun Colin See-Paynton, yn llyfr gan Wasg Gregynog yn 2008.

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 11-10-2010