Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Sad, 01 Rha 07 09:30:00
Arddangosfa o weithiau o gasgliad Winifred Coombe Tennant, un o noddwyr celf mwyaf arwyddocaol yr ugeinfed ganrif. Curadur yr arddangosfa yw Peter Lord ac mae'r gweithiau a ddangosir gan artistaid megis Evan Walters, Kyffin Williams, Gwen John a John Elwyn, o gasgliadau preifat a chyhoeddus.
Bu Winifred Coombe Tennant (1874–1956) yn fwy ymglymedig ag esblygiad diwylliant gweledol Cymreig nag unrhyw noddwr cyffelyb yn ystod yr ugeinfed ganrif. Mae’r arddangosfa’n dathlu cariad Winifred at ddarluniau ac arteffactau, a’r arlunwyr a chrefftwyr a fu’n gyfrifol am eu creu. Mae’r mwyafrif o’r gweithiau’n dod o’i chasgliad personol, gydag eraill a phrynwyd ganddi ar ran casgliadau cyhoeddus, a rhai gweithiau cymharol. Adwaenai Winifred y mwyafrif o’r arlunwyr yn bersonol, fel y dengys y dyfyniadau o’i dyddiaduron a’i llythyrau.
Bu rôl Winifred fel noddwr arlunwyr a chrefftwyr yn rhan wirioneddol bwysig o’i bywyd. Er hynny, roedd yn berson cymhleth a ymddiddorai mewn nifer o weithgareddau amrywiol. Yn actifydd gwleidyddol, ymgyrchai dros y bleidlais i ferched a thros hunanlywodraeth i Gymru, a chymerodd sawl safiad cyhoeddus ar faterion cymdeithasol radicalaidd. Yn ystod blynyddoedd olaf llywodraeth glymblaid David Lloyd George yn dilyn y Rhyfel Mawr, bu Winifred yn ymwelydd cyson â 10 Stryd Downing. Ymgeisiodd am sedd yn y Senedd yn 1922. Bu’n weithgar dros y mudiad heddwch rhyngwladol a chynrychiolodd Brydain yng Nghynghrair y Cenhedloedd. Roedd Winifred ymysg y merched cyntaf i gael eu hapwyntio’n ynadon.
Roedd bywyd personol Winifred ynghyd â’i bywyd cyhoeddus yn rhyfeddol iawn. Dominyddwyd ei bywyd gan brofiad crefyddol. Yn Gristion ymroddedig, fe’i denwyd at arferion yr Eglwys Babyddol ac Eglwys Uniongred Rwsia. Yn ogystal, dangosai barch gwirioneddol at draddodiadau Anghydffurfiol. Roedd Winifred yn ganolwraig ysbrydol, a phrofai lesmeiriau ysbrydol clir a arweiniodd at ei chred ym mharhad bywyd yr unigolyn wedi marwolaeth.